Mae Archifau Morgannwg wedi cael ei meddiannu gan Ysgol Gynradd Goetre, Merthyr Tudful. Mae’r grŵp sy’n gweithio o fewn ymrwymiad cymdeithasol wedi ysgrifennu blog ynglŷn â beth wnaethon nhw ddarganfod yn yr Archifau.
**************
Yn y tloty doedd dim dyddiau di-waith i’r plant oherwydd os oeddent yn bwyta yna roedd rhaid iddynt weithio yna hefyd! Mae llawer o hanes am y ddwy dref Caerdydd a Merthyr Tudful. Erbyn hyn mae pwll Goetre a’r tŷ cychod wedi eu gorchuddio gan fwd a gwair. Mae’r eitem hynaf yn Archifau Morgannwg yn bron I 850 mlwydd oed. Mae yna ddyddiaduron am y plant a ysgrifennwyd gan y pennaeth ym 1862 – Libby a Samia
Yn yr ystafelloedd sicr gallwch symud y silffoedd drwy droi i’r chwith ac i’r dde ac mae’r botwm canol yn gallu cloi trwy ei wthio ac agor trwy ei thynnu – Lewis
Gwnaeth Thomas Barry dwyn 6 tarten rhiwbob ac fe aeth i’r carchar am 14 diwrnod ac i’r ysgol benyd pan oedd yn saith a hanner. Roedd y peth hynaf yn 850 mlwydd oed ac roedd yn ddarn o bapur o Harri II a alwyd yn grant – Allicia ac Elle
Dysgom fod pwll Goitre yna ychydig o flynyddoedd yn ôl ac roedd yna dŷ cychod ond nid yw yna heddiw mae wedi ei orchuddio fel coedwig fach – Cameron a Callum