Warws Cydweithredol, Rhodfa Bute, Caerdydd

Dechreuodd y mudiad cydweithredol – y mae dosbarthu elw i aelodau yn ôl lefel eu pwrcasiadau yn rhan allweddol ohono – ym 1844 gyda’r Rochdale Pioneers Society yn Sir Gaerhirfryn.  Sefydlwyd cymdeithasau lleol eraill yn gyflym ledled gwledydd Prydain ac, ym 1863, ffurfiwyd The North of England Co-operative Wholesale Industrial and Provident Society Limited – neu The Co-operative Wholesale Society (CWS) yn ddiweddarach.  Erbyn troad yr 20fed ganrif roedd yna fwy na 1,400 o gymdeithasau cydweithredol yng ngwledydd Prydain.

Ar 24 Chwefror 1900, prydlesodd CWS ddarn o dir ar gornel Rhodfa Bute a Heol Mary Ann, Caerdydd.  Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cymeradwywyd cynlluniau i adeiladu warws deulawr ac is-lawr.  Meddiannodd yr adeilad ardal y bloc talach yn unig yn narluniad Mary Traynor.  Ym 1904, cawsant gymeradwyaeth i ychwanegu tri llawr ychwanegol i’r adeilad.

d1093-2- 018 Co-op Warehouse, Bute Crescent_compressed

Er i’r adeiladu gael ei ddynodi’n warws i ddechrau, roedd yn amlwg bod ei ddefnydd wedi newid pan gyflwynwyd y cynigion i adeiladu estyniad ar hyd Heol Mary Ann ym 1931.  Roedd yr is-lawr a’r lloriau daear bellach yn cael eu defnyddio i gynhyrchu menyn – roedd is-lawr yr estyniad newydd yn cynnwys storfeydd oer ar gyfer menyn a chig – tra bod y lloriau uwch yn gweithredu fel ffatri crysau.  Yn wir, dechreuodd gyfeiriadau at ffatri Crysau a Menyn ymddangos yng Nghyfeirlyfr Caerdydd 1929; parhaodd y disgrifiad i mewn i’r 1970au.

Ers hyn, mae’r ardal wedi’i hail-ddatblygu’n llwyr – dyw hi ddim yn hawdd dod o hyd i union leoliad yr adeilad CWS mwyach.  Byddai rhan ohono wedi’i ddefnyddio i ledaenu Rhodfa Bute, tra bod gwesty – sydd wedi bod ar agor dan sawl enw gwahanol (y Park Inn ar hyn o bryd) – yn meddiannu rhan fawr o’r safle.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/14]
  • Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer warws, Rhodfa Bute, 1900 [BC/S/1/14127]
  • Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau warws, Co-operative Wholesale Society, Rhodfa Bute, 1904 [BC/S/1/15677]
  • Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer estyniad i warws, Co-operative Wholesale Society, Rhodfa Bute, 1931 [BC/S/1/28023]
  • Casgliad Lampard Vachell, cytundeb ar gyfer adeiladau a ffenestri, 1900 [DVA/19/2-3]
  • http://www.co-operative.coop/corporate/aboutus/ourhistory/
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd, 1890s -1970s

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s