Lladrad Haerllug: Yr achos mawr cyntaf i Heddlu Morgannwg

Ymhlith y papurau sydd yn Archifau Morgannwg mae copi o gofnod a ysgrifennodd Uwch-Arolygydd Davies o Heddlu Morgannwg yn 1844. Roedd y fersiwn derfynol yn amlwg am gael ei phasio i ‘Arglwyddi’r Trysorlys’, yn nodi manylion trosedd a ddatryswyd gan Heddlu Morgannwg ac yn gofyn a ellid rhoi gwobr o £50 i ddau heddwas o Ranbarth Merthyr. Yr hyn sy’n rhyfedd yw, er bod y drafft a’r ohebiaeth sydd ynghlwm ag ef wedi eu dyddio yn 1844, cyflawnwyd y drosedd ei hun ym mis Tachwedd 1841.

Tyngodd aelodau cyntaf Heddlu Morgannwg eu llw i’r gwasanaeth ar 23 Hydref 1841. Cawsant wedyn gyfnod o hyfforddiant sylfaenol ym Mhen-y-bont cyn cael eu rhannu rhwng y pedwar rhanbarth ar ddiwedd trydedd wythnos mis Tachwedd. Os mai felly y bu, yna’r drosedd a nodwyd yn y cofnod, trosedd a gyflawnwyd ar noson 23 Tachwedd 1841, fyddai un o’r troseddau mawr cyntaf i’r heddlu fynd i’r afael â nhw.

Ar fore 24 Tachwedd 1841 galwyd y Rhingyll Evan Davies a’r Cwnstabl John Millward o Heddlu Morgannwg i Ynislaes, tŷ ger Aberpergwm i ymchwilio i ladrad. Tyngodd Davies a Millward eu llw i’r heddlu ar 23 Hydref. Cyfeiriodd adroddiad papur newydd ar y pryd at y ddau fel aelodau o Heddlu Newydd Merthyr. Mae hyn bron yn sicr yn gyfeiriad at yr Uwch-Arolygydd a’r 12 cwnstabl a rhingylliaid a neilltuwyd gan Heddlu Morgannwg i ardal Merthyr ym Mis Tachwedd 1841.

Roedd yn lladrad hynod o fentrus, er bod perchnogion y tŷ, Miss Elizabeth Ann Williams a Miss Maria Jane Williams, i ffwrdd yn Llundain; roedd y dihirod wedi dal gwn at y staff yn y nos ac wedi lladrata. Adroddwyd am y lladrad yn eang yn y papurau gan gynnwys yr adroddiad canlynol a gyhoeddwyd ar 27 Tachwedd:

On Wednesday morning last, between four and five o’clock, two men with their faces chalked , entered the house of the Misses Williams near Aberpergwm, and proceeding to the servants’ bedroom, one of them presented a double barrel gun at the terrified girls, and declared that if they made the least noise “Death should be their portion”. They then demanded to be shown where the money was kept and the poor girls were forced to accompany them through the different rooms of the house; but after a fruitless search, and money appearing to be their only object, they departed without committing any further outrage [Glamorgan, Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian, 27 Tachwedd 1841].

Er nad oedd y lladron wedi dod o hyd i arian, roeddent wedi llwyddo i fynd ag ystod o nwyddau. Fodd bynnag, roedd nifer o bobl wedi eu gweld wrth iddynt ddianc a llwyddodd Davies a Millward i fynd ar eu holau.

…they traced the villains to Hirwain, where two men answering the description were seen about half past seven o’clock the same morning; they also ascertained that they were seen passing through Aberdare towards Mountain Ash about nine o’clock in the morning. Here they lost all clue to them, but we trust they will not long elude the hand of justice [Glamorgan, Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian, 27 Tachwedd 1841].

Yn yr wythnosau canlynol daeth Millward a Davies o hyd i dystion eraill, gan gynnwys Mary Richards, a ddywedodd ei bod wedi clywed dau letywr yn nhŷ ei brawd yn holi ynghylch perchnogion Ynislaes ac a oedd yn debygol bod arian yno.  Ar 19 Rhagfyr arestiwyd dau ddyn gan y Rhingyll Evan Davies ym Merthyr: John Rogers, crud 43 oed a Thomas Rees, 28 oed. Roedd y gwn yn dal yn eu meddiant a nifer o’r eitemau a gymeront o Ynislaes gan gynnwys thermomedr, clustog pinnau ac acordion y daethpwyd o hyd iddo yng nghartref Rogers y tu ôl i’r silff ben tân. Adnabuwyd yr eitemau gan un o’r perchnogion, Miss Maria Williams, a chadarnhaodd y morynion mai Rees a Rogers oedd y lladron.

