Ym 1986 derbyniodd Archifau Morgannwg cofnodion gan y grŵp heddwch Women for Life on Earth. Mae’r casgliad yn ymwneud a’r ymdaith heddwch menywod o Gaerdydd i Gomin Greenham yn Swydd Berkshire, a’r gwersyll heddwch sefydlwyd o ganlyniad tu allan i brif fynedfa’r safle awyr yng Nghomin Greenham. Mae’r papurau yn cwmpasu’r cyfnod 0 1981 tan 1984, ac yn cynnwys gohebiaeth, toriadau papur newydd, erthyglau a ffotograffau. Mae’r casgliad yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer ymchwil i’r mudiad menywod a’r mudiad heddwch. Dewiswyd Archifau Morgannwg fel cartref i’r casgliad gan i’r ymdaith dechrau yng Nghaerdydd.
Roedd yr ymdaith o Gaerdydd i Gomin Greenham yn syniad Ann Pettitt, bu’n gweithio tyddyn yng ngorllewin Cymru gyda’i gwr, a thair menyw arall o’r un ardal. Yn Ebrill 1981 clywsant am grŵp o fenywod o Sgandinafia roedd yn cynllunio ymdaith o Copenhagen i Baris yr haf yna, er mwyn tynnu sylw at ei phryderon ynghylch y bygythiad niwclear oedd yn taflu cysgod dros eu bywydau. Penderfynodd y grŵp o bedair yng Nghymru trefnu ymdaith tebyg, nid o un ddinas fawr i ddinas fawr arall, ond drwy lefydd llai megis Comin Greenham a oedd, adeg hynny, yn safle awyr yr America a oedd yn weddol anhysbys. Y bwriad oedd i’r ymdaith parhau am ddeg diwrnod dros 110 milltir. Dewiswyd Comin Greenham fel pen y daith oherwydd y penderfyniad i leoli 96 o daflegrau Cruise ar y safle, a byddai’n weithredol erbyn Rhagfyr 1983. Roedd taflegrau Cruise yn arfau a ddyfeisiwyd i gario bomiau niwclear pymtheg gwaith mwy pwerus na’r un a ddinistriodd Hiroshima. Byddai’r ymdaith yn brotest yn erbyn lleoliad taflegrau Cruise ym Mhrydain.
Rhagwelodd y pedair menyw a drefnodd a chyd-gysylltodd yr ymdaith grŵp craidd bychan o fenywod a phlant (35 i 50 mewn nifer), a byddai’n cerdded yr holl ffordd ac yn ennyn cefnogaeth ar y ffordd. Gwelwyd cerdded – ffurf o weithrediad uniongyrchol – fel modd syml a hen ffasiwn o ledaenu ei neges a chwrdd â phobol i gyfnewid syniadau. Neges yr ymdaith byddai diarfogi a galwad am fyd heddychlon. Trefnwyd llety a bwyd i’r grŵp craidd ar hyd llwybr yr ymdaith, a threfnodd grwpiau diarfogi lleol cyfarfodydd gyda siaradwyr gwadd ac adloniant gyda’r nos.
Ffurfiwyd Women for Life on Earth mewn ymateb i’r penderfyniad i drefnu’r ymdaith heddwch. Portreadodd arwyddlun y grŵp y byd tu fewn i’r symbol diarfogi, yn blaguro i goeden, er mwyn dangos nad oedd y mudiad yn gul nac yn neilltuol ond yn eang ac yn gyfanfydol. Gwnaed baner brodwaith yn dangos yr arwyddlun ar gyfer yr ymdaith.
Penderfynwyd taw menywod dylai arwain yr ymdaith a ffurfio’r cnewyllyn, er byddai croeso i ddynion fel cefnogwyr. Byddai’r ymdaith yn tanseilio’r ffaith bod menywod yn weithgar ac yn flaenllaw o fewn y mudiad heddwch a’r ymgyrch yn erbyn arfau niwclear. Teimlwyd nad oedd gwaith caled nifer fawr o fenywod o fewn grwpiau diarfogi lleol yn cael ei chydnabod yn areithiau cyhoeddus – dylai lleisiau menywod cael eu clywed a byddai’r ymdaith yn cynnig llwyfan iddynt. Yng nghyfarfodydd a digwyddiadau ar hyd y ffordd byddai menywod yn cael ei gwahodd i siarad.
