Mae Cwnstabliaeth Morgannwg yn dathlu pen-blwydd ei ffurfio 175 o flynyddoedd yn ôl yn 2016. Mae llawer o’r papurau sy’n ymwneud â sefydlu’r llu a’i hanes hir i’w cael yn Archifau Morgannwg. Mae’r cofnodion yn rhoi cipolwg fanwl i ni ar ffurfio a datblygiad y llu ers 1841, ac yn agor cil y drws ar fywyd yn ne Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif.
Mae’n destun dadl pa bryd yn union y ffurfiwyd y gwnstabliaeth. Gellid dadlau iddi gael ei ffurfio adeg penodi’r Prif Gwnstabl cyntaf, Charles Frederick Napier, ar 11 Awst 1841. Yn fwy tebygol efallai ffurfiwyd y llu wrth i’r criw cyntaf o recriwtiaid dyngu llw yn Neuadd y Dref Pen-y-bont ar Ogwr ar 23 Hydref 1841. Mae’r dogfennau gwreiddiol ddefnyddiwyd yn y seremoni tyngu llw i’w cael yn Archifau Morgannwg. Fe’i defnyddiwyd i weinyddu’r llw ei hun a chofnodi llofnodion y recriwtiaid. Goruchwyliwyd y seremoni gan y Prif Gwnstabl, Capten Charles Napier, y pedwar Uwch-arolygydd oedd newydd eu penodi ac ynadon lleol. Byddai’r ddogfen wedi cael ei rhoi i bob dyn yn ei dro oedd wedyn yn gorfod tyngu llw, gan nodi ei enw ar y llinell gyntaf.
I … do swear that I will well and truly serve our Sovereign Lady the Queen and the office of the Constable for the County of Glamorgan according to the best of my skill and knowledge. So keep me God [cyf.: DCON/Box26b].
Roedd pob dyn wedyn yn llofnodi’r cofnod. Er i Napier lwyddo i sicrhau cyllid i gyflogi 34 o Ringylliaid a Chwnstabliaid, dim ond 30 oedd yn bresennol y diwrnod hwnnw ac fe gwblhawyd y llu yn llawn pan dyngodd mwy o recriwtiaid a chofnodi eu henwau ar yr un ddogfen dros yr wythnosau dilynol. Gan i’r recriwtiaid lofnodi eu henwau, yn hytrach na rhoi marc yn unig, oedd yn arfer cyffredin y dyddiau hynny, awgryma hynny bod ganddynt sgiliau darllen ac ysgrifennu elfennol. Mae’r cofnod hefyd wedi ei lofnodi gan Napier a’r pedwar uwch-arolygydd; Lewis,Davies, Leveson-Gower a Peake, fwy na thebyg ar 19 Hydref, 4 diwrnod cyn seremoni Pen-Y-Bont Ar Ogwr.
Tybir nad oes cofnod ffotograffig o’r seremoni wedi goroesi. Fodd bynnag, mae’n rhesymol tybio y byddai’r 30 gŵr wedi bod yn grŵp trawiadol o ystyried bod y recriwtio wedi tynnu ar gyn-filwyr oedd yn gyfarwydd â drilio milwrol. Mae nifer o ffotograffau gan Archifau Morgannwg o aelodau Cwnstabliaeth Morgannwg yn y cyfnod hwn [cyf. DXDG4-6] ac mae’n bosib bod un o’r ffotograffau, o’r Cwnstabl Thomas Thomas, yr un Thomas Thomas a dyngodd lw ac a lofnododd ei enw ar 23 Hydref [cyf. DXDG4].
Mae’r ffotograff yn dangos Thomas yn gwisgo siaced las gynffon gwennol â gwregys gyda botymau arian boglynnog iddi. Mae coler uchel hefyd i’r siaced, gyda rhif y cwnstabl wedi ei frodio arno mewn arian. Dangosir Thomas yn dal yr het sidan beipen stôf wedi ei hatgyfnerthu ag ategion metal i roi mwy o amddiffyniad. Er nad yw wedi ei ddangos yn y ffotograff, byddai wedi gwisgo trywsus glas tywyll ac esgidiau mawr yn y gaeaf a thrywsus gwyn yn yr haf. Hwn oedd lifrai safonol Cwnstabliaeth Morgannwg am y ddegawd nesaf tan y disodlwyd y got gynffon gwennol, oedd ag iddi boced gudd yn y gynffon i guddio pastwn y cwnstabl, gan ffrog-côt.
