Y Capel Ebeneser Gwreiddiol, Caerdydd

Yn 1826, sefydlwyd enwad Annibynwyr Cymreig cyntaf Caerdydd.  Daeth ei aelodau cyntaf o blith aelodau o Eglwys y Drindod ar Stryd Womanby, a’u man cwrdd cyntaf oedd adeilad The Old Coach House. Mae’n ymddangos mai tafarn oedd hwnnw ar stryd sydd bellach yn Heol y Porth heddiw.  Ymhen tua blwyddyn, cawson nhw safle i adeiladu eu capel eu hunain.  Cafodd Capel Ebeneser ei agor ar 3 Rhagfyr 1828 ar y stryd a enwyd  maes o law  yn Ebenezer Street a oedd yn rhedeg gyfochrog â Heol-y-Frenhines rhwng Heol Frederick a Paradise Place.  Roedd adeilad y capel gwreiddiol yn bedwar deg troedfedd (deuddeg o fetrau) o hyd a thri deg tri troedfedd (deg o fetrau) o led.

Oherwydd twf cynulleidfaoedd, cafodd yr adeilad ei estyn a’i uwchraddio ar sawl achlysur, a châi gwasanaethau eu cynnal yn Neuadd y Dref o bryd i’w gilydd tra roedd gwaith adeiladu yn mynd rhagddo.    Erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ei olwg yn debyg iawn i’w ymddangosiad yn narlun Mary Traynor.  Yn y wedd hon, roedd y capel ei hun ag oriel ar y llawr cyntaf ac roedd ystafell ysgol islaw.

d1093-2- 017 The Original Capel Ebenezer_compressed

Tua diwedd y 1970au, roedd yr adeilad hwn ymhlith nifer a gafodd eu dymchwel ar gyfer creu Canolfan Dewi Sant .    Diflannodd Stryd Ebenezer ac yn ei lle agorwyd cangen o Debenhams ar hen safle’r capel.  Yn dilyn hynny ad-leolodd Capel Ebeneser i hen adeilad yr Eglwys Annibynnol Saesneg ar Heol Siarl. Daeth yr adeilad hwnnw’n wag ar ôl i’r aelodau fu yno ymuno â’r Presbyteriaid er mwyn sefydlu Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas.  Yn 2010, cyhoeddwyd fod achos Ebeneser yn gadael Heol Siarl.  Mae’r eglwys ar hyn o bryd yn addoli yng Nghanolfan Gymunedol yr Eglwys Newydd a’r City Church ar Blas Windsor.

David Webb, Glamorgan Archives Volunteer

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor Collection [D1093/2/13]
  • Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynllun ar gyfer estyniad i Gapel yr Annibynnwyr Cymraeg Ebeneser, 1892 [BC/S/1/8486]
  • Hughes, Y Parch H M, Hanes Ebenezer Caerdydd 1826 – 1926 (1926)
  • Williamson, John, History of Congregationalism in Cardiff and District (1920)
  • Lee, Brian: Central Cardiff, The Second Selection (cyfres ‘Images of Wales’)
  • Hilling, John B & Traynor, Mary, Cardiff’s Temples of Faith (Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, 2000)
  • http://www.ebeneser.org
  • http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8517235.stm
  • The Cardiff & Merthyr Guardian, 22 Oct 1853

One thought on “Y Capel Ebeneser Gwreiddiol, Caerdydd

  1. Y Capel Ebeneser Gwreiddiol, Caerdydd - Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s