Mae’n debyg bod South Wales & West of England Standard Manufacturing Company Ltd. wedi dechrau gweithredu yng Nghaerdydd fymryn cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ni cheir unrhyw gyfeiriad ato cyn 1913, ond y flwyddyn honno wnaeth Cyfarwyddiadur y Western Mail restru’r cwmni yn 43 Bute Street. Erbyn 1915, roedd y cwmni’n meddiannu ar safle mawr ar gornel yn wynebu Bute Street a Herbert Street, lle’r oedd yn cynhyrchu ac yn cyflenwi oferôls, dyngarîs, driliau, crysau, singledi a siwtiau oel caci a gwyn. Ym 1915, cafodd y cwmni ei gontractio i gynhyrchu miloedd o gitbagiau ar gyfer Corfflu’r Fyddin Gymreig am 1/11½d (ychydig yn llai na 10 ceiniog) yr uned.
Ym 1940, cafodd y cwmni ganiatâd i adeiladu estyniad i’w ffatri, a chredir bod darlun Mary Traynor yn portreadu wyneb yr estyniad hwn ar Herbert Street. Lluniwyd y cynlluniau ar gyfer yr estyniad gan T. Elvet Llewellyn, pensaer o Gaerdydd.
Erbyn y 1950au, roedd y cwmni’n marchnata ei gynhyrchion o dan yr enw brand Stamana (cywasgiad o STAndardMANufActuring yn ôl pob tebyg) ac mae cyfeirlyfrau yn dangos ei fod yn dal i weithredu o’r un safle – yr adnabuwyd erbyn hynny yn Stamana House – yn y 1970au. Bellach, mae’r adeilad wedi cael ei ddymchwel; mae rhan o’i safle wedi cael ei defnyddio i ledaenu’r ffordd, ac mae’r gweddill yn llecyn gwyrdd wedi’i dirlunio erbyn hyn ar ochr ddwyreiniol Stryd Bute rhwng Herbert Street a’r llwybr i gerddwyr a beicwyr sy’n arwain o dan reilffordd Bae Caerdydd.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/21]
- Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer estyniad i adeilad ffatri premises, 42 Bute Street, 1940 [BC/S/1/34142]
- Western Mail Cardiff Directory, 1913
- The City and Port of Cardiff – Official Handbook, 1955
- Kelly’s Directory of Cardiff, 1972
- http://cymru1914.org/cy/view/archive_file/3907059/3
South Wales & West of England Standard Manufacturing Company Ltd., Stryd Bute a Herbert Street, Caerdydd - Archifau Morgannwg