Ysbyty Tywysog Cymru, Caerdydd

Sefydlwyd Ysbyty Tywysog Cymru fel Ysbyty’r Groes Goch ym 1914 yn Rhif 21 The Walk, Caerdydd. Drwy fenter gan Syr John Lynn-Thomas, cyn-lawfeddyg, prynwyd yr eiddo hwnnw a chafodd ei enwi’n Ysbyty Cymru a Sir Fynwy i Forwyr a Milwyr Heb Goesau neu Freichiau. Cyrhaeddodd y cleifion Orthopedig cyntaf ym mis Mai 1917. Prynwyd mwy o eiddo yn yr Hen Blasty a Richmond Crescent yng Nghaerdydd. Fe’i hailenwyd yn Ysbyty Tywysog Cymru pan gafodd ei agor yn ffurfiol ym 1918 gan y tywysog, a fyddai’n cael ei goroni’n Edward VIII a’i benodi’n Ddug Windsor.

Prif dasg Ysbyty Tywysog Cymru oedd helpu’r rheini a oedd wedi colli coesau neu freichiau yn y rhyfel i fyw bywydau normal. I’r perwyl hwnnw datblygwyd coesau a breichiau prosthetig mewn cyfleusterau ar y safle, fel y gallent gael eu hadeiladu’n arbennig i bob unigolyn.

Fitting of artificial limbs

Yn y ddwy flynedd a hanner gyntaf o ddarparu’r gwasanaeth hwn, crëwyd 878 o goesau (a 273 o goesau pren) a 287 o freichiau newydd, a chafodd 480 eu hatgyweirio.

Ar ôl i’r coesau a breichiau prosthetig gael eu rhoi yn eu lle, byddent yn cael eu profi yng ngardd yr Ysbyty, a oedd wedi’i haddasu i gynnwys bryniau a chymoedd bach artiffisial o serthni amrywiol, ynghyd â llethrau a throadau siarp.

Special garden for walking

Unwaith y byddai’r profion hyn wedi’u cwblhau, byddai’r milwyr clwyfedig yn cael eu cymryd ar daith i Gaerdydd, gyda’r rhai a allai symud yn eithaf da yn cael mynd i’r ganolfan siopa. Un o’r problemau a wynebwyd oedd nad oedd ganddyn nhw unrhyw le i eistedd lawr, felly byddai’n rhaid iddyn nhw bwyso yn erbyn rheiliau neu orwedd i lawr ar dir agored. Yn y pen draw, darparwyd meinciau cyhoeddus.

Hyd yn oed cyn i’r Rhyfel ddirwyn i ben, nodwyd yng nghyfansoddiad Ysbyty Tywysog Cymru y byddai, un dydd, yn gwasanaethu dinasyddion heb goesau neu freichiau, yn ogystal â milwyr wedi’u hanafu, o oedolion a anafwyd yn y pyllau glo neu mewn ffatrïoedd i blant a oedd yn cael eu geni â choesau neu freichiau anffurfiedig neu goll neu a oedd wedi dioddef damwain neu salwch a arweiniodd at y fath gyflwr.

Arweiniodd estyniad pellach at safle newydd yn Crossways yn y Bont-faen ym 1930. Byddai Ysbyty Tywysog Cymru yn aros yn The Walk a Crossways drwy gydol y ddau Ryfel Byd, gan ddioddef o ddifrod bomio yn adeiladau The Walk yn ystod yr ail ryfel, cyn symud i Rydlafar yn ardal Pentyrch ym 1953 (hen safle byddin yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd). Datblygodd yr Ysbyty i gynnig gwasanaethau eraill fel therapi galwedigaethol a therapydd lleferydd, cyn cau ei ddrysau ym 1998. Trosglwyddwyd y gwasanaethau i ysbytai a chanolfannau iechyd eraill yn Ne Cymru, gyda gwasanaethau orthopedig yn cael eu symud i Ysbyty Llandochau ym Mhenarth. Caewyd yr hen safle yn The Walk i gleifion allanol ym 1972, a chaeodd Crossways ym 1965, ar wahân i ysgol arbennig a oedd yn gysylltiedig â’r ysbyty, a gaeodd ei drysau ym 1987.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros Dro

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s