Ym mrawdlys Morgannwg ym mis Mawrth 1842, cafwyd Rogers a Rees yn euog a’u dedfrydu i’w trawsgludo am bymtheng mlynedd.  Rhoddodd y cogydd yn Ynislaes, Caroline West, adroddiad lliwgar llawn o’r lladrad i’r llys.

One of the men after coming into the bedroom pointed a gun at me and said “No more noise or death will be your portion.” Thomas Rees did that. The gun was close to my head. Hannah Jones begged of him not to kill me. Soon after I went downstairs and I saw Thomas Rees unlock the door of the bedroom and go into it. I said “I will ring the bell for master” and the other one said “Come, come let us go”. That was before they went down stairs. I opened the window and screamed “Murder”. The housemaid was so much frightened that she wanted to jump through the window [The Welshman, 4 Mawrth 1842].

Roedd agwedd lem gan y llys at ladrad arfog. Llwyddodd Rees a Rogers i osgoi cael eu trosgludo am weddill eu bywydau, cosb a ystyriodd y barnwr y buasai’n …gosb waeth na dienyddio oherwydd y byddech yn treulio gweddill eich dyddiau fel caethweision – mewn trallod…., oherwydd nad oedd eu hymddygiad ….wedi cynnwys trais tuag at y merched. [The Welshman, 4 Mawrth 1842].

Denodd yr achos mawr wobr o £50. Er y datryswyd yr achos pan gafwyd Rogers a Rees yn euog ym mis Mawrth 1842, mae’n anodd egluro pam y bu oedi am ddwy flynedd cyn y gwnaed cais i hawlio’r wobr ariannol. Fodd bynnag, mae cofnod bod John Nichol, fel AS Caerdydd a Chadeirydd llysoedd Chwarter Morgannwg, wedi ysgrifennu at y Trysorlys ar 18 Ionawr 1844 yn holi am y taliad i Millward a Davies:

…a reward of £50 offered by the Government in December 1841 to any person who should give such information and evidence as should lead to the discovery and conviction of the persons who had committed a daring act of burglary… [Llythyr wrth John Nicholl at Jas Graham Bart, 18 Ionawr 1844 a’r ateb 24 Ionawr 1844, cyf.: DMM/CO/71].

Er i Nichol atodi llythyr yn cefnogi’r cais gan Brif Gwnstabl Morgannwg, Charles Napier, gofynnwyd iddo ddarparu mwy o dystiolaeth.

Y mis canlynol anfonodd Napier gofnod yr Uwch-Arolygydd Davies ymlaen, sef pennaeth rhanbarth Merthyr o Heddlu Morgannwg, i gefnogi’r cais. Mae modd gweld yr ohebiaeth yma yn Archifau Morgannwg, gan gynnwys copi o’r cofnod oedd fwy na thebyg yn agos at fod yn ddrafft terfynol [cyf.: DMM/CO/71].

copy-memorial_edited

That about the end of December 1841 John Millward in conjunction with Police Sergeant Evan Davies apprehended Jno Rogers and Tho Rees for the same burglary on which charge they were committed for trial at the then next assizes for Glamorganshire.

That the said Jno Rogers and Tho Rees were …convicted of the same offence chiefly upon the evidence of John Millard and Sergeant Evans Davies who had both found some of the stolen articles in the possession of each of the prisoners and were sentenced to 15 year transportation.

…pray that your lordships will be pleased to direct the immediate payment of the said reward of £50.

Ar y pwynt hwn fodd bynnag mae’r trywydd yn mynd yn oer. Mae llythyr pellach a’r un olaf gan Napier i John Nichol, ar 8 Mawrth 1844, yn cadarnhau fod y cofnod wedi ei yrru ar 16 Chwefror ond yn nodi:

…as no reply has yet been received, I beg to solicit your assistance in obtaining an answer to the application [Charles Napier at John Nichol, 8 Mawrth 1844, cyf.: DMM/CO/71].

Mae’n bosib efallai i Millward ac Evans dderbyn y £50 – swm sylweddol yn y dyddiau hynny. Beth bynnag fu’r canlyniad, does dim dwywaith, wedi datrys achos lladrad Ynislaes o fewn dyddiau i gael eu rhoi ar waith, roedd Heddlu Morgannwg yn gwneud eu marc ar y llwyfan lleol a chenedlaethol.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s