‘Mi dynnais lun y Rhyfel’: Lluniau plant Rhyfel Cartref Sbaen

 

Taniwyd ergydion cyntaf Rhyfel Cartref Sbaen 80 mlynedd yn ôl ar 17 Gorffennaf 1936. Dros gyfnod o dair blynedd ceisiodd y Llywodraeth Weriniaethol sefyll yn erbyn gwrthryfel Cenedlaetholgar a arweiniwyd gan y Cadfridog Franco. Erbyn i’r Cenedlaetholwyr hawlio buddugoliaeth, yn Ebrill 1939, amcangyfrifir bod hyd at filiwn o bobl wedi colli eu bywydau. Cafodd y rhyfel ei weld gan lawer fel ymrafael rhwng grymoedd ffasgaeth a democratiaeth. Cyfrannodd yr Eidal a’r Almaen ddynion ac arfau i gynorthwyo ymdrech y Cenedlaetholwyr a derbyniodd y fyddin Weriniaethol gefnogaeth debyg gan yr Undeb Sofietaidd. Yn swyddogol fe arhosodd Ffrainc a Gwledydd Prydain yn niwtral, er i lawer o ddynion a gwragedd o’r ddwy wlad ymuno â’r Frigâd Ryngwladol a sefydlwyd i ymladd ysgwydd wrth ysgwydd gyda’r Fyddin Weriniaethol.

Mewn ymrafael chwerw a hirfaith, a drodd gymydog yn erbyn cymydog, roedd erchyllterau a dienyddio yn y fan a’r lle yn gyffredin a’r ddwy ochr yn euog o hynny. Roedd y rhai a laddwyd nid dim ond yn rai a ymladdodd dros y gwrthwynebwyr ond yn aml yn rai a amheuwyd o gefnogi neu o ochri gyda’r gelyn. Roedd yn un o’r rhyfeloedd cyntaf lle’r oedd dinasyddion ar y ddwy ochr ar y llinell flaen gydag ymladd mewn llawer o ddinasoedd a threfi a lle bomiwyd ardaloedd poblog yn ddiwahân. Roedd hinsawdd hefyd o ofn gyda chyrchoedd ac yn aml ddienyddio ar y rheiny a gyhuddwyd o fod yn fradwyr ac am gydweithio â’r gelyn.

Cafodd erchylltra rhyfel ei ddal yn ddramatig mewn cyfres o baentiadau a wnaed gan blant Sbaenaidd rhwng 10 a 12 oed ym 1938 ac a ddefnyddiwyd i godi arian i ofalu am blant amddifad neu a wahanwyd o’u teuluoedd gan y rhyfel. Mae gan Archifau Morgannwg set o 6 llun o’r rhyfel a gyhoeddwyd ym 1938 fel cardiau post. Maen nhw’n rhan o bapurau Gilbert Taylor, casgliad o lythyrau a phethau cofiadwy dyn ifanc oedd yn byw yng Nghaerdydd, a ymladdodd ac a fu farw gyda’r Frigâd Rhyngwladol yn Sbaen ym 1938. Mae’n debygol i’r cardiau gael eu gyrru o Barcelona at wraig Gilbert, Sylvia, gan Bill Morrissey sef cyd-aelod yn y Bataliwn Prydeinig. Gwasanaethodd Bill gyda Gilbert yn 16eg Bataliwn (Prydeinig) y XV Frigâd Ryngwladol. Cynorthwyodd Sylvia pan oedd hi’n ceisio’i gorau glas i gael unrhyw newydd am ei gŵr, a aeth ar goll yn ystod yr ymladd i atal yr ymdrech a lansiwyd gan y lluoedd Cenedlaetholgar yn yr Aragon ym mis Mawrth 1938.

Gwaith Dr Alfred Brauner oedd y cardiau, aeth gyda’i wraig Francois i Sbaen i weithio dros yr achos Gweriniaethol. Yn Awstria y ganed Francois a gweithiodd hi fel meddyg yn yr ysbyty yn Benicassim a sefydlwyd gan y Frigâd Ryngwladol. Roedd Alfred yn arwain y Pwyllgor dros Ffoaduriaid o Blant y Frigâd Ryngwladol ac fe deithiodd trwy’r ardaloedd Gweriniaethol lle’r oedd miloedd o blant a’u teuluoedd wedi eu gwahanu. Cyn dechrau’r rhyfel, roedd y Llywodraeth Weriniaethol wedi defnyddio ysgolion haf fel modd o roi addysg, gan gynnwys addysg wleidyddol, i bentrefi a threfi ledled Sbaen. Adfeddiannwyd yr ysgolion yn ystod y rhyfel i ofalu am y miloedd o blant a yrrwyd o drefi a dinasoedd a’u gwahanu oddi wrth eu rhieni. Roedd y Frigâd Ryngwladol yn un o nifer o sefydliadau a gefnogodd ac a redodd ysgolion o’r fath. Mewn achosion lawer gyrrwyd y plant maes o law i wledydd oedd yn cefnogi’r Weriniaeth gan gynnwys yr Undeb Sofietaidd a Mecsico. Roedd Llywodraeth Prydain ar y dechrau yn amharod i dderbyn faciwîs. Ond cytunwyd ym mis Ebrill 1937, yn dilyn y bomio a fu ar Guernica, y gellid derbyn 4,000 o blant o Wlad y Basg i Brydain i ofalu amdanynt yma.