Mae’n bosib taw’r eithriad y diwrnod hwnnw ym mis Hydref 1841 oedd y chwech o ddynion, dan arweiniad yr Uwch-arolygydd Thomas Morgan Lewis, gynt o’r llu a roddwyd i blismona cantrefi Caerffili Isaf a Meisgyn Isaf. Bu Lewis yn gwasanaethu yn y Coldstream Guards ac roedd wedi seilio’r lifrai a roddwyd i’w ddynion ar ddyluniadau milwrol. Mae’n bosib, felly, ei fod ef a’i ddynion yn dal i ddefnyddio’r lifrai gwreiddiol a gyflwynwyd gan Lewis a’i ddisgrifio fel:
…swallow tail coats … of bright pilot blue, while the turned back sleeve cuffs and the embroidered crown and number on each side of the deep colour were a vivid scarlet [E R Baker, The Beginnings of the Glamorgan County Police Force, The Glamorgan Historian, Cyf.2, t.40-52].
Roedd y 23ain o Hydref yn ddiwrnod arwyddocaol i’r Prif Gwnstabl, er y byddai mis arall yn pasio cyn y byddai’n fodlon fod ei ddynion wedi eu hyfforddi’n addas a’r offer ganddynt i ymgymryd â’u dyletswyddau dros y sir.
Mae manylion penodiad Napier a’r cynllun ar gyfer sefydlu Cwnstabliaeth Morgannwg wedi eu cadw yng nghofnodion Sesiynau Chwarterol Cyffredinol y Llys ar gyfer sir Forgannwg.
Captain Charles Frederick Napier, now of the Rifle Brigade, after a consideration of the Testimonials of the several Candidates having been unanimously selected by them, as the most eligible person to be appointed Chief Constable of this County – be elected to that Office [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Mercher 11 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].
Mae’n bosib na fu hwn yn benderfyniad hawdd achos mae bron yn sicr fod Thomas Morgan Lewis wedi taflu ei het i’r sgwâr ac fe ymgeisiodd sawl cyn swyddog milwrol yn gyhoeddus iawn am y swydd. Ar un ystyr roedd y penderfyniad i greu llu sirol yn ddatblygiad naturiol ar y grymoedd a roddwyd dan Ddeddf Heddlu Sirol 1839 i greu ac ariannu llu o’r fath. Fodd bynnag, mae angen gosod y penderfyniad hefyd yng nghyd-destun cynnydd sydyn yn y boblogaeth mewn rhannau o dde Cymru, a yrrwyd gan yr angen am ddynion ifanc yn y diwydiannau newydd ac yn benodol, y diwydiannau haearn a glo. Ar yr adeg, roedd plismona yn dod dan adain yr ynadon lleol ac wedi ei reoli gan benderfyniadau wnaed gan yr ynadon sirol yn y Sesiynau Chwarter. Roedd yr ynadon yn gwerthfawrogi’r angen am lu i blismona er mwyn cadw cyfraith a threfn mewn ardaloedd fel Merthyr, lle roedd y boblogaeth yn tyfu ar raddfa nas gwelwyd erioed o’r blaen. Roeddent hefyd yn bryderus iawn am yr anrhefn posib a’r her i’r drefn oedd ohoni gan fudiadau newydd, ac yn benodol y Siartwyr, oedd yn ymgyrchu dros hawliau sylfaenol i’r gweithiwr.
Does dim dwywaith fod mudiad y Siartwyr yn cael ei ystyried y pryd hwn yn fygythiad gwirioneddol yn ne Cymru. Er enghraifft, mae cofnod o gyfarfod yr ynadon ym Merthyr ar 2 Hydref 1840 yn tanlinellu’r pryder a fodolai ynghylch bygythiad y Siartwyr ac yn annog sefydlu Bwrdd Ynadon:
…for the purpose of communicating with the Lord Lieutenant and through him the Government upon the subject of the preservation of the peace of this place and for the adoption of such measures as circumstances may require for the suppression of Chartism.
Roedd pryder penodol bod achos y Siartwyr yn cael ei hyrwyddo mewn cyfarfodydd cudd a gynhaliwyd ledled yr ardal a thrwy bamffledi a ddosbarthwyd i bobl leol.
Deputies, delegates from the North occasionally are attending these meetings and are believed to be at present in this neighbourhood and Duke’sTown. Meetings are held nightly. That unstamped periodicals are circulating to considerable extent and that it is desirable that the matter contained in them should be brought under the consideration of the Government as it is the opinion of the Board that the statements therein are highly mischievous and dangerous to the public peace [Cyfarfod yr Ynadon ym Merthyr Tudful yn y Castle Inn, Merthyr Tudful, Hydref 12 1840, cyf.: DMM/CO/71].
Erbyn canol y 1830au, roedd nifer o ardaloedd, gan gynnwys Merthyr, Pen-Y-Bont Ar Ogwr ac Aberafan wedi dechrau penodi eu lluoedd plismona eu hunain. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth, yn wyneb pwysau o’r fath, nad oedd y patrymau traddodiadol o blismona drwy benodi un dyn bob blwyddyn ym mhob plwyf fel cwnstabl lleol di-dâl ddim bellach yn ddigonol i fynd i’r afael â’r straen oedd ar gymdeithas yn sgil diwydiannu a bod llafur yn mudo. I ariannu’r llu newydd roedd yr Ynadon sirol wedi cytuno y gellid ….codi Treth Plismona o £800 yn Ardaloedd y Sir at ddibenion yr Heddlu. Serch hynny, er gwaetha’r gydnabyddiaeth am yr angen i gael llu penodol i blismona, byddai hyn wedi bod yn fater dadleuol o ystyried yr amharodrwydd cyffredinol i osod trethi newydd. Yn benodol, roedd ardaloedd gwledig yn gweld hyn fel treth a osodwyd arnynt i ariannu plismona yn y trefi newydd oedd yn ehangu’n gyflym. Fel y gellid dychmygu, roedd Napier yn gweld y swm fel y lleiafswm isaf posib o ystyried yr angen i sefydlu a rhoi’r offer angenrheidiol i lu newydd. Roedd e hefyd yn awyddus i sicrhau bod rhyddid ganddo i reoli’r llu o ddydd i ddydd. I’r perwyl hwn, cytunwyd:
…the value and usefulness of the Force, must necessarily depend on the cordial co-operation of the Magistrates, with, and their full confidence in the Chief Constable; their total abstinence from all interference in recommending the appointment or dismissal of Individuals as Constables – his selection of the places as which they shall be fixed – his internal arrangement, or any other matter which the Legislature has committed to his charge [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Mercher 11 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].
Wedi cwblhau taith o’r sir, cyflwynodd Napier ei adroddiad cyntaf i’r Cyfarfodydd Sesiwn Chwarter ar 30 Awst 1841:
I propose the force be divided into three Classes viz Sergeants or First Class at 22s; Second Class at 20s: Third Class at 18s; the numbers would be Sergeants, Eleven; Second Class, Eleven; Third Class, Twelve [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Llun 30 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].
Roedd creu dau radd o gwnstabl yn gam a gymerwyd gan Napier yn benodol i ledu’r gyllideb ymhellach a chynyddu nifer y dynion y gallai alw arnynt. Ar ben hynny, awgrymodd Napier y dylid rhannu’r sir yn bedair ardal – Merthyr, Trecelyn, Abertawe ac Ogwr. Does dim dwywaith ei fod yn ymwybodol iawn lle’r oedd yr her fwyaf i’w lu a rhoddwyd 12 o’i 34 o ddynion i edrych ar ôl Merthyr, gan adael lluoedd teneuach yn yr ardaloedd eraill. Tanlinellodd hefyd gyflwr gwael ac, mewn ambell achos, ddiffyg llwyr yn yr adeiladau oedd ar gael i’w ddynion. Roedd rhan ganolog o’i gynnig yn ymwneud felly â’r angen i godi gorsafoedd a chelloedd ym mhob ardal.
