“Milwr dewr a siriol”: Yr athro cyntaf o Forgannwg i farw ar faes y gad yn Ffrainc

Ymunodd dros 15,000 o athrawon â’r lluoedd arfog i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn rhaid i Benaethiaid gadw dyddlyfr o weithgarwch yr ysgol ac mae dyddlyfrau ysgolion Caerffili, sy’n cael eu cadw yn Archifau Morgannwg, yn adrodd straeon llawer o’r athrawon a fu’n ymladd yn y rhyfel.  Mae dyddlyfr Ysgol y Bechgyn Cwmaber yn cynnwys stori arbennig o deimladwy sy’n cofnodi marwolaeth yr athro cyntaf o ardal Morgannwg i farw wrth wasanaethu yn y fyddin, William Clifford Harris.

Agorodd Ysgol y Bechgyn Cwmaber, gyda’r arwyddair ‘Gwell ymennydd na nerth bôn braich’, ym 1909 gan gynnig addysg i hyd at 250 o fechgyn o ardaloedd Abertridwr a Senghennydd. O hydref 1914 cyfeiriodd dyddlyfr yr ysgol, a gadwyd gan y Pennaeth George Davies, yn rheolaidd at staff yn gadael i ymuno â’r Lluoedd Arfog.

ECG18_1 p94

During the holidays Mr W C Harris (U.T) joined the New Army and the staff is therefore short of one teacher [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 4 Ion 1915, ECG18/1 t.94]

Mr John A Roberts terminated his duties as Certificated Assistant here today. He has enlisted in the Royal Flying Corps and proceeds to Farnborough tomorrow [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 27 Medi 1915, ECG18/1 t.109]

Mr W S Trigg left school today. He has been granted a Commission in the 23rd Pioneer Batt’ and will commence his new duties tomorrow [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 31 Hyd 1915, ECG18/1 t.111]

Mr Jno Ellis Williams returned to school today. He terminates his engagement at this school today and enters an O.T.C on 16th inst, after which he is taking a Commission offered him in the Welsh Guards [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 14 Rhag 1915, ECG18/1 t.112]

Mr Haydn P Williams terminated his duties as Student Teacher at this school having been today called up for military service [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 14 Ion 1916, ECG18/1 t.130]

Mr Herbert H Beddow (Student teacher) left on Military Service this morning [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 5 Maw 1917, ECG18/1 t.133]

O’r dyddlyfr a chofnodion eraill yn Archifau Morgannwg gallwn adeiladu darlun o William Clifford Harris. Yn ogystal â Chwmaber, bu’n ddisgybl yn Ysgol Lewis i Fechgyn, Pengam, ac mae gan Archifau Morgannwg gofnodion manwl ar gyfer yr ysgol ar gyfer y cyfnod hwn.

Roedd William Clifford Harris yn grwt lleol a aned yn Rhydri ym mis Ionawr 1895. Enw ei dad oedd William Harris ac felly, er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau, galwyd y plentyn wrth ei enw canol, Clifford. Bu’n byw yn Swyddfa’r Post, 16 Garth Place, Rhydri am y rhan fwyaf o’i oes. Groser a aned yn Rhydri oedd ei dad, ac roedd ei fam Ida o Stoke St Mary yng Ngwlad yr Haf. Roedd ganddo frawd, Harold, a 4 chwaer, a chafodd ei addysgu yn Ysgol Gyngor Rhydri i ddechrau. Ym mis Hydref 1907 cafodd ei dderbyn i Ysgol Lewis i Fechgyn. Gorffennodd ei addysg yn yr ysgol cyn cael lle fel athro-fyfyriwr yn Ysgol Gyngor Rhydri ym mis Hydref 1912, ac yntau’n 17 oed. Ar ôl hynny symudodd i Ysgol Fechgyn Cwmaber fel Athro Cynorthwyol Di-dystysgrif ar 17 Medi 1913.

