Mae’r garreg dyddiad yn dangos y cafodd y teras hwn, a adnabuwyd fel Woodfield Place yn wreiddiol, ei godi yn 1860 ar ben gorllewinol yr hyn oedd yn Roath Road ar y pryd. Ar ôl hyn, ymgorfforwyd yr eiddo fel rhifau 10 – 18 yn Heol Casnewydd wedi’i ailenwi.
Tan y 1920au, mae’n ymddangos mai cartrefi preifat yn bennaf oedd y pum eiddo. Yn glir, byddai’r meddianwyr wedi bod yn gymharol gyfoethog. Yn 1892, ceisiodd Dr Herbert Vachell ganiatâd adeiladu i ymestyn ei dŷ yn rhif 18, gan ychwanegu ystafell aros, ystafell ymgynghori a fferyllfa. Mae’n debygol yr oedd nifer o’r preswylwyr eraill yn dilyn eu galwedigaethau neu’n rhedeg eu busnesau o’u cartrefi.
Erbyn 1926, roedd Ysgol Llaw-fer Caerdydd (Coleg Cleves mewn blynyddoedd hwyrach) yn meddiannu rhif 14 gan aros yno tan yn hwyr yn y 1960au pan symudodd i 96 Heol Casnewydd. Mae Cyfeirlyfr Caerdydd 1937 yn rhestru’r pum tŷ fel busnesau neu safleoedd proffesiynol, er ei bod dal yn bosibl yr oedd y perchenogion yn byw uwchben y busnesau hyn.
Dymchwelwyd rhifau 10 – 18 Heol Casnewydd yn oddeutu 1980, ynghyd â theras cyfagos. Ar ôl hyn, ailddatblygwyd y safle gyda ‘phentref’ o flociau swyddfa, y’i gelwir yn Fitzalan Court. Yn fwy diweddar, mae’r adeiladau hyn wedi’u haddasu i gynnig llety i fyfyrwyr.
Mae preswylwyr blaenorol enwog yn cynnwys John Sloper (1823-1905) oedd yn byw yn rhif 10 o 1880 o leiaf tan gyfnod cynnar yn yr 20fed ganrif. Cynghorydd ac ynad Caerdydd oedd a rhodd ei enw i Sloper Road, lle’r oedd yn gydberchennog o danerdy oedd cyferbyn â Pharc Sevenoaks. Roedd Edwin Montgomery Bruce Vaughan (1856-1919) yn byw yn rhif 14 yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Roedd yn ddyn lleol, a anwyd yn Heol Frederic ac a gafodd ei hyffordd fel pensaer a dyluniodd 45 eglwys ym Morgannwg, Eglwys yr Holl Seintiau yn y Barri ac Eglwys flaenorol St James the Great yn Heol Casnewydd – sef pellter byr o’i gartref yw’r rhai mwyaf nodedig Rhoddir clod i Bruce Vaughan hefyd am ddylunio nifer o adeiladau wedi’u portreadu yng Nghasgliad Mary Traynor.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/10; D1093/2/12]
- Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, cynllun newidiadau ac ychwanegiadau i 18 Woodfield Place, 1893 [BC/S/1/8956]
- 1881 – 1911 censuses
- Cyfeirlyfrau Caerdydd amrywiol
- Williams, Stewart, Cardiff Yesterday (gan fwyaf cyf. 33, delweddau 10 a 200)
- http://188.65.112.140/~daftscou/steve/Grange27.htm
- http://en.wikipedia.org/wiki/E._M._Bruce_Vaughan
Tai yn Heol Casnewydd, Caerdydd (Woodfield Place) - Archifau Morgannwg