Mae bron yn sicr i’r lluniau gael eu cynhyrchu gan blant oedd dan ofal yr ysgolion Gweriniaethol. Byddai’r rhan fwyaf wedi gweld a byw trwy gyrchoedd awyr ar eu trefi a’u dinasoedd ac o bosib ar eu cartrefi. Mae’n amlwg bod rhyw ddiddordeb yn yr ymosodiadau oedd yn rhoi dimensiwn newydd a dramatig i’r rhyfel. Mae gofal a sylw manwl wedi ei roi yn y lluniau i awyrennau’r lluoedd a’r awyrennau bomio. Maen nhw hefyd yn dangos dinistrio adeiladau ac, mewn un achos, dinistrio cwch a achoswyd gan fomiau a bwledi.

Hyrwyddodd y Brauners y defnydd o waith celf fel modd i gynorthwyo’r plant i ddod i delerau ag erchylltra rhyfel. Ysgrifennodd Alfred Brauner, oedd yn cael ei adnabod fel Dr Fred, nodyn ar gefndir cynhyrchu’r lluniau.

When visiting the refugee children in the homes established by our international comrades we asked the children to draw something from their life.

Most of them were influenced by familiar illustrations or imitated their neighbours, while the remaining represented the war in some form.

We reproduce here some of these drawings.

Invariably the child selects as the place of the drama his village. Above is always drawn the terrible menace, the airplanes.

These children’s drawings are horrible realism. The types of planes are well shown. The forms of bomber and pursuit planes learned by observation. Notice the details of the air battle; the people escaping; the black and red of the night attack; the destruction with only a picture of the family nailed to a wall dangling at a curious angle.

The children, victims of this war, are never to forget it. A little artist, one of these refugee children of whom our wounded are guardians, has learned to give to the garden of the home … a breath of peace.

Committee for Spanish Children of the International Brigades, Barcelona.

 

Mae’r cerdyn yn gorffen â’r geiriau mewn print bras – Helpwch ni drwy eich Pwyllgor cymorth lleol dros Sbaen. Rhaid cofio y dewiswyd y lluniau ar gyfer y cardiau post yn ofalus fel rhan o ymgyrch bropaganda ehangach a ddefnyddiodd ddelweddau o blant wedi eu dal yn nannedd rhyfel a chreulondeb ymosodiadau’r Cenedlaetholwyr i ennyn cefnogaeth, o fewn Sbaen ac yn rhyngwladol ill dau, ar gyfer achos y Gweriniaethwyr.

Ym mhob achos arwyddwyd y pum llun gan y plant. Roedden nhw i gyd rhwng 10 a 12 oed. Ychwanegodd y plentyn bennawd ac, yn y rhan fwyaf o achosion, fanylion ynghylch lle digwyddodd yr ymosodiad. Mewn dau achos, defnyddiwyd sloganau gwrth-ffasgaidd. Mae’r lluniau yn darlunio rhyfel mewn trefi ar draws Sbaen, o bentrefi fel Oropesa i gymunedau trefol mawr Madrid a Toledo.

Cerdyn 1.

Bombardeo de mi calle en Madrid

Bomio fy stryd ym Madrid, Manuel Arias, 11 oed.

 

Cerdyn 2.

Un Barco bombardeo en Benicassim

Llong wedi ei fomio yn Benicassim, Antonia Perez, 11 oed.

 

Cerdyn 3.

Bombardeo en Toledo

Bomio Toledo, E Arroya, 10 oed.

 

Cerdyn 4.

Bombardeo en Oropesa

Bomio Oropesa, 12 oed.

 

Cerdyn 5.

Por aqui ha pasado el Fascismo!

“Dyma waith Ffasgiaeth!”, M Arias, 11 oed.

 

Cerdyn 6.

Esta es la obra del fascism!

“Bu Ffasgiaeth yma!”, Manuel Perez Osana, 12 oed

 

Mae’n bosibl bod yr artistiaid ymhlith y 35,000 o blant a gafodd eu mudo allan o diriogaeth y Gweriniaethwyr yn ystod y rhyfel. Cafodd y 4000 o ‘ninos’ a ddaeth i wledydd Prydain eu rhoi i aros gyda theuluoedd yn Abertawe, Brampton, Tynemouth, Margate a Carshalton. Er i’r rhan fwyaf ail-ymuno â’u teuluoedd wedi’r rhyfel, amcangyfrifir bod tua 250 wedi aros yma am na ellid dod o hyd i’w rhieni na’u teuluoedd. Yn 2012 daeth llawer o’r grŵp yma ynghyd ym Mhrifysgol Southampton i nodi’r 75 o flynyddoedd ers iddyn nhw adael Sbaen fel rhan o’r ‘Expedicion a Inglaterra’.

Mae’r darluniau yn rhoi cofnod graffig i ni o greulondeb Rhyfel Cartref Sbaen. Aeth y Brauneriaid yn eu blaenau i ddefnyddio’r technegau a ddatblygwyd yn Sbaen i drin cannoedd o blant a lwyddodd i ffoi i Ffrainc rhag y Natsïaid ym 1939, ac wedi hynny, y 440 o blant gafodd eu rhyddhau o Auschwitz a Buchenwald ym 1945 a’u cludo i Ffrainc. Flynyddoedd wedi hynny, fe sefydlon nhw glinig i drin plant anabl yn Saint Mande ger Paris. Cafodd eu casgliad o luniau rhyfel plant eu dwyn ynghyd mewn cyfrol a gafodd ei gyhoeddi ym 1991.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s