Dechreuodd busnes Spillers yn wreiddiol yn Bridgwater, yng Ngwlad yr Haf, lle sefydlodd Joe Spiller ei felin flawd gyntaf ym 1829. O fewn ychydig flynyddoedd roedd wedi lledu’r busnes i ardaloedd eraill o Gymru a Lloegr. Agorodd yntau a’i bartner busnes, Samuel Browne, eu melin gyntaf yng Nghaerdydd ger Doc y Gorllewin ym 1854.
Ym 1889 unwyd busnes y felin yng Nghaerdydd â William Baker and Sons o Fryste i ffurfio Spillers and Bakers Ltd ac, erbyn dechrau’r 1890au, roedd y busnes yn cael ei redeg o sawl lleoliad ar wahân – yn bennaf ar Collingdon Road. Wedi sawl newid enw pellach, daeth busnes melin Spillers i ddwylo Dalgety ym 1979 a’i gwerthodd yn ddiweddarach i’r Kerry Group. Erbyn hynny, fodd bynnag, roedd y busnes yng Nghaerdydd wedi peidio.

D1093/2/23

D1093/2/30
Mae’r adeilad mawr sydd i’w weld yn D1093/2/23 a D1093/2/30 yn dangos enw’r cwmni yn falch ar do’r adeilad, ynghyd â’r dyddiad, 1893. Yn cael ei adnabod o hyd fel Spillers and Bakers, trawsnewidiwyd yr adeilad yn fflatiau ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif wrth ail ddatblygu Bae Caerdydd. Yr adeilad llai ym mlaen D1093/2/23 yw Depo Nwyddau’r Rheilffyrdd Prydeinig Stryd Tyndall. Wedi ei adeiladu yn wreiddiol tua 1877 ar gyfer y London and North Western Railway Company, ddiwedd yr ugeinfed ganrif fe’i hymgorfforwyd yn rhan o westy.
Roedd eu lleoliad yn agos i’r dociau yn cynnig cyfleoedd i’r cwmni sicrhau grawn o dramor yn ogystal ag o fannau yng ngwledydd Prydain ac, am gyfnod, bu Spillers and Bakers yn rhedeg eu fflyd o longau eu hunain.

D1093/2/24
Mae D1093/2/24 yn dangos melin newydd a ddyluniwyd gan Oscar Faber a’i chodi yn y 1930au ym mhen gogledd dwyreiniol Doc y Rhath. Fe’i hadeiladwyd o goncrid wedi ei atgyfnerthu, yn rhannol i leihau perygl tân ac fe geid seilos ynddo y gallai llongau a oedd wedi angori ar lan y doc ddadlwytho yn uniongyrchol iddynt. Dymchwelwyd y felin yn y 1990au.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/23-24; D1093/2/30]
- Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer ystordy nwyddau LNWR, 1874 [BC/S/1/857.2]
- http://www.gracesguide.co.uk/Spillers_and_Bakers
- https://en.wikipedia.org/wiki/Spillers
- http://www.engineering-timelines.com/scripts/engineeringItem.asp?id=1176
- http://www.coflein.gov.uk/en/site/415408/
- Williams, Stewart, Cardiff Yesterday, cyf. 11, delwedd 30
- Amryw cyfeirlyfr ar gyfer Caerdydd, 1893 -1937
Spillers and Bakers Ltd, Caerdydd - Archifau Morgannwg