Un o’r eitemau mwyaf anarferol yng nghofnodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd a gedwir yn Archifau Morgannwg yw poster (28cm gan 43cm) gyda thaflenni maint cerdyn post ategol yn hysbysebu prynhawn o ‘Humorous Entertainment of Artistic Magic including Sleight of Hand, Novel Magical Effects and Oriental Magic’. I’w gynnal yn Neuadd Cory yng Nghaerdydd, ar 6 Ionawr 1919 am 2pm, roedd y sioe i’w chynnal gan Mr Douglas Dexter, ‘The well-known entertainer of London’. Hefyd, roedd eitemau cerddorol i’w darparu gan Barti Mr Shapland Dobbs.
Er bod y pynciau a drafodwyd gan ddarlithoedd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn amrywiol iawn, roedd hyn, heb amheuaeth, yn dir newydd i Gymdeithas a sefydlwyd i astudio’r gwyddorau naturiol. Rhoddwyd yr eglurhad ar gefn y taflenni.
This invitation is issued by the members of the Cardiff Naturalists’ Society who desire to give a pleasant afternoon to members of the Forces who happen to be in Cardiff.
Er i’r rhyfel ddod i ben gyda’r Cadoediad ar 11 Tachwedd 1918, roedd miloedd o ddynion a merched yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn aros i ddod adref. Yn Ionawr 1919 roedd Caerdydd yn ganolbwynt mawr i filwyr a oedd yn dychwelyd i dde Cymru. Roedd hefyd nifer o ysbytai milwrol yn y dref a’r ardaloedd cyfagos. Roedd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn amlwg am chwarae’i rhan wrth helpu i roi adloniant i’r lluoedd arfog. Gallai’r gyngerdd hefyd fod wedi cyfrannu at ‘Bythefnos Diolch’, cyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Faer Caerdydd yn Ionawr 1919 i wobrwyo’r milwyr a chodi arian at elusennau gan gynnwys Cronfa’r Brenin i Filwyr a Morwyr Anabl. Roedd yr adloniant am ddim i ‘Filwyr, morwyr a’r llu awyr (boed o Brydain, y Trefedigaethau a Chynghreiriaid) ar wyliau neu sy’n yr Ysbyty’. Roedd y Gymdeithas yn disgwyl i Neuadd Cory fod dan ei sang ac roedd yn lleoliad llawer mwy na’r rhai a ddefnyddiai ar gyfer y rhan fwyaf o’i darlithoedd cyhoeddus. Er hynny, rhybuddiai’r taflenni:
It is regretted that the accommodation will not permit the admission of others than men in uniform.
Roedd Dexter yn ŵr adnabyddus. Fe’i ganed yn Arthur Marks yn Eastbourne ym 1878 ac yn athro wrth ei waith, gwnaeth Dexter gryn argraff fel consuriwr ac fel cleddyfwr o’r safon orau, a ddewiswyd i dîm Prydain yng Ngemau Olympaidd 1936. Ar brynhawn 6 Ionawr byddai’r rhai a ddaeth draw wedi gweld sgiliau un o brif aelodau’r Cylch Hudol. Ymhlith repertoire Dexter roedd triciau fel y Trywaniad Triphlyg, y’i cadwodd dan gêl, i’r graddau y gwnaeth siwio consuriwr arall a gyhuddodd o ddwyn ei syniadau. Roedd y cyfeiriad at hud artistig fwy na thebyg yn cyfeirio at dric yr oedd Dexter yn ei ddatblygu bryd hynny a oedd yn cynnwys sgarffiau sidan gwyn yn cael eu gosod mewn powlen wag ac yn dod ohoni’n lliwiau, fel petaen nhw wedi’u trochi mewn dei.
Yn Nhrafodion 1919 adroddwyd:
… an entertainment was held at the Cory Hall under the auspices of the Society, to which all of the wounded sailors and soldiers in the Military Hospitals were invited. Over 700 attended and had a thoroughly enjoyable time [Trafodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, Cyf LII, 1919, Caerdydd, 1922].
Heb amheuaeth cafodd Douglas Dexter gryn gymeradwyaeth gan y milwyr. Aeth ymlaen i berfformio mewn nifer o Berfformiadau Royal Variety ac i’r Brenin Siôr V yng Nghastell Windsor ym 1928. Cafodd y Fedal Aur gan y Cylch Hud ym 1926. Ond i Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, fodd bynnag, aeth pethau’n ôl i’r arfer yn ddiweddarach yn y mis gyda darlith gan Dr A E Trueman ar 23 Ionawr 1919, ‘Astudiaeth Ddaearyddol o Ardal Caerdydd.’
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
‘Adloniant Doniol Hud Artistig’: Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn cefnogi Ymdrech y Rhyfel - Archifau Morgannwg