Wedi’i sefydlu ym 1809, y Waterguard oedd cangen forol gorfodi refeniw’r DU. Daethai dan reolaeth y Morlys tan 1822, pan y’i symudwyd dan adain y Bwrdd Tollau, gan ddod yn adran o Dollau Tramor a Chartref ym 1909. Gydag ad-drenu Tollau Tramor a Chartref EM ym 1972, daethai’r enw Waterguard i ben yn swyddogol.
Credir i’r adeilad crenellog a ddangosir yma gael ei godi yn Nociau’r Rhath yn y 1850au, i fod yn swyddfa Dollau leol. Fe’i cadwyd pan adnewyddwyd yr ardal ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Ym 1993, cafodd yr adeilad cyfan ei symud ar drelar tua 100 metr i ffwrdd; a daeth yn flaen i dafarn newydd, a godwyd yn 2001 ac a enwyd The Waterguard. Dengys llun Mary Traynor y gwaith symud yn mynd rhagddo.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Sources consulted:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/50]
- Lee, Brian & Butetown History and Arts Centre, Butetown and Cardiff Docks (cyfres Images of Wales)
- https://en.wikipedia.org/wiki/Waterguard
- http://www.hm-waterguard.org.uk/ (nid yw’r gwefan ar gael mwyach)
- http://historypoints.org/index.php?page=former-customs-office-cardiff-bay