Rhaid cadw’r gwasanaethau hanfodol. Ydych chi’n barod i wasanaethu? – Hanes Edward Loveluck

Cafodd cymdeithas Prydain ei hysgwyd gan Streic Cyffredinol a barodd naw diwrnod ym mis Mai 1926 wrth i 1.5 miliwn o weithwyr ledled y wlad wneud safiad. I lawer yn yr undebau llafur, roedd yn weithred syml o gadernid gyda’r glowyr a oedd wedi gweld eu cyflogau a’u telerau ac amodau gwaith yn gwaethygu’n gyson dros y blynyddoedd yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn wir, roedd cyflog y glowyr wedi gostwng bron i draean erbyn 1926 o gymharu â 1919. Arweiniodd cynigion i leihau cyflogau a chynyddu oriau gwaith ymhellach at ymateb enwog Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr: ‘Not a penny off the wages and not a minute on the day’. Cafwyd ymateb unfrydol gadarnhaol ymysg yr undebau a’u haelodau i benderfyniad y TUC ym mis Mai 1926 i annog y gweithwyr trafnidiaeth, yr argraffwyr a’r gweithwyr haearn a dur i sefyll ochr yn ochr â’u cyfoedion yn y pyllau glo.

I eraill, roedd penderfyniad y TUC yn cynrychioli Streic Cyffredinol, ac yn her i lywodraeth gyfansoddiadol. Gyda syfrdandod y gwrthryfel Bolsieficaidd yn Rwsia yn fyw yn y cof, galwodd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, y streic yn ‘her i San Steffan’ ac yn ‘llwybr at anarchiaeth ac adfail’ [The British Gazette, 6 Mai 1926]. Cyn i’r streic gael ei gyhoeddi, roedd y Llywodraeth wedi paratoi i sicrhau parhad gwasanaethau allweddol ledled y wlad, i’w rhedeg ym mhob ardal gan Gomisiynydd Sifil a benodwyd yn ganolog. Yn Ne Cymru, penodwyd Iarll Clarendon ar 2 Mai 1926 yn Adeilad Dominions yng Nghaerdydd i weithio gyda’r awdurdodau lleol i gynnal cyfraith a threfn, trafnidiaeth a chyflenwadau bwyd. Cafodd hefyd fanteisio ar gangen leol y Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol i recriwtio dynion a menywod lleol i gadw’r dociau a’r gwasanaethau trafnidiaeth lleol i weithredu ac, yn ôl yr angen, i roi hwb i’r heddlu. I gyd, recriwtiodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol dros 12,000 o wirfoddolwyr yn Ne Cymru. Defnyddiwyd nifer fach o ddynion i gynnig gwasanaeth sylfaenol ar y rheilffyrdd ac yn y dociau. Roedd effaith y gwirfoddolwyr yn fwyaf amlwg yn yr ardaloedd trefol, yn arbennig yng Nghaerdydd, lle cawsant eu defnyddio i redeg gwasanaethau tram a bws. Er bod y TUC wedi annog aelodau i osgoi gwrthdaro, roedd y Llywodraeth yn benderfynol o sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael, a gosododd filwyr yn y rhan fwyaf o ddinasoedd a threfi a llongau’r llynges mewn porthladdoedd allweddol.

Mae gan Archifau Morgannwg ddeunydd sy’n adrodd stori’r Streic Cyffredinol yn Ne Cymru o safbwynt yr undebau, gwirfoddolwyr lleol a’r rheini a redodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwrifoddol. Mae pethau fel cofnodlyfrau ysgolion hefyd yn adrodd yr effaith ar gymunedau lleol.

Yr wythnos ddiwethaf, astudiom hanes y Streic drwy lygaid Trevor Vaughan, gweithiwr rheilffordd a swyddog undeb llafur yn Aberdâr ym 1926 [DX196/2]. Ceir trafodaeth o ddigwyddiadau mis Mai 1926 o safbwynt gwahanol iawn ym mhapurau Edward Loveluck, sydd yn Archifau Morgannwg [DLOV/148-149]. Er gwaetha’r cydymdeimlad cyffredinol tuag at y glowyr, roedd pryder mewn llawer o ardaloedd mai streic Cyngres yr Undebau Llafur oedd y cam cyntaf tuag at golli cyfraith a threfn. Gweithredodd y Llywodraeth yn sydyn er mwyn gwrthwneud streic y gweithwyr print a chynhyrchu ei phapur newydd ei hun, The British Gazelle, a chyhoeddwyd rhifyn cyntaf y papur ddydd Mercher 5 Mai. O’r dechrau, defnyddiodd Llywodraeth Stanley Baldwin ddulliau digyfaddawd wrth ymdrin â’r streic. Dan y pennawd: ‘No Flinching. The Constitution or a Soviet’, dywedodd y British Gazette:

The strike is intended as a direct hold up of the nation to ransom. It is for the nation to stand firm in its determination not to flinch. ‘This moment’ as the Prime Minister pointed out in the House of Commons, ‘has been chosen to challenge the existing constitution of the country and to substitute the reign of force for that which now exists….’

Mr Churchill pointed that either the nation must be mistress in its own house, or suffer the existing Constitution to be fatally injured, and endure the erection of a Soviet of Trade Unions with the real effective control of our economic and political life. The Chancellor, however, foresees the nation’s triumph in the struggle. ‘No one’, he declared, ‘can doubt what the end will be, but from every point of view, including our duty in the interests of the working classes of this country, we are bound to face this present challenge unflinchingly, rigorously, rigidly, and resolutely to the end’. [The British Gazette, Rhif 1, Dydd Mercher 5 Mai 1926, DX24]

Roedd y Llywodraeth wedi llunio cynlluniau wrth gefn manwl ar gyfer cynnal gwasanaethau hanfodol mewn achos streic. Roedd rhifyn cyntaf y British Gazette yn cynnwys manylion y Comisiynwyr Sifil a benodwyd ar lefel ranbarthol ar draws y wlad, gyda’r Iarll Clarendon yn gyfrifol am dde Cymru. Roedd yn gweithio o Dominions House, Heol-y-Frenhines, Caerdydd a’i gyfrifoldeb oedd gweithio gyda’r awdurdodau lleol i gynnal cyfraith a threfn a’r gwasanaethau hanfodol, yn enwedig trafnidiaeth a chyflenwi glo a bwyd.

Roedd y Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol hefyd ar gael i helpu’r Comisiynwyr Sifil, wedi ei gadeirio gan enwebai o’r Llywodraeth ac wedi ei sefydlu’n benodol er mwyn recriwtio gwirfoddolwyr i gynnal gwasanaethau hanfodol. Mewn rhai achosion, roedd llu o wirfoddolwyr eisoes ar gael drwy gorff a elwid y Sefydliad Cynnal Cyflenwadau. Crëwyd y Sefydliad yn wreiddiol mewn ymateb i ymgyrch gan y Times ym 1925 dros sefydlu corff gwirfoddol â changhennau ar hyd y wlad yn barod i recriwtio gwirfoddolwyr petai streic gyffredinol. Er nad oedd Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol yn asiantaethau Llywodraethol swyddogol roeddent, yn aml gyda chefnogaeth y Sefydliad Cynnal Cyflenwadau, yn chwarae rôl bwysig wrth helpu’r Comisiynwyr Sifil i gynnal y gwasanaethau hanfodol.

Pensaer lleol o Ben-y-bont ar Ogwr oedd Edward Loveluck, a oedd yn gweithio i’r Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol ym mis Mai 1926. Mae ei bapurau’n dangos i ba raddau yr oedd y Llywodraeth yn benderfynol o dorri’r streic ac wedi cymryd camau i roi cynlluniau manwl ar waith er mwyn lliniaru effeithiau’r streic yn arwain at fis Mai 1926. Ar 22 Ebrill, bythefnos cyn galw’r streic, ysgrifennodd Illtyd Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol Ardal Caerdydd, at Loveluck ‘yn Gyfrinachol’, yn gofyn iddo fod yn Is-gadeirydd gyda chyfrifoldeb dros Gylch Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd llythyr Thomas yn cadarnhau bod cynlluniau ar gyfer cynnig y gwasanaethau petai Streic Gyffredinol lawn.

As you have probably gathered from information which has appeared in the Public Press, preparations are being made for the maintenance of Public Supplies should an emergency arise.

I have been requested by the Government to provide a Volunteer Service Committee which will comprise a deputy appointed by me and nominated official Representatives, namely a Food Officer, Road Officer, Railway Officer, Postal Officer, Coal Emergency Officer and Finance Officer, representing the essential services.

Gofynnwyd i Loveluck arwain ymgyrch i recriwtio dynion a merched yng nghylch Pen-y-bont ar Ogwr a fyddai’n barod i weithio:

…national service to assist to produce, handle or transport necessary food, fuel, light and power or such other duties essential for the maintenance and well being of the community, but not for the purposes of acting as strike breakers.

Byddai’r llinell olaf yn destun llawer o ddadlau gan fod y gwahaniaeth rhwng torri’r streic a defnyddio gwirfoddolwyr i gynnig gwasanaethau pan oedd aelodau’r undebau ar streic yn fychan iawn. Roedd yn amlwg bod pobl yn gweld Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol fel rhan annatod o roi peiriannau ar waith yn lleol er mwyn lleihau effeithiau’r streic. Mewn ail lythyr, wedi ei ddyddio 3 Mai, rhoddodd Thomas gopi o Femorandwm cyfrinachol gan y Llywodraeth yn nodi sut y byddai’r Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol yn cefnogi’r Comisiynwyr Sifil a’u gweithwyr. Roedd hefyd yn cynnwys manylion y codau a ddefnyddid yn ystod y streic er mwyn cychwyn, gohirio a dod â’r gweithredu i ben. Roedd y memorandwm yn cynnwys atodiad o gynllun poster recriwtio a thempled Cerdyn Cofrestru er mwyn cofnodi manylion y gwirfoddolwyr. Er na ddylid defnyddio’r Arfbais Frenhinol na’r llythrennau’n nodi ‘Ar Wasanaeth Ei Mawrhydi’ ar y posteri, roedd hi’n amlwg yr ystyriwyd y pwyllgorau yn brif asiantaeth er mwyn ennyn cefnogaeth gyhoeddus i’r Llywodraeth wrth ymateb i’r streic.

Volunteers urgently required. Men, women and children must be fed. Essential services must be maintained. For these purposes volunteers are urgently needed. Are you prepared to serve?

Mae’r cofnodion a gynhyrchwyd gan Loveluck ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn dangos iddo allu recriwtio dros 180 o wirfoddolwyr o fewn dyddiau. Ystyrir yn aml mai o swyddogaethau dosbarth canol, coler wen y daeth y gwirfoddolwyr, a phrin oedd eu cydymdeimlad nhw at yr undebau. Mae’r cofnodion yn cadarnhau hyn, gyda nifer o gyfreithwyr, cyfrifwyr ac archwilwyr ymhlith y gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, roedd y gwirfoddolwyr hefyd yn cynnwys nifer fawr o lafurwyr, gyrwyr, gofaint a garddwyr. O ystyried tarddiad y streic, mae’n syndod bod llawer wedi nodi mai eu swyddi oedd glöwr, llafurwr glo, gyrrwr tram a gyrrwr locomotif. Roedd eu hoedrannau’n amrywio o docynnwr bws 16 oed i ŵr 72 oed o Southerndown a oedd yn fodlon helpu i gludo bwyd a glo. Mae’r cofnodion yn awgrymu, er y gefnogaeth eang yn yr ardaloedd cloddio, fod y boblogaeth wedi ei rhannu’n amlwg yn y trefi a’r dinasoedd. Yn sicr nid oedd diffyg gwirfoddolwyr, a hwythau’n ddynion ac yn ferched, a oedd yn barod i helpu â’r gwaith clercaidd, anfon nwyddau ar y ffyrdd a gweithio yn y dociau ac ar y rheilffyrdd hyd yn oed. Wedi asesu’r gwirfoddolwyr, cynhyrchodd Loveluck grynodeb o’r sgiliau y gellid eu cynnig erbyn ail wythnos y streic.

DLOV149_compressed

Special constables – 9

Railwaymen drivers – 2

Drivers – motor car 32, lorry 47, bus/tram 2

Motor cyclists – 11

Electricians/engineers – 13

Horse duties – 2

Dock workers – 1

Labourer – 23

Clerical – 29

Lady workers 13  [DLOV149]

Efallai ei bod yn syndod i gyn lleied gynnig gweithio fel heddlu gwirfoddol o ystyried bod ymgyrch fawr i gynyddu niferoedd yr heddlu yn ardal Caerdydd. Fodd bynnag, mae’n bosib nad oedd cymaint o angen am heddlu ychwanegol mewn ardaloedd megis Pen-y-bont ar Ogwr, Southerndown a Phorthcawl. Roedd y gwirfoddolwyr yn cynnwys 13 menyw, gyda gwraig Edward Loveluck yn un ohonynt. Roedd y rhan fwyaf yn cynnig gwneud gwaith clercaidd neu ffreutur ond roedd rhai yn fodlon helpu i gludo bwyd a nwyddau. Yn ei lythyr at Illtyd Thomas ar 14 Mai, cadarnhaodd Loveluck fod y mesurau a gyflwynwyd yn gweithio’n ddiffwdan wrth i’r streic fynd ymlaen i’w hail wythnos.

DLOV148 14May1926_compressed

I telephoned the qualifications of the Locomotive Drivers on my list to you this morning and I enclose herewith the enrolment cards of same.

The lorry drivers canteen here has been open each night and has done excellent service and it will continue until further orders.

I understand tonight that a settlement has been reached with the Railway men, so probably the week end will see an end of the emergency. All is quiet and orderly in the Town and District, there is no shortage of anything except coal and this is strictly rationed.

There is nothing calling for special mention  [Edward Loveluck at Illtyd Thomas, 14 Mai 1926, DLOV148].

Erbyn hyn, roedd y streic wedi dod i ben yn fwy na heb, ac roedd Cyngres yr Undebau Llafur yn galw ar bawb ond yr undebau glo i ddychwelyd i’r gwaith. Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, ysgrifennodd Thomas at Loveluck yn cadarnhau y gallai’r gwirfoddolwyr orffen.

DLOV148 18May1926_compressed

Instructions have now been sent from the Chief Civil Commissioner that all Recruiting Offices should be closed and the services of staff ended but I should be glad if the individuals who so kindly helped should remain available in case it may be necessary to re-open offices at short notice. All records and accounts should be preserved including registration cards until further notice  [Illtyd Thomas at Edward Loveluck, 18 Mai 1926, DLOV148].

Mae’r papurau’n gorffen gyda llythyr at Loveluck gan yr Iarll Clarendon, Comisiynydd Sifil de Cymru, yn diolch am ei wasanaeth, dyddiedig 16 Mai 1926:

The national emergency is over and I am shortly returning to London but before I go I wish to thank you most warmly for the services you have rendered as Vice Chairman at Bridgend of the Cardiff Volunteer Service Committee. The work which you have done has been an important factor in the success with which essential services have been maintained in this Division, and I am most grateful to you for the help and assistance you have given me during the last fortnight.

Mae dadlau eto ynghylch pam yn union y cyhoeddodd Cyngres yr Undebau Llafur ddiwedd y streic ar 12 Mai. Does dim amheuaeth, fodd bynnag, fod gwaith y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol a dynion megis Edward Loveluck wedi cyfrannu’n fawr at berswadio’r Gyngres yn lleol ac yn genedlaethol fod y Llywodraeth yn benderfynol o wrthsefyll y streic ac nad oedd sicrwydd y byddai parhau i streicio’n llwyddiannus.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Gadael sylw