Trwy adeiladu’r M4 yng ngogledd Caerdydd, dechreuodd gwaith yn y 1970au ar ddatblygu cysylltiadau da o’r draffordd i mewn i rannau deheuol a chanolog y ddinas. Nawr iddo gael ei gwblhau, mae’r Ffordd Ddosbarthu Berifferol (A4232) yn ffurfio cylch, yn ymylu de Caerdydd rhwng cyffyrdd 30 (Porth Caerdydd) a 33 (Capel Llanilltern) yr M4.
Mae’r Ffordd Gyswllt Ganolog (A4234) yn cysylltu’r A4232 gyda chanol y ddinas. Yn costio £8.5 miliwn i’w adeiladu, fe’i agorwyd ar 16 Chwefror 1989. Yn cynnwys ychydig dan filltir o ffordd ddeuol, mae’r ffordd yn mynd o gylchfan Queensgate ym Mae Caerdydd, yn bennaf ochr yn ochr â hen Ddoc Dwyreiniol Bute, i Stryd Adam. Mae cyffordd lle mae’n croesi Tyndall Street, ac mae llun Mary Traynor yn dangos y cynheiliaid sy’n cario’r drosffordd ar y pwynt hwn.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/17]
- South Wales Echo, 17 Chwefror 1989
- https://en.wikipedia.org/wiki/A4234_road
- https://en.wikipedia.org/wiki/A4232_road