Y Tu Mewn i Weithdy Printio Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru, Collingdon Road, Caerdydd

Sefydlwyd Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru (CADC) ym 1974 gan chwe artist o dde-ddwyrain Cymru gyda’r nod o greu sefydliad cenedlaethol i gynrychioli artistiaid o bob disgyblaeth.  Nod y sefydliad oedd hybu beirniadaeth a thrafodaeth ddifrifol; diogelu a gwella safonau; cynghori a chynorthwyo aelodau a chyrff cyhoeddus a chydweithredu â sefydliadau eraill a oedd yn ymwneud â hyn yn yr un modd; creu rhagor o gyfleoedd gwell i ymarfer ac astudio; ac, yn fwy penodol, sefydlu canghennau gweithredol o’r gymdeithas ledled Cymru.

rsz_d1093-2-041

Erbyn 1981 roedd 11 o ganghennau CADC ledled Cymru, gyda’r swyddfa ganolog yng Nghaerdydd.  Roedd gan rai canghennau adeiladau oriel, stiwdio a gweithdy newydd at ddefnydd yr aelodau, ac roedd ambell gangen yn cynnal cyfresi rheolaidd o sgyrsiau, trafodaethau ac arddangosiadau trwy gydol y flwyddyn.

 

Roedd y gymdeithas yn cael ei hariannu’n bennaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a chafodd ragor o arian trwy danysgrifiadau’r aelodau a rhenti adeiladau stiwdio.  Roedd incwm ychwanegol yn cael ei greu trwy’r cylchgrawn ‘Link’, a oedd yn cael ei gyhoeddi gan y gymdeithas i roi newyddion, gwybodaeth, beirniadaeth, adolygiadau a barn ar faterion celf a dylunio.  Ymgymerwyd â’r rôl benderfynu gan bwyllgor weithredol genedlaethol a oedd, i bob pwrpas, yn llais artistiaid proffesiynol yng Nghymru.

rsz_d1093-2-043

Roedd aelodaeth lawn yn agored i unrhyw artist proffesiynol yng Nghymru, gyda chategorïau aelodaeth eraill i fyfyrwyr a’r rhai nad oeddent yn artistiaid proffesiynol ond a oedd, serch hynny, yn gweithio i gefnogi nodau’r gymdeithas.  Erbyn canol y 1980au roedd rhai cannoedd o aelodau ond erbyn 1992, oherwydd anfoddhad mewnol o ran sut roedd materion y gymdeithas yn cael eu trin, yn ogystal â diffyg arian a staff, nid oedd y gymdeithas yn gallu gweithredu’n ddichonol a phenderfynwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol olaf ym mis Mawrth 1992 i ddiddymu’r CADC a ffurfio sefydliad newydd i artistiaid, sef Cymdeithas Artistiaid Gweledol Cymru (CAGC).  Fodd bynnag, roedd CAGC yn llai dylanwadol na’r sefydliad blaenorol, ac i bob pwrpas daeth honno i ben yn llwyr ar ôl 1994. Diddymwyd y gymdeithas honno’n ffurfiol ym 1998.

 

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

One thought on “Y Tu Mewn i Weithdy Printio Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru, Collingdon Road, Caerdydd

  1. Y Tu Mewn i Weithdy Printio Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru, Collingdon Road, Caerdydd - Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s