Pan sefydlwyd Bwrdd Ysgolion Caerdydd yn 1875, un o’i flaenoriaethau oedd darparu ysgol i 800 o blant yn ardal eglwysig yr Holl Seintiau. I ddiwallu’r angen hwn, sefydlwyd Ysgol Dros Dro Adamsdown yn yr ystafell ysgol dan Gapel Mount Tabor (y Synagog Diwygiedig Iddewig bellach) yn Moira Terrace. Yna derbyniodd y Bwrdd, gan yr Ardalydd Bute, safle ar ochr gogledd-orllewinol Sgwâr Adamsdown ac ysgol newydd, a gafodd ei dylunio gan y pensaer lleol W. D. Blessley, a’i hadeiladu gan Samuel Shepton, a agorwyd ar 31 Ebrill 1879.
Dros yr ugain mlynedd nesaf, ymddengys fod yr ysgol wedi cael ei hymestyn fwy nag unwaith, ac erbyn 1901 adroddwyd ei bod yn dal 888 o ysgolheigion.
Agorwyd ysgol gynradd arall yn ei lle yn 1985, yn System Street. Yna cafodd yr adeilad yn Sgwâr Adamsdown ei gau a’i ddymchwel tua 1988. Mae’r safle’n cynnwys dau floc o fflatiau nawr – Windsor Mews a Thŷ’r Ysgol.
David Webb, Glamorgan Archives Volunteer
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/19]
- Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun o Ysgol Fwrdd Adamsdown, South Luton Place, 1878 [BC/S/1/1637]
- Cofnodion Bwrdd Ysgolion Caerdydd, llyfr cofnodion y Pwyllgor Safleoedd ac Adeiladai, 1875-1881 [ESB68/21]
- Wythnos Addysg Dinas Caerdydd 1932
- Childs, Jeff, Roath, Splott and Adamsdown – One Thousand Years of History
- South Wales Daily News, 5 Ion 1899
- Weekly Mail, 8 Medi 1900