Brwydr Coedwig Mametz

Cipio coedwig Mametz oedd nod y 38ain Adran (Cymru) yn ystod Brwydr Gyntaf y Somme. Digwyddodd yr ymosodiad rhwng 7fed a 12fed Gorffennaf 1916. Ar 7fed Gorffennaf cafodd y gwŷr eu hatal gan ddrylliau peiriant cyn iddynt gyrraedd y goedwig. Methodd ymosodiadau pellach ar 8fed Gorffennaf â gwella’r sefyllfa.

Roedd yr ymosodiad ar 10fed Gorffennaf yn un mwy o faint ac, er gwaethaf nifer o farwolaethau, cyrhaeddwyd ymylon y goedwig ymhen tipyn; taniwyd ambell fidog cyn cael mynediad i’r goedwig, a gorchfygwyd nifer o safleoedd drylliau peiriant yr Almaenwyr. Roedd yr ymladd yn y goedwig yn fileinig gyda’r Almaenwyr yn dal eu tir hyd yr eithaf.

Erbyn 12fed Gorffennaf, roedd y gelyn wedi’i glirio o’r goedwig, ond roedd yr Adran Gymreig wedi colli tua 4,000 o ddynion, wedi’u lladd neu eu hanafu. Ni fyddai’r Adran yn cael ei defnyddio mewn ymosodiad ymgasgledig eto tan 31ain Gorffennaf 1917.

Mae’r goedwig yno o hyd, wedi’i hamgylchynu gan ffermdir, ac mae craterau a ffosydd wedi’u gorchuddio â llystyfiant yn dotio’r dirwedd.

I gofio canmlwyddiant Brwydr Coedwig Mametz, ymchwiliais i’r gwŷr y cofnodwyd eu bod wedi gwasanaethu yn Mametz ar Restr Anrhydedd Corfforaeth Dinas Caerdydd, a gedwir yn Archifau Morgannwg.

Mae’r rhestr anrhydedd yn cofnodi enw, cyfeiriad, oedran a rheng y milwyr hyn, a roddodd fan cychwyn i mi yn fy ymchwil sy’n ymddangos yn fy llyfryn. Mae gan rai o’r enwau hanes cudd, diddorol, tra bod eraill heb ddatgelu dim.

Dyma’r cyntaf o ddwy ddogfen yn ymchwilio i Goedwig Mametz. Mae hon yn nodi’r enwau yn y Rhestr Anrhydedd a bydd rhan dau yn cofio aelodau 16eg Bataliwn (Dinas Caerdydd) y Gatrawd Gymreig a ddaeth i ben eu taith yn Mametz. Mae’r dogfen ar gael i’w ddarllen ar wefan Archifau Morgannwg:

http://www.archifaumorgannwg.gov.uk/y-casgliad/y-rhyfel-byd-cyntaf/

Hoffwn glywed gan aelodau o’r cyhoedd a allai adnabod enwau cyndeidiau posibl ac a fyddai’n fodlon rhannu gwybodaeth ychwanegol â ni.

Rosemary Nicholson

********************

Mae Archifau Morgannwg yn cadw rhestr anrhydedd ffurfiol gweithwyr Corfforaeth Dinas Caerdydd ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf, ynghyd a ffurflenni cais yn gofyn i gynnwys milwyr ar y rhestr.

Llenwyd y ffurflenni gan unigolion oedd yn ceisio i gynnwys ei pherthnasau, yn fyw ac yn farw, ar y rhestr anrhydedd. Roedd y rhain yn bobol a oedd yng nghyflog Corfforaeth Caerdydd ar adeg eu hymrestriad.  Mae’r ffurflenni fel arfer yn cynnwys enw’r milwr ynghyd a’i man a dyddiad geni, ei gyfeiriad pan ymrestrodd, ac am gyhyd y bu’n byw yng Nghaerdydd.  Yn aml nodwyd lle yr aeth i’r ysgol.  Nodwyd hefyd ei swydd gyda’r Cyngor, ei statws priodasol, a’i gatrawd.  Pan fu’n berthnasol nodwyd hefyd y man a’r dyddiad y bu farw, ynghyd ag unrhyw fedalau neu anrhydedd a dderbyniodd a’r dyddiad cyflwyno.  Yn aml cofnodwyd enw a chyfeiriad rhieni’r milwr.  Gofynnwyd i deuluoedd ddanfon llun o’i berthynas, er nid yw pob un wedi goroesi; dychwelwyd lawer i’r teuluoedd ar ei chais nhw, efallai gan taw dyma’r unig lun oedd ganddynt ohonynt.

Trefnwyd y ffeiliau fesul yr adran lle weithiodd y milwr pan ymrestrodd. Cadwyd ffeiliau ar gyfer Adran Trysorydd a Rheolwr y Ddinas; Adran Peiriannydd y Ddinas a Gweithiau Cyhoeddus; Adrannau Glanhau’r Strydoedd a Goleuo’r Strydoedd; Staff Gwresogi ac Awyru; yr Adran Tramffyrdd; yr Adran Eiddo a Marchnadoedd; Adran Gweithfeydd Dwr; Adran y Swyddog Iechyd; y Sanatoriwm; Adran Parciau a’r Adran Mynwentydd.

Ymhlith y cannoedd o ffurflenni cais dawn o hyd i George Tucker o Stryd Arabella, y Rhath.

George Tucker

Ganwyd yn Stour Provost, Dorset ym 1879, yn fab i William ac Emily Tucker.  Derbyniodd ei addysg yn ysgol y pentref.  Priododd George a Mary Harriet Preece yn Branksome Park, Dorset, ym 1903.  Symudodd y ddau i Gaerdydd ym 1907 i Stryd Wyndham yn Nhreganna cyn symud i’r Rhath.  Roedd ganddynt fab ifanc o’r enw Leonard.  Gweithiodd George fel goleuwr lampau i Gorfforaeth Caerdydd.  Ymrestrodd ar 5 Tachwedd 1915, yn ymuno a 15fed Bataliwn y Gatrawd Gymreig fel Preifat.  Buodd farw ar faes y gad yn Frwydr Coedwig Mametz ar 11 Gorffennaf 1916, yn 37 oed.  Cafodd ei goffau ar Gofeb Thiepval.

George Tucker letter

Gweithiodd Arthur Thomas o Stryd Forrest, Grangetown, fel ceidwad warws cyn ennill swydd gyda Chorfforaeth Caerdydd fel tocynnwr tram.

Arthur Thomas

Ganwyd ym 1891, a bu’n byw yng Nghaerdydd trwy ei oes, yn mynychu Ysgol Fwrdd Grangetown.  Ym 1911 roedd yn byw gyda’i fam, Sarah, ei chwaer, Mary Jane, a’i tadcu, Edwin.  Ymunodd a’r 16eg Bataliwn (Dinas Caerdydd) y Gatrawd Gymreig yn Nhachwedd 1914 fel Preifat, ac fe’i dyrchafwyd ymhen amser i Is-gorpral.  Bu farw yn Frwydr Coedwig Mametz ar 7 Gorffennaf 1916.  Cafodd ei goffau ar Gofeb Thiepval.

Ganwyd Samuel Jenkins yng Nghaerffili ar 25ain Chwefror 1889, yn fab i Morgan Jenkins, gof o Gaerffili, a’i wraig Jane oedd yn wreiddiol o Wlad yr Haf.

Erbyn 1891 roedd y teulu yn byw yn 21 Heol y Farchnad yn Nhreganna, Caerdydd. Aeth Samuel i Ysgol Radnor Road a weithiodd fel labrwr i saer maen cyn ennill cyflogaeth gydag Adran Gweithiau Cyhoeddus Corfforaeth Caerdydd fel carthffoswr.

Ymrestrodd Samuel yng Nghaerdydd ar 15fed Chwefror 1915 fel Preifat yn 16eg Bataliwn y Gatrawd Gymreig. Gadawodd am Ffrainc ar 4ydd Rhagfyr 1915.  Bu farw ar faes y gad, yn Mametz, ar 7 Gorffennaf 1916.  Derbyniodd ei fam, Jane, tysteb rhyfel o £5 10s.  Derbyniodd Samuel Seren 1915 a’r Medalau Rhyfel Prydain a Buddugoliaeth.  Cafodd ei goffau ar Gofeb Thiepval.

Samuel Jenkins letter 2

Roedd gan Samuel frawd, Edward, oedd yn 5 mlynedd yn hun nag ef ac a ganwyd yn Sheffield, cyn i’r teulu dychwelyd i Gymru. Gweithiodd fel labrwr cyn iddo fe, hefyd, ymuno ag Adran Gweithiau Cyhoeddus Corfforaeth Caerdydd fel cofnodwr amser.  Ymrestrodd Edward yn Gatrawd Ddwyrain Surrey a bu farw yn Ffrainc ar 2 Mehefin 1918.  Derbyniodd Seren 1915 a’r Medalau Rhyfel Prydain a Buddugoliaeth.  Mae bedd Edward yn Fynwent Warley-Baillon yn Somme, Ffrainc.

Bu Evan (isod), brawd iau Samuel ac Edward, yn gweithio fel gof a saer olwynion gyda’r Gorfforaeth. Gwasanaethodd gyda Chorfflu Gwasanaeth y Fyddin a goroesodd y Rhyfel.

Evan Jenkins

Ganwyd George Henry Tarr ar 20 Rhagfyr 1887 yn Nhreganna, Caerdydd. Roedd yn fab i William Henry Tarr, labrwr o Ddyfnaint, a’i wraig, Eliza, o Wlad yr Haf.  Efe oedd yr hynaf o 8 o blant, un o 6 wnaeth goroesi plentyndod.  Dilynodd George ei dad fel labrwr yn Adran Ffyrdd Corfforaeth Caerdydd.  Ym 1911 roedd yn byw gyda’i deulu yn 28 Stryd Glynne, Treganna.

Ymrestrodd George yng Nghaerdydd, fel Preifat yn 16eg Bataliwn y Gatrawd Gymreig. Bu farw ar faes y gad yn Mametz ar 7 Gorffennaf 1916.

George Tarr letter

Gwasanaethodd brodyr iau George – Charles, Fred ac Albert – yn y Rhyfel hefyd.

Ganwyd Charles ym 1892. Ymrestrodd fel Preifat yng Nghatrawd Dyfnaint a gadawodd o Farseilles ar 13 Tachwedd 1915, yn cyrraedd Salonika ar 23 Tachwedd.  Anafwyd ar faes y gad ar 24 Ebrill 1917, yn derbyn ergyd gwn i’w glun.  Trosglwyddwyd ef i Gwmni Cyflogi’r Corfflu Llafur ar 4 Hydref 1917.  Goroesodd Charles y Rhyfel a ddychwelodd i Gaerdydd lle briododd Flora M Geet yn ystod haf 1920.  Bu farw yng Nghaerdydd ym Medi 1972.

Ganwyd Fred yng Nghaerdydd ym 1898. Priododd Lilian Mary King o 7 Stryd Lyndhurst, Caerdydd.  Ymrestrodd yn Great Yarmouth, yn Fagnelaeth y Gwarchodlu Brenhinol, ar 12 Tachwedd 1915.  Derbyniodd Seren 1914-15, Medal Rhyfel Prydain a’r Fedal Buddugoliaeth.  Rhyddhawyd o’i ddyletswydd ar 26 Mehefin 1919 yn 24 oed, a bu farw yn Southampton yn Fehefin 1947.

Cafodd Albert ei eni yng Nghaerdydd ym 1901. Gwasanaethodd yn 20fed Catrawd Middlesex, y 5ed Gwaywyr a’r Hwsariaid.  Goroesodd y Rhyfel ac fe’i rhyddhawyd o’i ddyletswyddau ar 30 Ionawr 1919.  Dychwelodd i Gaerdydd ac yn 1927 priododd Elizabeth M Lewis.  Bu farw yng Nghaerdydd ym Mehefin 1931.

Dim ond nifer fach yw’r rhain o hanesion gweithwyr Corfforaeth Caerdydd bu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s