Mae’r cynigion ar gyfer pob rhanbarth yn rhoi cipolwg ddefnyddiol i ni ar gyflwr hap a damwain y trefniadau plismona a etifeddwyd gan Napier, a’r her oedd yn wynebu’r Gwnstabliaeth newydd ym Morgannwg. Er enghraifft, wrth gyfeirio at Ferthyr, rhoddodd wybod i’r Cyfarfodydd Sesiwn Chwarter:
I have inspected the Cells at present in use in Merthyr and found them totally unfit for the reception of Prisoners, indeed so much so, that Magistrates find it necessary to place prisoners at Public Houses, in charge of a Constable, at a considerable additional expense to the County [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Llun 30 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].
Roedd sefyllfa debyg yn ardal Trecelyn:
In erecting a station house I would advise that apartments be provided for the Constable there stationed, with three Cells for Prisoners. At present there is no lock up house at this place. I consider Cells necessary for the security of Prisoners, as there is considerable risk in the present method of confining them at the private dwelling of the Constable.
I would recommend the erection of suitable lock up houses at Llantrisant and Caerphilly – the present Cells at these places are of the worst possible descriptions.
Roedd ei gynnig ar gyfer Abertawe yn dangos pa mor denau yr oedd yn gorfod taenu ei adnoddau. Dim ond Uwch-arolygydd, rhingyll a 5 swyddog oedd ar gael i’r ardal hon, gyda’r flaenoriaeth ar gyfer y rhannau mwyaf di-drefn a chan adeiladu partneriaethau â lluoedd plismona eraill yn yr ardal:
I think Pontardawe the most central part for the Residence of the Superintendent. The force allotted to this District, I consider small. I have placed the Constables where crime is most to be apprehended; and to the neglect of the Western Agricultural portion of the District, to which I should have assigned another Constable had the number permitted.
On visiting Ystradgunlais my attention was drawn to the Twrch Valley where are located a considerable population reported to be of lawless character.
I should suggest that an arrangement should be entered into with the Magistrates of the County of Brecon, in order that the whole of the Vale of Twrch, may be under the charge of the constable stationed in that quarter – the County boundary affording facilities for the escape of delinquents.
The only lock up houses in the district are at Aberavon and Cwmavon which have been erected by private subscription and I have no doubt would be given up for the purposes of the Force….
I would recommend that a suitable Station house be erected at Pontardawe.
I find that there is a Police Force established along the line of the Swansea Canal who are paid by the Committee of Traders. I think it highly desirable that this force should co-operate with the men under my charge, and by doing so, a mutual advantage would be derived [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Llun 30 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].
Mae’r ffaith y derbyniwyd ei argymhelliad o ran nifer y dynion ac adeiladu gorsafoedd heddlu newydd heb unrhyw amod yn tanlinellu’r graddau y gwelai’r ynadon y llu newydd yn anhepgor mewn cyfnod o ddiwydiannu aruthrol. Ar ôl cwblhau’r seremoni i dyngu llw, Wyrcws Pen-y-bont Ar Ogwr oedd cartref y llu, lle y derbynion nhw gyfnod o hyfforddiant sylfaenol. Felly dim ond yn ail hanner mis Tachwedd 1841 yr ymgymerodd Cwnstabliaeth newydd Morgannwg â’i dyletswyddau yn y rhanbarth, gan weithio mae’n siŵr o adeiladau dros dro neu rai a fodolai eisoes wrth ddisgwyl am yr adeiladau newydd. Wedi dweud hynny, roedd yn dipyn o gamp i greu a rhoi llu plismona newydd ar waith mewn ychydig fisoedd yn unig, ac roedd Cwnstabliaeth Morgannwg yn fuan iawn yn y newyddion cenedlaethol yn sgil ei lwyddiant yn datrys sawl achos blaenllaw.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg.