
D1093/2/47
Tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, morfeydd a gwastadeddau llaid oedd holl flaendraeth Caerdydd, a hwn a gysylltai Afonydd Taf ac Elái â Môr Hafren. Roedd cei’r dref yn sefyll lle mae Heol y porth erbyn hyn, ond dim ond ar lanw uchel y gallai’r llongau gyrraedd yno o’r môr. Doedd Bae Caerdydd fel y mae heddiw ddim yn bodoli hyd nes y datblygwyd y dociau yng Nghaerdydd a Phenarth.
Hyd yn oed bryd hynny, am ganrif a hanner, roedd y Bae yn fae llanw a thrai, gyda sianeli’r afonydd yn pasio drwy ardaloedd eang o wastadeddau llaid pan oedd y llanw ar drai. Dim ond ym 1999, yn dilyn cwblhau’r Morglawdd, y cronnwyd dyfroedd y Taf a’r Elái, gan greu llyn dŵr croyw ym Mae Caerdydd.

D1093/2/44

D1093/2/45
Mae’r gyfres o luniau gan Mary Traynor yn dyddio nôl cyn y Morglawdd. Mae D1093/2/45 a D1093/2/44 yn portreadu golygfeydd rhannau isaf Afon Elái, gydag Eglwys Awstin Sant, ar Drwyn Penarth, yn amlwg yn y cefndir.

D1093/2/49
Mae D1093/2/49 ar ochr ddwyreiniol y Bae, yn agos i hen loc Basn y Rhath.

D1093/2/46
Mae D1093/2/47 a D1093/2/49 yn olygfeydd mwy cyffredinol, ill dwy yn darlunio’r gwastadeddau llaid yn fyw iawn.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/44-47; D1093/2/49]
- Rees, William, Cardiff – A History of the City
- https://en.wikipedia.org/wiki/Cardiff_Bay_Barrage
Bae Caerdydd cyn y Morglawdd - Archifau Morgannwg