Caerdydd yn Croesawu’r Byd

Ymhlith y casgliad enfawr o ffotograffau a ddelir yn Archifau Morgannwg, mae tri a dynnwyd 60 mlynedd yn ôl sy’n rhoi cliw i ddigwyddiad mawr a afaelodd yn y ddinas a gweddill Cymru ym mis Gorffennaf 1958 gan sicrhau mai Cymru, am 8 diwrnod, oedd ffocws sylw nid yn unig ym Mhrydain ond ledled y byd.

1998-68-2

Yr un cyntaf yw ffotograff a dynnwyd o Heol Eglwys Fair tuag at Gastell Caerdydd. O edrych yn gyflym arno, mae’r olygfa’n ymddangos yn debyg iawn i sut roedd ei golwg mewn blynyddoedd diweddar, hyd nes troi’r stryd yn ardal i gerddwyr. Rhaid cyfaddef bod y ceir a’r dillad sy’n cael eu gwisgo gan y bobl sy’n mynd heibio yn bendant yn dod o’r 1950au ond mae’n dal yn bosib adnabod arwyddion siopau, gan gynnwys arwydd ar gyfer Bwyty Louis yn y gornel dde ar waelod y ffotograff ac adeilad Howells yng nghanol y llun. Ond edrychwch yn agosach ar siop adrannol Howells. Ar y to fe welwch gerflun efydd enfawr o ffigwr yn dal gwaywffon ac ar fin ei thaflu – y gellid honni – i gyfeiriad yr Hen Lyfrgell.

1998-68-1

Yr ail un yw ffotograff o Heol-y-Frenhines gan edrych unwaith eto tuag at y castell. Efallai nad yw’r un mor gyfarwydd â Heol Eglwys Fair a’r Stryd Fawr ond byddwch yn gweld nifer o adeiladau presennol os ydych yn edrych uwchben blaenau’r siopau, gan gynnwys hen du blaen Marks and Spencer a’r banc â’i du blaen colofnog ar ochr chwith y stryd. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod rhywbeth yn digwydd yno 60 mlynedd yn ôl gan fod y stryd dan ei sang â phobl. Yn ogystal, mae draig enfawr yn gorymdeithio i lawr canol y stryd.

rsz_ducah-43-30

Yn olaf, ceir ffotograff o grŵp mawr o fyfyrwyr yn sefyll y tu allan i fynedfa Neuadd Aberdâr yng Nghaerdydd. Sylwch ar yr amrywiaeth o wisgoedd cenedlaethol, gan gynnwys rhai o Gymru, yr Alban, Ynysoedd y Môr Tawel a Chanada. Yn ogystal, mae rhai pobl yn gwisgo dillad chwaraeon, gan gynnwys y cleddyfwr ar y dde. Fodd bynnag, caiff yr ateb i’r dirgelwch hwn ar yr arwydd sy’n cael ei ddal o flaen y grŵp:

 

Ym mis Gorffennaf 1958 cynhaliwyd chweched Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad yng Nghaerdydd. Roedd yn achlysur pwysig. Yn y gemau cyntaf a gynhaliwyd yng Nghanada ym 1930, roedd tîm cyfan Cymru’n cynnwys 2 gystadleuwr yn unig (nofwyr ill dau) – dim ond digon i gario’r faner a chario placard ‘Wales’ yn y seremoni agoriadol. Yn eironig ddigon, enillodd dyn o Gymru, Reg Thomas, fedal aur athletig yng ngemau 1930 ond roedd yn cystadlu dros Loegr gan nad oedd gan Gymru dîm athletig. Nawr, dim ond 28 mlynedd yn ddiweddarach, roedd Cymru’n cynnal y gemau gyda 36 o wledydd a 1400 o athletwyr a swyddogion yn cymryd rhan.

 

Dros yr wythnosau nesaf, trwy ddefnyddio’r cofnodion a ddelir yn Archifau Morgannwg, byddwn yn rhannu atgofion o fis Gorffennaf 1958 pan fu Cymru’n croesawu’r byd. I’r rhai sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y gemau, rhoddir manylion o ba le i weld y ffotograffau a’r cofroddion yn Archifau Morgannwg. Felly, gan ddechrau gyda’r erthygl hon, gellir dod o hyd i’r ffotograffau o Heol Eglwys Fair a Heol-y-Frenhines o dan gyfeirnod 1998/68 a cheir y ffotograff o Neuadd Aberdâr o dan gyfeirnod DUCAH/43/30.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s