Credodd y trefnwyr gan fod y mwyafrif o fenywod yn treulio amser yn gofalu am eraill, gyda llawer yn gweithio mewn galwedigaethau gofal, maent yn buddsoddi amser i bobol ac yn teimlo cyfrifoldeb arbennig i gynnig dyfodol iddynt. Mae llawer o fenywod yn geni ac yn magu plant, ac efallai o ganlyniad yn gofidio mwy am fygythiad rhyfel niwclear. Nid yw’r rhan fwyaf o fenywod wedi chwarae unrhyw ran yn y penderfyniadau sydd wedi dod a’r byd i’r sefyllfa lle mae nifer bychan yn dal bywydau pawb o fewn eu rheolaeth. Teimlodd Women for Life on Earth ei bod hi’n amser i leisiau menywod cael eu clywed.
Dechreuodd yr ymdaith heddwch o Gomin Greenham i Gaerdydd ar 27 Awst 1981.
Tua 40 menyw a nifer o blant ffurfiodd y grŵp craidd. Roedd y menywod yma o bob oedran ac o alwedigaethau a chefndiroedd tra gwahanol – o fam sengl i bump o blant at fam-gu i bedwar o wyrion ac wyresau. Gadawodd yr ymdaith Gaerdydd, yn mynd heibio i Ffatri Arfau’r Goron yn Llanisien lle cynhyrchwyd darnau cydrannol ar gyfer arfau niwclear. Cerddodd y grŵp ymlaen trwy Gasnewydd i Gas-gwent, yn pasio storfa arfau America yng Nghaerwent lle gadwyd stoc o arfau cemegol. Aeth y llwybr wedyn trwy Fryste, Caerfaddon, Melksham, Devizes, Marlborough a Hungerford at Newbury. Cafwyd gwyriad i safle milwrol yr UD a’r storfa arfau niwclear tactegol yn Welford. Cyrhaeddodd y cerddwyr safle awyr Comin Greenham ar 5 Medi.
Pan gyrhaeddodd y cerddwyr pen y daith cyflwynwyd llythyr o brotest i ben-cadlywydd y safle yn esbonio ei weithrediad:
We have undertaken this action because we believe that the nuclear arms race constitutes the greatest threat ever faced by the human race and our living planet.
Mae llawer o’r cofnodion yn Archifau Morgannwg yn cynnwys atgofion personol o’r ymdaith. Roedd menywod o lawer gefndir gwahanol yn teimlo mor gryf am y bygythiad niwclear gadawsant eu cartrefi, teuluoedd, plant, a rhoi hyd at 10 diwrnod o gerdded dros 110 milltir. Nid oedd llawer wedi arfer gyda cherdded a datblygodd nifer pothelli:
The blister on my foot was so big I couldn’t keep my shoe on.
I nifer fawr o’r menywod yr ymdaith oedd eu profiad cyntaf o brotest cyhoeddus. I rai dyma’r tro cyntaf iddynt adael eu teuluoedd i fynd oddi cartref ar ben eu hunain:
For all of us if was the first time we had ever walked that far.
Ymddangoswyd i bob un ohonynt ennill lawer o’r profiad – wrth gerdded buont yn siarad a thyfodd cyfeillgarwch ac agosatrwydd:
We all felt like one family by the end of ten days and were very sad to separate and return to our various lives.
Amrywiodd y grŵp mewn nifer o 35 i 60, wrth i gerddwyr ymuno neu adael. Dosbarthwyd taflenni ar hyd y ffordd yn cyflwyno’r rhesymau dros yr ymdaith ac yn disgrifio arswyd rhyfel niwclear. Gwisgodd y grŵp craidd sgarffiau a dylinwyd yn arbennig ar gyfer yr ymdaith, yn dangos ffurf fenyw mewn porffor a gwyn, a’r symbol heddwch mewn gwyn – lliwiau swffragét. Gwisgodd y menywod y sgarffiau am eu pennau, fel mentyll, neu hyd yn oed fel sgertiau. Dyma ymateb un fenyw wrth ymuno a’r ymdaith:
…such an ordinary bunch wearing those funny scarves…
Roedd ei theimladau wedi newid erbyn iddynt gyrraedd y safle awyr:
Those speeches, woman after woman … saying so much, so well – how could they ever have seemed ordinary?
Cafodd y grŵp croeso cynnes ar hyd y ffordd, oni bai yn y dinasoedd mawr megis Bryste, lle dim ond llond llaw o bobol leol ddaeth i glywed yr areithiau a drefnwyd. Ond o fewn trefi llai bu wirfoddolwyr yn paratoi prydau helaeth ac yn darparu llety gwych. Trefnwyd cyfarfodydd ac adloniant – ymddangosodd y canwyr gwerin Peggy Seager ac Ewan McColl yn Melksham. Roedd yna gyfnodau isel ar yr ymdaith. Wrth i’r cerddwyr ymlwybro at Gaerfaddon, yn hynod flinedig, neidiodd y band Fall-Out allan o fan mewn cilfach barcio a chwarae cerddoriaeth, gyda’r ymdeithwyr yn dawnsio’r holl ffordd i mewn i’r dref. Nid oedd yr ymdaith yn dawel o hynny ymlaen:
Singing became very important. It raised our spirits and got our message across.