Bedwar mis ar ôl dechrau’r rhyfel, ar 31 Rhagfyr 1914, ymrestrodd gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghaerffili. Ni chyflwynwyd gorfodaeth filwrol tan 1916, felly roedd Clifford, a oedd yn 19 oed ar y pryd, yn un o’r llawer o wŷr ifanc o dde Cymru a wirfoddolodd i wasanaethu. Ynghyd â recriwtiaid eraill 16eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, cwblhaodd Clifford ei hyfforddiant cychwynnol yng ngogledd Cymru, yn Llandudno fwy na thebyg, cyn symud gyda’r Bataliwn i Gaer-wynt ym mis Medi 1915 i gwblhau ei hyfforddiant cyn ei throi hi am Ffrainc. Mae dyddlyfrau’r ysgol yn nodi, cyn iddo adael am Gaer-wynt, ei fod wedi dychwelyd i dde Cymru ar wyliau a galw yn yr ysgol am glonc gyda’i gydweithwyr a’r disgyblion [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 26 Gorff 1915, ECG18/1 t.107].

ECG18_1 p107

Yn drist iawn, chwe mis yn ddiweddarach, ychydig ddiwrnodau ar ôl pen-blwydd Clifford yn 21 oed, cofnododd George Davies yn y dyddlyfr:

ECG18_1 p114

News reached the school today that one of our staff, Pte W C Harris, 16th Batt’ Royal Welsh Fusiliers, had been killed in action on Sunday, Jan 30th 1916.  He was shot by a German sniper in the chest, but continued firing until he was again shot in the head [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 7 Chwe 1916, ECG18/1 t.114]

Roedd 16eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, rhan o Fyddin Newydd Kitchener, wedi glanio yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915 a symud i’r rheng flaen ger Neuve Chapelle ar 6 Ionawr. Yna symudodd y Bataliwn i ardal St Vaast ar 27 Ionawr a bu farw Clifford dridiau’n ddiweddarach. Ar 16 Chwefror, rhoddwyd y toriad canlynol o bapur newydd yn y dyddlyfr:

ECG18_1 p115

Caerphilly Teacher Killed

At a meeting of the Caerphilly school managers yesterday (Councillor Joseph Howells presiding) a letter was read from Dr J. James, Chief Education official, stating that he had been informed that a teacher in the Caerphilly group – Mr W C Harris – had been killed in action. He was attached to the 16th Royal Welsh Fusiliers.  The Headmaster of the school had sought permission to affix a brass tablet to the wall in the school, on which would be engraved the names of any old scholars and teachers who gave their lives for their country.  The letter also stated that Mr Harris was the first teacher under the Glamorgan Authority who had made the great sacrifice in defence of his country. Votes of sympathy were passed with the relatives of both families, and it was decided to recommend that permission be given for the tablet to be placed in the school as requested [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 16 Chwe 1916, ECG18/1 t.115]

Nid oes rhagor o sôn am y llechen efydd yn nyddlyfr Ysgol Cwmaber, ac mae’n bosibl iddi gael ei cholli pan gaeodd yr ysgol ym 1973. Nid Clifford Harris oedd yr unig athro o Ysgol Cwmaber i golli ei fywyd yn y rhyfel. Ar 4 Mehefin 1917, cofnododd y dyddlyfr:

News has been received that L Corp JJ Wibley (a former teacher at this school) has died from the effect of wounds received in action in France [Ysgol y Bechgyn Cwmaber, 4 Meh 1917, ECG18/1 t.136]

Fodd bynnag, mae’n siŵr y bu marwolaeth Clifford, y cyntaf o lawer o athrawon ifanc o ardal Morgannwg a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn sioc fawr, ac mae cofeb iddo ef a 12 o wŷr lleol eraill yn Eglwys Sant Iago, Rhydri. Ceir cofeb arall yng Nghapel Cynulleidfaol Ebeneser.

Sacred to the memory of Pte W Clifford Harris (16th Battalion, Royal Welsh Fusiliers). Aged 21 years who was killed in action at St Vaast, France, January 30 1916. He died as he had lived. A brave and cheerful soldier.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s