Ar Fawrth y Cyntaf, mae ysgolion a chymunedau ar hyd a lled Cymru yn cynnal gorymdeithiau, yn gwisgo’r Wisg Gymreig ac yn canu a dathlu Cymreictod ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Gwelwn o lyfrau log penaethiaid ysgolion (dyddiadur o ddigwyddiadau’r dydd), fod Dydd Gŵyl Dewi wedi cael ei ddathlu yn ysgolion Cymru ers o leiaf ddechrau’r ugeinfed ganrif. Byddai’r bore wedi ei neilltuo i drafod Dewi Sant a chynnal cystadlaethau canu, perfformiadau a dramâu yn seiliedig ar hanes a chwedlau Cymru. Byddai’r plant yn cael hanner diwrnod o wyliau yn y prynhawn.
Roedd awdurdodau lleol hyd yn oed yn cyhoeddi cynghorion ar yr hyn y dylid ei ddysgu ar Ddydd Gŵyl Dewi ac yn cyhoeddi pamffledi oedd yn cynnwys hanes cryno a rhestri o ganeuon gwladgarol. Roedd awdurdodau addysg yn arbennig o awyddus bod ysgolion yn dathlu’r diwrnod yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Dengys taflen gan Adran Cymru’r Bwrdd Addysg ym 1915 fod pwyslais mawr ar wladgarwch a gwasanaethu eich gwlad. Roedd y diwrnod yn cael ei ddefnyddio i godi hwyliau pobl (cyf. GD/E/39/14,15).
Roedd rhai sefydliadau lleol yn trefnu ciniawau ffurfiol i nodi Dydd Gŵyl Dewi. Yn eu plith, roedd Cymrodorion Caerdydd. Y Prif Weinidog Stanley Baldwin oedd y gŵr gwadd pan drefnwyd cinio ganddynt yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar Fawrth y Cyntaf 1927 (cyf. D183/13,14). Perfformiodd Cerddorfa Herbert Ware o Gaerdydd yno (roedden nhw wedi ennill mewn Eisteddfodau Cenedlaethol yn y Barri, Pont-y-pŵl ac Abertawe). Roedd yno hefyd delynor a chafwyd perfformiad gan Gôr Ysgol uwchradd y Bont-faen i Ferched.
David Lloyd George oedd y gwestai arbennig ym 1928. Roedd hwn yn achlysur mawreddog iawn, gyda nifer o brydau bwyd yn cael eu gweini – yn cynnwys Cawl Cymreig. Rhoddwyd blas Cymreig iawn ar un o’r pwdinau – ‘savarins a l’Ananas a la St David’!
Mae gwisgo’r Wisg Gymreig yn un ffordd o ddathlu, yn enwedig ymhlith disgyblion ysgol.
Mae nifer fawr o luniau a phrintiadau o ferched a menywod yn y wisg draddodiadol yn Archifau Morgannwg. Roedd y wisg yr ystyriwn yn awr fel ‘gwisg Gymreig’ eisoes mewn bodolaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda’r het dal, sgertiau brethyn a siôl. Roedd yn ddelwedd gyffredin ar nwyddau i dwristiaid, yn gwpanau, cardiau post a hancesi! Mae yn un o’n llyfrau lloffion Fictoraidd (cyf. 1989/164) luniau dyfrliw hyfryd o wragedd mewn gwisgoedd Cymreig, ac mae’r lliwiau yr un mor fyw heddiw â’r diwrnod y’u paentiwyd.
Dymuna Archifau Morgannwg Ddydd Gŵyl Dewi Hapus i chi!