Wrth iddynt nesáu at Gomin Greenham dechreuodd yr ymdeithwyr poeni am y diffyg diddordeb gan y cyfryngau yn yr ymdaith. Ar gyrraedd y Comin, disgrifiwyd ymateb y grŵp:
walked round the base … excited, nervous, sick, tingly…,
Roeddent wedi disgwyl cael eu cyfarch gan dyrfa frwd. Ond mewn gwirionedd nid oedd lawer yna i’w gwrdd ac felly, yn teimlo’n ddigalon oherwydd y diffyg ymateb i’w ymdaith, penderfynodd rhai o’r menywod cadwyno eu hunain i’r ffens fel arwydd o’u hymdrech. Daeth hyn a diwedd i dawelwch y cyfryngau ond yn anffodus rhoddodd y wasg mwy o sylw i’r ffaith bod menywod wedi clymu nac i’r neges o fenywod mewn heddwch. Daeth y gweithrediad yma i ben ar ôl ychydig ddyddiau.
O ganlyniad i’r rhwystredigaeth o gael eu hanwybyddu daeth y menywod heddwch hyd yn oed mwy penderfynol o ennyn sylw. Penderfynodd y grŵp aros tu allan i fynedfa’r safle awyr tan i’r llywodraeth gytuno i ddadl teledu rhwng gwleidyddion a’r werin ar y pwnc o arfau niwclear. Credodd y menywod dylai fod hawl ganddynt i bleidio eu hachos gyda llywodraeth a dderbyniodd taflegrau o’r UD heb unrhyw ddadl gyhoeddus.
Anwybyddodd y llywodraeth eu cais, ac felly arhosodd y menywod a sefydlwyd gwersyll heddwch Comin Greenham. Am 19 mlynedd bu’n ganolbwynt ar gyfer wrthwynebiad i daflegrau Cruise a phob arf ddinistr torfol. Er i’r taflegrau Cruise olaf cael ei dynnu o Gomin Greenham gan Lu Awyr yr UD ym 1991, arhosodd y menywod yn y safle awyr dan 2000 i barhau eu protest heddychlon yn erbyn y ras arfau niwclear.
Gwersyll heddwch Comin Greenham oedd y cyntaf o’i fath ym Mhrydain. Daeth yn enghraifft a efelychwyd mewn gwersyll tebyg ar hyd y wlad. Daeth gwersyll heddwch a’r mudiad heddwch at stepen drws y sefydliad milwrol. Yn ystod 1982 sefydlwyd gwersyll yn Molesworth, Fairford, Burtonwood, Hexham, Upper Heyford, Burghfield, a Waddington.
Trefnodd Women for Life on Earth mwy o ymdeithiau heddwch. Bu ymdaith o Gaerdydd i Freudeth ym Mai a Mehefin 1982. Roedd RAF Breudeth yn Sir Benfro yn cynnwys gorsaf olrhain Americanaidd, a chredwyd byddai’n prif darged ar gyfer ymosodiad niwclear ar Brydain. Yn ystod haf 1983 cerddodd menywod o wahanol ardaloedd o Brydain i gydgyfarfod yng Nghomin Greenham ar Ddiwrnod Hiroshima. Gan fod y grwpiau wedi gadael o ardaloedd gwahanol er mwyn cwrdd mewn man canolog, galwyd y protest yr ymdeithiau ‘Seren’. Gadawodd grwpiau o lefydd megis Barrow, Caerfaddon, Caerdydd, Glannau Merswy, ac Ynys Wyth. Wrth i’r ymdeithwyr cyrraedd cafwyd rali a gwarchae ar safle awyr Comin Greenham.
Bu’r ymdaith o Gaerdydd i Gomin Greenham ym 1981 yn ddigwyddiad pwysig yn hanes y mudiad heddwch. Tyfodd gwersyll heddwch Comin Greenham o’r ymdaith, tyfodd rhwydwaith o’r gwersyll heddwch a oedd yn cynnwys gwersyll heddwch arall. Cofnodwyd rhai o’r datblygiadau hwyrach yma o fewn y casgliad. Bu Archifau Morgannwg yn ffodus i dderbyn y papurau sy’n ymwneud a’r ymdaith wreiddiol. Croesawn unrhyw ddeunydd tebyg. Mae gwybodaeth o’r fath yn hawdd iawn ei golli, oni bai ein bod yn cymryd gofal dros ei chadwedigaeth barhaol. Gall wedyn fod yn ffynhonnell bwysig ar gyfer haneswyr y dyfodol.