Credir y bu melin flawd yn Nhrelái ers y 12fed ganrif o leiaf. Ar lannau Afon Elái wrth ochr y llwybr cerdded, Birdies Lane, roedd cored yn ei gwasanaethu ychydig ffordd i fyny’r afon. Mae cyfrifiad 1851 a chyfrifiad 1861 ill dau yn nodi mai Griffith David oedd y melinydd; erbyn 1871, ei fab, John David, oedd yn gwneud y gwaith. Ym mis Mawrth 1875, fodd bynnag, gwnaeth y teulu David gais am iawndal ym Mrawdlys Morgannwg am niwed a wnaed gan waith cloddio gan Cwmni Gwaith Dŵr Caerdydd. Pan wnaeth David Jones o Wallington fraslun o’r adeilad ym 1888, nododd fod yr adeilad ‘yn wag ac yn mynd â’i ben iddo’.
Roedd y Cwmni Gwaith Dŵr wedi datblygu gorsaf bwmpio ger y felin tua’r flwyddyn 1850. Roedd yn tynnu dŵr o’r afon i gyflenwi tref Caerdydd, oedd yn prysur dyfu, drwy gronfa yn Penhill. Mae darlun Mary Traynor yn dangos un o’r adeiladau oedd ynghlwm wrth y gwaith hwn – mae un ffynhonnell yn ei ddisgrifio fel storfa lo gyda llety uwchben ar gyfer y goruchwyliwr a’r deulu.
Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, roedd dŵr Caerdydd yn dod o gronfeydd mawr ym Mannau Brycheiniog, a ffynhonnell wrth gefn oedd Elái. Ymddengys bod yr orsaf bwmpio wedi peidio ag ategu cyflenwad dŵr Caerdydd yn ystod y 1920au. Mae cyfleuster preifat yn yr un safle bellach yn cyflenwi dŵr i Orsaf Bŵer Aberddawan.
David Webb, Glamorgan Archives Volunteer
Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/40]
- Cyfrifiad 1851 – 1871
- Western Mail, 5 Mawrth 1875
- Matthews, John Hobson (ed), Records of the County Borough of Cardiff, Cyf V, t.457-469
- Billingham, Nigel & Jones, Stephen K., Ely, Caerau and Michaelston-super-Ely (cyfres Archive Photographs)
- History and Archaeology of the Ely Trail (ar gael arlein at formerly.cardiff.gov.uk/objview.asp?object_id=13861)
- http://www.cardiffians.co.uk/suburbs/ely.shtml
- http://www.coflein.gov.uk/en/site/404687
- http://www.whitchurchandllandaff.co.uk/sunnybanks.htm
Gorsaf Bwmpio ar safle Melin Trelái - Archifau Morgannwg