Mae’r Adroddiad a’r Trafodion a lunnir bob blwyddyn gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn cynnig trysor cudd o ddeunydd ar bob agwedd ar y gwyddorau naturiol. Erbyn 1900, roedd y Gymdeithas yn ffynnu, gyda mwy na 500 o aelodau ac adrannau ar wahân ar gyfer archaeoleg, bioleg, daeareg, ffiseg a chemeg. Coladwyd yr adroddiad a’r papurau a gynhyrchwyd gan yr adrannau bob blwyddyn ac fe’u cyhoeddwyd fel cofnod o weithgareddau’r Gymdeithas ac fel cyfraniad at y ddealltwriaeth ehangach o’r gwyddorau naturiol. Gwelir cyfrolau rhwymedig o’r Adroddiad a’r Trafodion o’r adeg y crëwyd y Gymdeithas yn 1967 hyd at 1970 ar silffoedd yr ystafell chwilio yn Archifau Morgannwg. Wrth ddarllen ond un o’r llyfrau (er enghraifft, y gyfrol sy’n cynnwys adroddiadau ar gyfer y cyfnod 1897 i 1902), cewch eich dal, yn syth, gan ystod o ddeunydd wedi’i greu gan aelodau’r Gymdeithas. Mae rhywbeth at ddant a diddordeb pawb bron, gyda phapurau ar:
The Excavations carried out on the site of the Blackfriars Monastery at Cardiff
The Birds of Glamorgan
Effects of a lightning flash
The Great Flood of 1607
Notes on the Psalter of Ricemarch
Notes on the hatchery and fish hatching at Roath Park
The Geology of the Cowbridge District
Meteorological observations in the society’s district.
Fodd bynnag, os ydych yn chwilio am argymhelliad, beth am ddarllen darn gan Robert Drane yn Nghyfrol 33, “Olla podrida with Nescio quidquid Sauce”? Roedd Drane yn un o geffylau blaen y Gymdeithas o’r adeg y cafodd ei chreu yn 1867 hyd at ei farwolaeth yn 1914. Fe oedd aelod gydol oes cyntaf y Gymdeithas ac fe oedd Llywydd y Gymdeithas yn 1896-97. Roedd ganddo ystod eang o ddiddordebau ac roedd yn gyfrannwr rheolaidd at yr Adroddiad a’r Trafodion. Yn yr erthygl o’r enw ‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’, a gyflwynodd yn gyntaf fel darlith yn adran Fiolegol y Gymdeithas ar 15 Rhagfyr 1898, nododd ganfyddiadau un o lawer o’i ymweliadau â’r ynysoedd oddi ar arfordir Sir Benfro.
Yn yr adroddiad, mae Drane yn rhoi arsylwadau manwl ar fywyd gwyllt a’r planhigion ac anifeiliaid lleol y daeth o hyd iddynt ar yr ynysoedd ym Mehefin 1898. Nodweddir ei ysgrifennu gan lygaid craff a di-feth, boed wrth asesu cynnwys stumog Gwylan Y Penwaig a nodweddion corfforol y llygoden Sgomer neu’r amrywiaeth o Fanadl sydd i’w gweld ar Ynys Ramsey. Yn amlwg ymddiddorodd mewn ceisio chwalu theorïau cyfredol a llên gwerin leol ac, yn enwedig, yr awgrymiad ‘nad oes dim sydd wedi’i argraffu’n anghywir’. Er enghraifft, yn y papur, mae’r hawlio bod llygoden Sgomer, yn fwy na thebyg, rywogaeth newydd ac arbennig ac felly’n herio’r barn …awdurdod yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol…ei bod yn amrywiaeth leol o’r llygoden goch gyffredin. Mae hefyd yn dod i’r casgliad bod well gan Wylan Y Penwaig ddiet o wyau, gan gynnwys wyau Pâl, yn hytrach na chofnodion lleol sy’n nodi mai cwningod oedd ei phif fwyd.
Gwelir craidd y papur yn ei ymchwiliad o dri maes. Yng ngeiriau Drane ceisiodd i:
…determine the question of the specific difference of the Ringed and Common Guillemot, to find out what the Shearwater feeds on, and obtain some specimens of a large Vole, abundant there, which I am disposed to regard as an Island variety.
Mae’n adrodd yn fanwl ar bob pwnc. Fodd bynnag, fel yr arfer gyda Robert Drane, cewch lawer mwy. Er enghraifft, mae’n condemnio’r …casglwyr wyau ysglyfaethus…ar Ynys Gwales, yn canmol perchennog Ramsey am ofalu am boblogaeth Brain Coesgoch yr ynys ac yn holi perchenogion goleudy South Bishop am ystod a nifer yr adar y’u gwelid.
Gwelir hefyd yn yr adroddiad dameidiau o wybodaeth o’i arsylwad bod gan Bâl ar Sgomer 39 o lymrïod yn ei grombil i weld Gwyfyn Gwlithog ar Ynys Ramsey. Rhaid bod Drane, oedd yn 65 oed ar y pryd, a’i gydymaith oedd yn teithio gydag ef, cyd-aelod a Llywydd yn ddiweddarach o’r Gymdeithas, J J Neale, wedi diddanu a dychryn y bobl leol wrth iddynt edrych dros glogwyni i weld nythod Gwylogod a mynd â ffwng coden ffwg i’w goginio a’i fwyta. O ran hyn, dywedodd:
We took it home and, sliced it, fried it, and ate it for breakfast much to the doubt, if not to the disgust of the natives, who subsequently finding that we suffered no harm regarded us as gods…

Robert Drane a Joshua John Neale, aelodau o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, tua 1900, cyf.: DXIB23d
Ar gyfer adroddiad cyfoethog a manwl o’r bywyd gwyllt ar Ynysoedd Sir Benfro gyda thipyn o hiwmor a lliw lleol mae ‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’ yn werth ei ddarllen. O ran y teitl, mwynhaodd Drane osod her i’w gynulleidfa. Roedd papur blaenorol o’r enw ‘A Pilgrimage to Golgotha’ yn amlwg wedi gadael llawer o bobl mewn penbleth o ran ei gynnwys posibl. Esboniodd Robert Drane fod ‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’, felly, wedi’i ddewis yn ofalus …fel y mae pawb yma heno’n deall yn berffaith…yr hyn rwy’n mynd i siarad amdano…Efallai y byddaf yn gadael i chi ei weithio allan ar eich pen eich hunain. Mae Esboniad Drane ar dudalen 59 Cyfrol 33. Beth am ei ddarllen?
Os oes diddordeb gennych mewn cael gwybod mwy am Robert Drane a’r llawer o adroddiadau amrywiol a luniwyd gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, ceir copïau rhwymedig o’r Adroddiad Blynyddol a’r Trafodion ar gyfer 167 i 1970 ar silffoedd yr Ystafell Chwilio yn Archifau Morgannwg.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’: Trafodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd - Archifau Morgannwg