Adeiladau Imperial, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd

Yn hwyr yn y 19fed ganrif, roedd Gwesty’r Imperial yng nghornel gogledd-orllewinol Sgwâr Mount Stuart.  Nid oes llun o’r adeilad wedi’i weld ond nid oedd yn sefydliad mawr yn fwy na thebyg.  Mae cyfrifiad 1871 yn cofnodi mai chwe lletywr oedd gan y trwyddedai, Thomas Nixon.  Deng mlynedd yn hwyrach, roedd Nixon mewn gofal o hyd gyda naw lletywr.  Erbyn 1901, Emily Jolly oedd y perchennog, ac roedd ganddi bedwar lletywr yn unig.

Yn 1911, ceisiodd Alliance Buildings Company gymeradwyaeth i ailadeiladu ar y safle.  Yna, cymerodd le dau blot yn 43 a 44 Sgwâr Mount Stuart, er bod dyluniadau’r pensaer yn dangos bod gan y cwmni uchelgeisiau eisoes i ychwanegu estyniadau at y ddwy ochr yn y dyfodol.    Ddwy flynedd yn hwyrach cyflwynwyd cynllun diwygiedig, ac yntau’n ymgorffori eiddo yn 39, 40, 41 a 42 Sgwâr Mount Stuart, ac erbyn 1920 roedd yr adeilad newydd wedi’i gwblhau.

Gydag wyneb â theils gwydrog a cholofnau ffliwtiog yn rhan o’r dyluniad, roedd golwg palasaidd gan y strwythur pum llawr.  Mae’n ymddangos bod yr Adeiladau Imperial, fel y’u gelwir yn awr, wedi’u rhannu yn swyddfeydd bach.  Mae Cyfeiriaduron Caerdydd ar gyfer y 1920au a’r 1930au yn dangos bod ystod o fusnesau, ym meysydd siopa, rheilffyrdd, glo, olew, paent ac yswiriant yn bennaf yn gweithredu yn yr adeiladau.  Yn gyntaf, bar a bwyty, sef Gwesty’r Imperial, oedd ar y llawr gwaelod i ogledd-orllewin y Sgwâr ond mae’n ymddangos iddo ddiflannu erbyn canol y 1920au.

Yn y 1940au, roedd adrannau llywodraeth gan gynnwys y Swyddfa Werthuso, y Gwasanaeth Mewnfudo, Y Weinyddiaeth Gyflenwi, Bwrdd Cymru ar gyfer Diwydiant, Y Morlys a’r Bwrdd Masnach yn gweithredu yn y swyddfeydd.  Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae’n ymddangos bod Swyddog Baner Llyngesol, a oedd yn gyfrifol am amddiffyn porthladdoedd de Cymru yn cael llety yn yr Adeiladau Imperial; mae hefyd wedi’i awgrymu y mae’n bosibl y cafodd gwaith cynllunio ei wneud yma ar gyfer y glaniadau D-Day yn 1944 – er nad oes modd cadarnhau hyn.

d1093-2- 015 (Imperial Buildings)_compressed

Erbyn 1955, nid oedd yr Adeiladu Imperial wedi’u rhestri yn nghyfeiriaduron Caerdydd mwyach.  Mae’n ymddangos na chawsant eu defnyddio am ugain mlynedd cyn iddynt gael eu dymchwel yn hwyr yn y 1970au.  Mae llun Mary Traynor yn dyddio’r cyfnod hwn o ddirywiad ac yn dangos yr ongl rhwng ochrau gorllewinol a gogleddol y Sgwâr – lle’r oedd y gwesty gwreiddiol.  Codwyd bloc o fflatiau ar y safle tua 2001.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Casgliad Mary Traynor Collection [D1093/2/11]

Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer newidiadau i Gwesty’r Imperial, 1886 [BC/S/1/5607]

Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau Gwesty’r Imperial, 1911 [BC/S/1/17740]

Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau gwrthodedig Gwesty’r Imperial, 1913 [BC/S/1/18796]

Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau i ailadeiladu Gwesty’r Imperial, 1913 [BC/S/1/18890]

Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau Gwesty’r Imperial, 1914 [BC/S/1/18937]

Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau’r Adeiladau Imperial, 1914 [BC/S/1/19193]

Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau’r Adeiladau Imperial, 1916 [BC/S/1/19596]

Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ailadeiladu arfaethedig 45 Sgwar Mount Stuart, 1923 [BC/S/1/22189]

Cyfrifiad 1871, 1881 a 1901

Davies, J D, Britannia’s Dragon: A Naval History of Wales

Square peg

http://www.shipsnostalgia.com/showthread.php?t=42584

Llun wedi ei dynnu gan David Webb ym 1974

Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd, 1908 – 1972

 

One thought on “Adeiladau Imperial, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd

  1. Adeiladau Imperial, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd - Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s