Ym mis Hydref 1888, agorodd y County of Gloucester Bank County of Gloucester Bank Ltd ei gangen gyntaf ar Heol yr Eglwys Fair. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, dechreuodd gwaith ar godi cangen newydd Dociau Bute yn rhif 15 Sgwâr Mount Stuart. Tra bo’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo, fe brynon nhw’r safle drws nesaf yn rhif 16 a ymgorfforwyd i greu adeilad mwy. Roedd y busnes bancio ar y llawr gwaelod tra defnyddiwyd y lloriau uwch, a adwaenid fel y Gloucester Chambers, gan gwmnïau glo a llongau.
Meddiannwyd y County of Gloucester Bank County of Gloucester gan Fanc Lloyds yn 1897 ac ni pharhaodd cangen Sgwâr Mount Stuart lawer wedi hynny. O 1902 tan y 1950au, bu gan Evan Roberts Ltd – a adwaenid yn well flynyddoedd yn ddiweddarach am eu siop ar gornel Heol y Frenhines a Ffordd y Brenin – siop ddillad yn y lle a fu gynt yn fanc. Parhaodd Gloucester Chambers i gynnig swyddfeydd i amryw fusnesau, ond erbyn y 1930au fodd bynnag, roedd busnesau glo llongau wedi ildio’u lle i gwmnïau o gyfrifwyr a chyfreithwyr.
Yn y 1960au, gan adlewyrchu’r newid yn ffawd Dociau Caerdydd, daeth cwmni systemau ffeilio ac asiant comisiwn tyweirch yn denantiaid ar 15 ac 16 Sgwâr Mount Stuart, ond ymddengys ei fod yn wag erbyn 1970 – sawl blwyddyn cyn darluniad Mary Traynor o 1982. Bellach wedi ei ddymchwel, adeilad swyddfa brics cyfoes sydd ar y safle ynghyd â mannau parcio cysylltiedig.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/27]
- Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer estyniad i County of Gloucester Bank, 16 Sgwar Mount Stuart Square, 1891 [BC/S/1/8188]
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- Western Mail, 6 Hyd 1888
- South Wales Daily News, 19 Gorff 1890
- Evening Express, 18 Meh 1891
- South Wales Echo, 29 Maw 1954
- http://www.lloydsbankinggroup.com/Our-Group/our-heritage/our-history/lloyds-bank/county-of-gloucester-bank/
- http://coflein.gov.uk
Siambrau Gloucester, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd - Archifau Morgannwg