Bu farw William Catleugh, saer melinau a phensaer o 4 Yr Aes, Caerdydd, ar 19 Rhagfyr 1851. Mr H. Scale oedd ei olynydd cyntaf yn y busnes ond yna bu i George Parfitt ac Edward Jenkins gymryd yr awenau. Ym mis Gorffennaf 1857, hysbysebodd Parfitt a Jenkins fod ‘y ffowndri bellach yn weithredol, ac y rhoddir pob archeb dan eu gofal ar waith yn brydlon ac i safon eithriadol.’
Er y lleoliad canol y ddinas – a oedd hefyd yn gartref i’r perchnogion – mae’n rhaid bod y ffatri o faint eithaf sylweddol oherwydd y bu iddo gynhyrchu peiriant locomotif ym 1862 i weithio traffig mwynau o bwll glo yn ardal Abertawe. Fodd bynnag, ar 1 Ebrill 1864, bu i’r Cardiff Times adrodd bod Parfitt a Jenkins wedi cymryd dros erw o dir ar brydles ym mhen Doc y Dwyrain, yn wynebu Tyndall Street. Gosodwyd tendr adeiladu ac roedd gwaith cloddio a pheirianneg eisoes yn mynd rhagddo i osod sail eu ffowndri newydd.
Er na chanfuwyd tystiolaeth benodol yn egluro tarddiad enw’r gwaith newydd, cyfeirir ym Meibl y Brenin Iago at Tubal Cain, sef gor-or-or-or-or ŵyr i Adda ac Efa fel ‘cyfarwyddwr pob crefftwr pres a haearn’. Felly, ymddengys ei fod yn enw addas ar beth y byddai Parfitt a Jenkins wedi ei weld fel estyniad enfawr ar eu busnes. Un llawr oedd i’r tŷ bwrw, adeilad petryalog o frics gyda thair ffenestr bengrwn ar ddeg ar hyd y wal orllewinol. Roedd cyfres o ategion haearn gyrru yn atgyfnerthu’r to, gan roi enghraifft anarferol o do ategion clym-far agored.
Yn gyntaf, ymddengys y bu Parfitt a Jenkins yn rhedeg gwaith Yr Aes a Tubal Cain ond, mae’n debyg bod Ffowndri’r Aes wedi cau erbyn 1875. Bu farw George Parfitt ym 1886 ac Edward Jenkins ym 1888 ond parhaodd eu busnes i ffynnu.
Tra’n gwasanaethu’r diwydiannau morio a rheilffordd i ddechrau a oedd yn ehangu o amgylch Môr Hafren, ond oherwydd amrywiaeth y cynnyrch, roedd y cwmni’n hynod hyblyg. Yn fwy diweddar, fel rhan o Penarth Industrial Services Ltd, dywedir mai Tubal Cain oedd yr unig ffowndri a oedd yn cyflogi yn ne Cymru a allai gynhyrchu darnau unigryw yn hytrach na chyfresi cynhyrchu yn unig.
Pan oedd gwaith datblygu Bae Caerdydd yn bwrw yn ei flaen yn y 1980au, cyflwynwyd archeb brynu orfodol ar y gwaith. Yn ystod ymholiad cyhoeddus dilynol, dadleuodd y Gymdeithas Fictoraidd yn ddygn dros ei gadw. Fodd bynnag, oherwydd yr allyriadau mwg, baw a sylffwr deuocsid, daethpwyd i’r casgliad na ddylai’r ffatri barhau i weithredu ar y safle yn Tyndall Street ac yn hwyrach, fe’i dymchwelwyd.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/34]
- Y Beibl – Genesis, pennod 4, adnod 22
- Scammell & Co’s City of Bristol and South Wales Directory, 1852
- Wakeford’s Cardiff Directory, 1855
- The Cardiff Directory and Handbook, 1858
- Webster’s Directory of Bristol and Glamorgan, 1865
- The Post Office Directory of Monmouthshire and the Principal Towns and Places in South Wales, 1871
- Worrell’s Directory of South Wales and Newport, Monmouthshire, 1875
- Cyfrifiad 1851 a 1861
- The City and Port of Cardiff – Official Handbook, 1955
- The Monmouthshire Merlin, 26 Rhagfyr 1851
- Cardiff Times, 21 Mawrth 1862
- South Wales Echo, 12 Hydref 1886
- Cardiff Times, 20 Hydref 1888
- http://www.peoplescollection.wales/items/26968
- http://www.coflein.gov.uk/en/site/40463/details/TUBAL+CAIN+FOUNDRY%3BPENARTH+FOUNDRY/