Mis Chwefror yw Mis Hanes Pobl Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT).
Yn aml, bu’r gorffennol yn galed i bobl LHDT. Mae Pobl LHDT yn aml ynghudd mewn hanes, un ai yn fwriadol neu oherwydd ofn erledigaeth neu maen nhw wedi eu heithrio o gofnodion cymdeithas y brif ffrwd. Fel yn achos llawer o grwpiau sydd ar yr ymylon, mae Pobl LHDT yn ymddangos mewn cofnodion swyddogol pan fuon nhw mewn cysylltiad, ac yn aml gwrthdaro, â’r drefn. O ganlyniad, mae cofnodion yr heddlu a’r llysoedd yn ffynonellau llawn gwybodaeth. Ond mae gwybodaeth mewn llefydd eraill, ac mae ymdrechion yn mynd rhagddynt i wella’r ymchwil hon a datgelu straeon a fydd yn dangos pa mor amrywiol y bu’r gymdeithas erioed.
Yma yn Archifau Morgannwg, mae gwirfoddolwyr wedi chwilio cofnodion Cwnstabliaeth Bwrdeistref Caerdydd ac yn darganfod enghreifftiau o arestio pobl a oedd o bosib yn LHDT.
Arestiwyd Frederick Bainton yng Nghaerdydd ym 1912.
Arestiwyd James Power yn y ddinas, yntau hefyd yn yr un flwyddyn.
Arestiwyd John Gevas a’i ddedfrydu i ddeuddeng mis o lafur caled. Yna cafodd ei anfon yn ôl i’w famwlad, Groeg.
Arestiwyd Martha Alice Hodson am droseddu wrth gogio bod yn ddyn.
Arestiwyd Abdulla Taslameder ym 1918 a’i dedfrydu i 12 mis o lafur caled.
Treuliodd Henry Burns dair blynedd yng Ngharchar Caerdydd wedi ei arestio a’i farnu’n euog ym 1919.
Arestiwyd William George Bignall a Frances Darmanin ill dau ar 30 Mai 1921 a’u cyhuddo o’r un drosedd. Rhwymwyd Bignall i gadw’r heddwch a dedfrydwyd Darmanin i 18 mis o garchar.
Arestiwyd Thomas Franklin ym 1922 ond cafodd ei ryddhau.
Arestiwyd James Jones a Harry Selby ar yr un dydd ac am yr un drosedd. Rhyddhawyd y ddau. Dedfrydwyd Robert Charles Wannell i 3 blynedd o garchar wedi ei arestio ym 1922.
Ym 1910, dedfrydwyd Frederick Benson i 2 flynedd yn y benydfa.
Er y rhyddhawyd Louis Perlin cafodd ei alltudio o’r wlad.
Mae’r achosion hyn wedi eu canfod o gofrestri Ffotograffig ag Olion Bysedd Heddlu Caerdydd (cyf.: DCONC/3/2/2-6) sydd ar gael i’w harchwilio yn Archifau Morgannwg.