Mae project gwirfoddoli hirdymor yn Archifau Morgannwg wedi dod i ben o’r diwedd – mae pob un o 22 o ‘Ddyddiaduron Fothergill’ wedi’u trawsgrifio. Mae’r dyddlyfrau, sy’n groes rhwng dyddiadur a theithlyfr, yn disgrifio bywyd y meistr haearn Henry Fothergill o 1860 – pan oedd y teulu Fothergill yn benaethiaid ar Gwmni Haearn Aberdâr – hyd ei farwolaeth ym 1914.
Erbyn yr adeg yr ysgrifennwyd y dyddiaduron, roedd gan y teulu fuddiant yn nifer o weithfeydd haearn Morgannwg, gan gynnwys Plymouth, Penydarren, Cwm Taf, Abernant a Llwydcoed. Roedd Henry, trydydd mab Richard Fothergill a nai Rowland Fothergill o Gastell Hensol, yn byw bywyd moethus, fel gŵr Fictoraidd cyfoethog, gan fwynhau gwleddoedd mawreddog gyda phobl bwerus fel y teulu Crawshay. Yn wir, priododd dau o frodyr Henry (George a Thomas) ddwy o ferched William Crawshay (Isabel a Laura yn y drefn honno) ar yr un diwrnod – priodas ddwbl y mae Henry’n sôn amdani yn ei ddyddiadur.
Mae hanesion am ddawnsfeydd a gwleddoedd crand, gwyliau gyda’i ffrindiau (gan gynnwys Francis Crawshay a’i deulu), tripiau siopa, chwaraeon a gemau, dathliadau teuluol a thorcalon ar wasgar ymysg disgrifiadau Henry o’i fywyd gwaith yn goruchwylio’r gwaith haearn.
Gwerthodd Henry, ynghyd â’i ddau frawd George a Thomas, ei fuddiant yn y gwaith haearn i’w frawd hŷn Richard ym 1864, gan ddefnyddio’r arian yn ddiweddarach i deithio’r byd mewn ‘Taith Fawreddog’ Fictoraidd. Gan ddechrau ar ei daith ym 1867, mae’n sôn am ei anturiaethau yn Ewrop, Asia, y Dwyrain Pell, yr Amerig, Rwsia, Awstralia a Seland Newydd yn fanwl iawn, gan ysgrifennu hefyd am y cymeriadau y gwnaeth gwrdd â nhw ar hyd y ffordd. Pan ddychwelodd, ymunodd â Byddin Sir Essex, gan godi i rôl Uwchgapten.
Ym 1877, priododd ag Edith Horwood, merch i ficer, gan ymgartrefu yn Neuadd Copt, Hawkhurst, ger Cranbrook. Cawsant ddau fab – Gerald Rowland (1880-1970), a ddaeth yn offeiriad, ac Edward Gerald Neville (1882-1962), a ddioddefodd o salwch meddwl. Treuliodd Henry ei flynyddoedd diwethaf gyda’i deulu, yn garddio ac yn cadw adar egsotig ac anifeiliaid (gan gynnwys cangarŵs!).
Mae dyddiaduron Henry, sy’n llawn antur, rhamant a chyfaredd, yn adnodd hanes cymdeithasol a lleol cyfoethog oherwydd eu disgrifiadau o bobl, lleoedd a gweithgareddau. Dros yr wythnosau nesaf, bydd nifer o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio ar y project yn cyhoeddi eu hoff ddyfyniadau o’r dyddiaduron mewn blog. Bydd yn werth ei ddarllen yn sicr! Ac os hoffech chi weld y dyddiaduron hyn eich hun a/neu ddarllen y trawsgrifiadau, dewch draw i Archifau Morgannwg. Byddai’n wych eich gweld chi!
Corinne Evans, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg