Wedi ei adeiladau, o bosibl, yn rhan o’r hen Cardiff and Channel Mills, ac wedi ei ymestyn i fyny yn ddiweddarach, safai’r warws yn y ffotograff gan Mary Traynor ar lan ddwyreiniol Doc Dwyreiniol Bute.
Fe’i dinistriwyd gan dân, damweiniol mae’n debyg, ar 12 Ionawr 1986. Roedd adroddiad yn y South Wales Echo drannoeth yn sôn am y ffordd y llesteiriwyd gwaith yr ymladdwyr tân oherwydd bod llawer o ddrysau a ffenestri’r adeilad segur wedi eu cau gan frics. Er bod y diwedd wedi dod yn gynt oherwydd y tân, mae’n debygol y byddai’r warws wedi cael ei ddymchwel cyn hir beth bynnag, er mwyn creu lle ar gyfer y Ffordd Gyswllt Ganolog a agorodd ym 1989.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/37]
- South Wales Echo, 13 Ionawr 1986
- Williams, Stewart, Cardiff Yesterday, cyf. 13, delwedd 89
- http://www.changingcardiff.co.uk/cardiff-then-now/
- https://www.facebook.com/RememberOldCardiff/
- http://robskinner.net/2014/05/26/cardiff-bay-before-regeneration/
Warws, Doc Dwyreiniol Bute (Dinistriwyd gan Dân) - Archifau Morgannwg