Mae llawer o’r deunydd a gedwir yn Archifau Morgannwg yn adrodd stori sydd yn mynd lawer tu hwnt i’r argraffiadau cychwynnol a rydd yr eitem dan sylw. Cymerwch eitem gatalog D1045/7/2 – cerdyn, 12cm x 8cm, gyda’r geiriau ‘Admit bearer to Band Enclosure Cardiff Arms Park’ ac sydd wedi ei stampio ar 26 Gorffennaf 1958. Mae archwilio manylach yn datgelu fod ‘bearer’ wedi ei groesi allan a’i ddisodli gan ‘NCO and 10 Guardsmen’ ac, yn y gornel chwith uchaf, ceir pennawd ‘VIth British Empire and Commonwealth Games, Cardiff, 1958, Wales’.
Mae ychydig o ymchwil yn datgelu mai tocyn i un o’r digwyddiadau mwyaf yng Nghaerdydd oedd hwn – rownd derfynol yr athletau a seremoni gloi Gemau’r Gymanwlad a’r Ymerodraeth. Tra bod torf lawn o 34,000 wedi gwasgu i Barc yr Arfau ar gyfer y seremoni agoriadol yn gynharach y mis hwnnw, amcangyfrifir fod hyd at 43,000 wedi eu cywasgu i’r cae ar y diwrnod olaf. Roedd y gwarchodfilwyr yn aelodau o’r Gwarchodlu Cymreig ac, ynghyd â’u hofferynnau, byddent wedi bod yn cario’r gerddoriaeth ar gyfer y seremoni gan gynnwys ‘Auld Lang Syne’ a ‘We’ll keep a welcome in the hillsides’. Ar ben hynny, roedd disgwyl iddynt chwarae’r anthem gan fod y Frenhines yn westai anrhydeddus.
Cafwyd siom yn y prynhawn pan chwalwyd gobeithion tîm ras gyfnewid merched 4 x 100 lath Cymru wrth iddynt gael eu hel o’r gystadleuaeth yn y rownd gyn-derfynol am gyfnewid y baton yn anghyfreithlon. Ond erbyn diwedd y prynhawn codwy yr ysbryd wrth i’r dorf fod yn dyst i frwydr penigamp ar gyfer y fedal aur yn ras y filltir, a enillwyd yn y pen draw gan y rhedwr chwedlonol o Awstralia, Herb Elliott.
Ar ddiwedd y prynhawn, wedi cyflwyno’r medalau olaf, roedd hi’n bryd i Fand y Gwarchodlu Cymreig gamu i’r llwyfan wrth arwain y timoedd i Barc yr Arfau. Mewn dim o dro roedd y stadiwm yn reiat o liw a sŵn wrth i’r timoedd a’u baneri lenwi’r cae ac wrth i awyrennau’r Llu Awyr hedfan uwch ben. Cafwyd peth siom pan gyhoeddwyd nad oedd y Frenhines yn ddigon da i fynychu ac, yn lle hynny, ei bod wedi gyrru neges wedi ei recordio i’w chwarae dros system uchelseinydd y stadiwm. Fodd bynnag, roedd cyfrinach yn yr araith sef cyhoeddiad y Frenhines er mwyn nodi llwyddiant y Gemau bod ei mab, Charles, i gael ei wneud yn Dywysog Cymru. Adroddodd y papurau drannoeth fod y newyddion wedi ei dderbyn â ‘…mighty roar of pleasure that lasted nearly two minutes.’ Does dim dwywaith fod aelodau’r band yn barod ar gyfer y rhan fwyaf o bethau ond mae’n ddigon posib iddynt gael syrpreis gyda’r hyn ddigwyddodd nesaf, wrth i’r dorf ddechrau canu’n ddigymell ‘God Bless the Prince of Wales’.
Mewn cymhariaeth a ffurfioldeb y seremoni agoriadol, roedd yr hwyl ar i fyny ac fe dorrodd un aelod o dim, Bill Young, hyfforddwr gydag Awstralia, allan o’r rhengoedd er mwyn ysgwyd llaw â Dug Caeredin wrth iddo symud drwy’r cystadleuwyr. Arwr y byd athletau i Gymru yn ystod yr wythnos fu John Merriman a enillodd y fedal arian yn y ras 6 milltir. Nawr, wrth i’r timoedd adael y stadiwm, gyda llawer yn clymu breichiau wrth ganu ‘Auld Lang Syne’, John a redodd i eisteddle’r gogledd a thaflu ei het Panama i ganol y dorf. Fe ddechreuodd hynny ar don o daflu hetiau gyda sawl trilby brown yn cae eu taflu nôl i’r cyfeiriad arall. Cyn pen dim roedd y seremoni ar ben a chyda hynny daeth i ben wythnos a welodd Gaerdydd yn cynnal gŵyl o gerddoriaeth, canu, drama a dawnsio. Ni fu’n wythnos euraid i dîm Cymru, er iddynt ennill cyfanswm parchus o 11 o fedalau. Eto i gyd doedd dim amheuaeth y bu’r Gemau yn llwyddiant mawr, gyda’r papurau yn Llundain yn cyfeirio at Gaerdydd fel ‘a Mississippi of pleasant sound and colour’ a bedyddio’r Gemau yn ‘a festival of sport and more – a community of good fellowship’.
O ran Parc yr Arfau, lleoliad llawer o’r campau, roedd hi’n fater o fynd nôl i‘w busnes arferol wrth i’r gweithwyr symud i fewn ar ddiwedd y seremoni er mwyn dechrau paratoi ar gyfer y set nesaf o gemau rygbi. Eu targed oedd y trac rhedeg llwch coch lle crëwyd cymaint o recordiau yn ystod y Gemau, ac o fewn 24 awr, roedd wedi ei godi a’i dynnu oddi yno. Ar ben hynny, daeth milwyr o’r Peirianwyr Brenhinol i ddatgymalu’r bont dros dros dro a godwyd ar draws yr Afon Taf i gario’r miloedd o ymwelwyr i Barc yr Arfau. Gadawodd y Gemau gymynrodd buan fodd bynnag gyda sefydlu Gemau Cymru y flwyddyn ganlynol er mwyn rhoi llwyfan i ŵyl flynyddol o chwaraeon.
O ran aelodau band y Gwarchodlu Cymreig, rhoesant sioe dda yng nghanol rhialtwch y diwrnod. Gadewch i ni fod yn garedig iddynt a dweud eu bod nhw’n barod ar gyfer y perfformiad o ‘God Bless the Prince of Wales’ Ond a fyddech chi wedi bod yn barod? Ar gyfer y dyfodol, dyma’r geiriau.
Among our ancient mountains
And from our lovely vales
Oh, let the pray’r re-echo
God Bless the Prince of Wales
Gallwch weld y tocyn ar gyfer y seremoni gloi a ddefnyddiwyd gan yr NCO a 10 aelod band y Gwarchodlu Cymreig yn Archifau Morgannwg, law yn llaw â deunyddiau yn ymwneud â’r chweched Gemau’r Gymanwlad a’r Ymerodraeth, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 1958.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg