‘Mecanwaith Llofruddiaeth’: Cyrchoedd Zeppelin y Rhyfel Byd Cyntaf

Y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y tro cyntaf i drigolion ymhell o flaen y gad gael eu bomio mewn rhyfel. Amcangyfrifir y bu i gyrchoedd Zeppelin yr Almaen ladd neu anafu bron i ddwy fil o bobl. Roedd yr awyrennau Zeppelin yn hedfan yn uchel ac yn aml heb eu gweld uwchben trefi a dinasoedd yn y nos ac felly daethant â’r rhyfel i gartrefi teuluoedd ar hyd dwyrain a de Lloegr. Roeddent yn bomio’n ddi-wahân, ac roedd y bomiau’n glanio yng nghanol y dinasoedd. Cynddeiriogwyd pobl gan hyn, a gelwid criwiau awyrennau Zeppelin yr Almaen yn ‘llofruddwyr babanod’. Achosodd yr ymosodiadau ofn a gofid, a ni allai’r fyddin wrthsefyll bygythiad yr awyrennau Zeppelin i ddechrau. Er mwyn ceisio adfer ffydd y cyhoedd, daethpwyd â gynnau o’r ffrynt gorllewinol i amddiffyn y dinasoedd mawr, a gosodwyd awyrennau ar hyd yr arfordir er mwyn dal y llongau awyr Almaenig ar eu ffordd. Fodd bynnag, chafodd y gynnau fawr o lwyddiant wrth geisio atal yr awyrennau Zeppelin ar y dechrau. Collwyd llawer o aelodau o’r llu awyr a oedd yn ddibrofiad wrth hedfan yn y nos, a hynny heb effeithio bron o gwbl ar y cyrchoedd Zeppelin.

Bu ymosodiadau trychinebus ar drefi arfordir dwyreiniol a deheuol Lloegr, gan gynnwys Hull, Hartlepool, Great Yarmouth, Southend, Gravesend a Ramsgate. Yn ogystal, roedd ymosodiadau a fwriadwyd ar Lundain yn aml yn arwain at fomio ardal eang o amgylch y brifddinas, mewn camgymeriad neu’n fwriadol gan awyrennau a oedd wedi methu cyrraedd eu targed. Roedd gan yr awyrennau Zeppelin enw am allu defnyddio ffrwydron ffyrnig a dyfeisiau llosgi a oedd yn golygu bod modd iddyn nhw ddinistrio rhannau mawr o drefi ac anafu nifer sylweddol o bobl. Roedd y boblogaeth yn teimlo nad oedd unrhyw le’n ddiogel rhag yr ymosodiadau. Serch hynny, yn ystod y cyrchoedd cynnar, deuai pobl allan o’u tai yn Llundain i wylio’r ymosodiadau! Roedd yr awyrennau Almaenig, rhai ohonynt yn 200 o hyd, ac erbyn 1916 yn hedfan ar uchder hyd at 4000m, yn rhyfeddu ac yn dychryn sifiliaid, a oedd yn gwbl amharod at y math hwn o ryfela.

Er bod de Cymru gryn bellter oddi wrth y cyrchoedd cyntaf, yn ddi-os, erbyn 1915 roedd pryderon y buasai canolfannau megis Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn dargedau ymosodiadau. Yn sgil yr ofn a godai’r awyrennau Zeppelin, bu ysgolion yng Nghaerdydd yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch sut roedd angen ymateb dan gyrch. Mae cyfres o gyfarwyddiadau a ddatblygwyd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caerdydd i Ferched yn dal mewn bodolaeth, ac wedi ei chadw yn Archifau Morgannwg (Cymdeithas Cyn-Ddisgyblion Ysgol Uwchradd i Ferched Caerdydd, DX263/38/7).

DX263_38_7

Mae’r cyfarwyddiadau mewn llawysgrif, ac wedi eu hysgrifennu mewn brys o bosib; maent yn nodi mai sain larwm ymosodiad Zeppelin fuasai … sŵn gong, chwiban yr heddlu a chloch drydanol swnllyd i gyd ar y cyd. Dilynasai saib ac yna un chwyth gan gorn: gelwid hwn yr “Arwydd Arbennig”. Mewn ymosodiad, byddai llawr uchaf yr ysgol i gyd yn gwagio a’r disgyblion yn dychwelyd i’w dosbarthiadau neu i ystafelloedd yr Ysgrifenyddes neu’r Pennaeth. Buasai’r disgyblion yn symud â chywirdeb milwrol: mewn un rhes yn unig ar y grisiau. Rhedeg i lawr y grisiau fel petai dril, a gorymdeithio doeth yn unig ar hyd y coridorau.

Rhaid cofio nad oedd gan bobl brofiad o ymdopi â’r math hwn o ymosodiadau, ac yn sicr doedd dim byd tebyg i’r llochesi rhag bomio a fu wedyn ar gyfer trigolion yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar un llaw, roedd penderfynu cadw’r disgyblion y tu mewn yn rhesymegol, ond fel y gwelwyd mewn un ysgol yn Poplar, Llundain ym 1917, gallasai hefyd fod yn drychinebus petai bom yn syrthio’n uniongyrchol ar yr adeilad.

Yn ffodus, dim ond er mwyn driliau ymarfer yr oedd angen y cyfarwyddiadau ar ysgolion Caerdydd. Fodd bynnag, roedd adroddiadau papurau newydd am ymgyrchoedd awyr a’r hanesion a gafwyd o lygad y ffynnon gan ddynion a merched o dde Cymru a oedd yn gweithio yn Llundain a’r de-ddwyrain yn cynnal yr ofn. Mae gan Archifau Morgannwg gofnod gan Albert Phillips o Gaerdydd ym mis Hydref 1915 yn sôn am ymosodiad Zeppelin ar Lundain.

Bu’r ymosodiad Zeppelin cyntaf ar Lundain ym mis Mai 1915. Honnir bod y Kaiser wedi mynnu mai ar Ddwyrain Llundain yn unig yr oedd yr ymosodiadau i ddechrau oherwydd nad oedd am beri niwed i’w berthnasau yn nheulu brenhinol Lloegr. Os bu hynny’n wir, roedd y cyfarwyddyd wedi ei ddiddymu erbyn mis Hydref pan fu un o’r ymosodiadau mwyaf trychinebus ar ganol Llundain ar noson y 13eg o Hydref. Adnabyddir yr ymosodiad fel y ‘Theatreland Raid’; ceir adroddiad ohono gan ŵr ifanc o Gaerdydd, A J Phillips, a oedd yn gwasanaethu gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin ym Marics Millbank yn Llundain. Mab y saer, Thomas Phillips, Monthermer Road, oedd Albert, a bu’n ddisgybl yn Ysgol Albany Road ac Ysgol Uwchradd Dinas Caerdydd yn hwyrach (yr MSS gan y disgyblion). Roedd yn un ar hugain oed yn ystod yr ymosodiad Zeppelin, a byddai ef a llawer o gyn-ddisgyblion eraill yr MSS yn ysgrifennu’n rheolaidd at eu cyn brifathro, William Dyche, yn adrodd ei hanesion rhyfel. Cadwodd William Dyche y llythyrau a dderbyniodd o 1914-1916 ac maen nhw bellach yn Archifau Morgannwg. Mae’r llythyrau’n ffynhonnell wreiddiol o wasanaeth yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, o’r hyfforddiant sylfaenol hyd at fywyd ar flaen y gad, ym mhob theatr o’r rhyfel.

Yn ei lythyrau at William Dyche, bu Albert Phillips yn cwyno ei fod yn brin ei lwc oherwydd yr anfonwyd ef i Lundain gan y Corfflu Meddygol, yn hytrach nag yn syth i ymladd yn Ffrainc.

EHGSEC11_54 part1

As you see I’m still groping along the road that leads to nowhere, in the R.A.M.C. Daniel and I are orderlies in an officers’ hospital at Millbank, and our lives resemble very much that of a domestic and an oppressed one at that.

Fodd bynnag, bu newid mawr ym mywyd gwaith yn yr ysbyty ar noson y 13eg o Hydref pan ddaeth yr awyrennau Zeppelin dros Lundain.

EHGSEC11_54 p2

London was excited last evening. I happened to be in the Zeppelin squad detailed for duty in case of emergency. A message came from the War Office, to stand by stretchers, and while waiting in readiness – in spite of the fact that some of us who are Kitchener’s men (as opposed to the St. John’s men) knew not the slightest thing about stretchers – we heard a succession of loud reports, and on rushing out of the guardroom could distinctly see the Zeppelin sailing rapidly above what might have been the “City”. It was a wonderfully clear night and, in addition, the invader was illuminated by the ring of the searchlights turned upon it. The anti-aircraft guns did their best, no doubt, but the shells exploded at a safe distance from the airship. After about five or ten minutes, during which time it was travelling at a very high speed, the Zep turned seawards.

The first visit was at about 10 o’clock. At about midnight, the airship was said to have returned near London again. Some of our fellows claim that they saw it, but I was not so lucky. This is the second time that the raids have penetrated over the city since I have been here. The damage done to buildings is not serious, consisting mainly of injury to theatres and offices near the Strand and Aldwych. The papers this morning published the number of killed at 6, but I have heard as absolute fact that at least sixteen were killed. Some dozen dead were brought to Charing Cross Hospital, where a few of our men were called in off the streets, to give assistance. I expect that the raids have not finished, with this mild weather (Llythyr gan A J Phillips at William Dyche, 14 Hydref 1915, EHGSEC/11/54).

Roedd pum awyren Zeppelin yn rhan o’r ymosodiad ar ardal y theatrau, ac un yn unig a ddaeth drwodd i ymosod ar ganol Llundain. Gollyngwyd bomiau gan awyren Zeppelin L15 ar y Strand, Aldwych, Gray’s a Lincoln’s Inn a Finsbury.

Roedd asesiad Phillips yn agos ati pan ddywedodd y bu farw 17 ac yr anafwyd 20 gan y bomiau a ollyngwyd yn agos at Theatr Lyceum. Ond bryd hynny, doedd e ddim yn gwybod bod yr L15 wedi ymosod ar ardaloedd eraill yn Llundain ac wedi lladd 7 ac anafu 20 arall. Yn fwyfwy, roedd y pedair awyren Zeppelin arall a fethodd â chyrraedd canol Llundain, wedi gollwng eu bomiau ar ardal eang o amgylch y ddinas, gan gynnwys ymosodiadau ar Guildford, Tunbridge Wells a Hertford. Fel yn achos cyrchoedd eraill, nid oedd gan y gynnau, ar y cyfan, y pŵer i fygwth yr awyrennau ac roedd awyrennau Prydain yn methu â dod o hyd i’r awyrennau Zeppelin yn y nos. Bu farw neu anafwyd cyfanswm o bron 200 o bobl yn un o’r ymosodiadau mwyaf difrifol ar Brydain gan awyrennau Zeppelin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Doedd pobl ddim yn sylweddoli mai prin y tarai’r awyrennau Zeppelin eu targedau wrth hedfan yn y nos. Roedd anawsterau llywio, ymdopi â thywydd gwael a phroblemau mecanyddol yn arwain at awyrennau’n methu â chyrraedd eu targedau neu’n mynd ymhell oddi ar eu llwybr. Serch hynny, roedd y ffaith bod yr awyrennau Zeppelin yn dewis gollwng eu bomiau cyn mynd yn ôl dros y Sianel yn golygu bod y bomio’n fwy ar hap ac yn anodd ei wrthsefyll a pharatoi ar ei gyfer. Oherwydd y gwyddant na allent daro eu targed yn bendant o gwbl, byddai’r awyrennau Zeppelin yn defnyddio dyfeisiau llosgi er mwyn creu difrod ar raddfa eang drwy fomio o uchder. Roedd cyfuniad o syndod a’r potensial i achosi anafiadau niferus yn golygu mai’r awyrennau Zeppelin oedd un o arfau mwyaf dychrynllyd y rhyfel o safbwynt y boblogaeth gartref, a gelwid nhw yn “Fecanwaith Llofruddiaeth” gan y papurau newydd.

Ym mis Medi 1916, daeth yr Is-gapten William Leefe Robinson y milwr awyr cyntaf i saethu llong awyr Almaenig i lawr o’r awyr uwchben Lloegr. Roedd darnau a ganfyddai pobl o ddinistr awyrennau Zeppelin yn werthfawr iawn, a byddai sefydliadau megis y Groes Goch yn eu defnyddio mewn ymgyrchoedd codi arian. Eto, mae gan Archifau Morgannwg ddarn o awyren Zeppelin Almaenig L31 a ddangoswyd yng Nghyfnewidfa Caerdydd ar 20 Hydref 1916 gan y Groes Goch fel rhan o ymgyrch codi arian ‘Ein Dydd’ (DCOMC/1/15/9).

DCOMC1_15_9

Saethwyd yr L31 i lawr gan yr 2il Is-gapten, Wulfstan Tempest yn Potters Bar ar 2 Hydref 1916. Roedd saethu’r L31 yn dangos yr hyder cynyddol a oedd gan beilotiaid a saethwyr y llongau awyr, yn gweithio gyda’r timau golau chwilio ac yn dechrau cael y gorau ohoni yn y frwydr yn erbyn y Zeppelin. Fel yn achos y rhan fwyaf o’r llongau awyr a saethwyd i lawr yn y cyfnod hwn, bu farw’r Capten Almaenig, Heinrich Mathy, a’i griw o 19; neidiodd rhai o’r llong awyr i ddianc rhag y fflamau.  Honnodd y wasg fod y dinistr wedi helpu i ddarganfod ‘cyfrinach yr awyrennau Zeppelin’. Yn wir, roedd datblygu dyfeisiau llosgi a chregyn ffrwydro wedi eu dylunio’n benodol er mwyn chwalu trwy orchudd tenau’r llongau awyr a thanio’r nwy y tu mewn yn ddatblygiad pwysig er mwyn gwrthsefyll bygythiad yr awyrennau Zeppelin.

Erbyn canol 1917, saethid neu llosgid nifer sylweddol o’r llongau awyr. Er y parhaodd y cyrchoedd Zeppelin tan ail hanner 1918, erbyn diwedd 1917, roedd byddin yr Almaen yn araf troi ru cefn ar ddefnyddio’r llongau awyr. Ar un llaw, roedd hyn yn fuddugoliaeth i luoedd arfog Prydain. Ar y llaw arall, roedd yr Almaenwyr bellach wedi datblygu ystod o awyrennau, gan gynnwys bomwyr Gotha, a oedd yn llawer mwy effeithiol wrth gyrraedd a tharo eu targedau. Er y trechwyd yr awyrennau Zeppelin, byddai’r frwydr dros yr awyr yn parhau drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf. Creodd y cyrchoedd ofn o’r bomiwr, a byddai hyn yn parhau ymysg y bobl ac yn dylanwadu ar feddwl syniadaeth filwrol tan a thrwy gydol yr Ail Ryfel Byd.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s