Ar 3 Hydref 1881, penderfynodd Bwrdd iechyd Lleol Penarth adeiladu baddonau nofio dŵr môr i wasanaethu’r dref. Yn wreiddiol y bwriad oedd iddo fod heb do ond arweiniodd y cynlluniau a ddatblygwyd dros y tair blynedd nesaf i’r adeilad y mae ei wedd allanol yn aros i raddau helaeth yn ddigyfnewid hyd y dydd hwn. Penodwyd James Cory yn rheolwr ym mis Mehefin 1884. Fodd bynnag mae’n ymddangos nad agorodd y Baddonau yn gyhoeddus tan y flwyddyn ganlynol.
Roedd dau bwll nofio yn yr adeilad, ynghyd ag ystafelloedd newid a chyfleusterau i ymolchi’n breifat. Roedd dŵr y môr yn cael ei bwmpio o’r ardal o dan y Pier i ddwy gronfa yn y cae (Gerddi Alexandra yn ddiweddarach) uwch ben a’r tu ôl i’r Baddonau cyn pasio trwy’r system hidlo i’r pyllau. Yn ystod rhan gyntaf yr G20, gosodwyd byrddau dros y pwll cyntaf yn ystod misoedd y gaeaf a’i ddefnyddio fel campfa.
Daeth y Baddonau yn segur pan agorodd Canolfan Hamdden Penarth yn y 1980au. Am gyfnod fe ddefnyddiwyd yr adeilad fel bar a thŷ bwyta dan yr enw ‘Inn at the Deep End’, ond wedi hynny fe ddadfeiliodd tan iddo gael ei drawsnewid yn bedwar tŷ ar ddechrau’r G21.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/25-26]
- Bwrdd Iechyd Lleol Penarth, cofnodion, 1875-1885 [LBPE/1]
- http://www.penarthtowncouncil.gov.uk
- Thorne, Roy, Penarth – A History Vol. 2 (1976)
- http://www.urbanghostsmedia.com/2013/06/adaptive-reuse-penarth-abandoned-swimming-baths-luxury-homes/
Baddonau Penarth - Archifau Morgannwg