Ar 5 Tachwedd 1917, nododd Thomas Davies, prifathro Ysgol Fechgyn Abernant, yng nghofnodlyfr yr ysgol:
‘I am leaving at 3.00 this afternoon and will not be present tomorrow morning – ‘Guard Duty’ at Cardiff Docks’ (Ysgol Fechgyn Abernant, llyfr log, 5 Tach. 1917, EA11/4, t.135).
I lawer o bobl, mae sôn am y Gwarchodlu Cartref, neu ‘Hôm Gard’ yn dwyn i feddwl Walmington on Sea a giamocs Capten Mainwaring a Private Pike wrth iddynt baratoi i ‘wneud eu darn’ ac amddiffyn rhag goresgyniad gan yr Almaen ym 1940. Ond, mae’n llai adnabyddus bod i’r Gwarchodlu Cartref ragflaenydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, sef y Corfflu Hyfforddiant Gwirfoddol (VTC). Mae cofnodlyfrau ysgolion Aberdâr o 1914 i 1918 yn rhoi cipolwg defnyddiol ar fywydau rhai o’r dynion o ardal Aberdâr a ymunodd â’r VTC lleol.
Yn y misoedd ar ôl i’r rhyfel ddechrau yn Awst 1914, roedd goresgyniad yn bosibiliad gwirioneddol. O ganlyniad, daeth sifiliaid mewn llawer o ardaloedd ynghyd i sefydlu grwpiau amddiffyn lleol, a drefnwyd yn aml gan gyn-filwyr. Nid oedd Aberdâr yn eithriad, ac ar 31 Awst 1914, adroddodd William Roberts, Prifathro Ysgol Fechgyn Cyngor Parc Aberdâr:
‘A teachers’ corps has been set up due to the war. The head teacher attended a drill session at 6.30 on Thursday and also on the evening of this particular day. All the other male teachers attend except for Mr H. Williams who suffers from eczema on his feet’ (Ysgol Fechgyn Cyngor Parc Aberdâr, llyfr log, 31 Awst 1914, EA23/5, tt.496-7).
Roedd y Swyddfa Ryfel yn ymwybodol bod angen gweithredu i drefnu’r grwpiau lleol dan reolaeth filwrol. Erbyn diwedd 1914, ymgorfforwyd y milisia lleol yn gatrodau sirol dan reolaeth corff newydd a hyrwyddwyd gan y Swyddfa Ryfel, Cymdeithas Ganolog i Gorfflu Hyfforddiant Gwirfoddol. Ynghyd â phrifathrawon eraill ledled y wlad, yn Ionawr 1915, cafodd William Roberts ddau gylchlythyr o’r Bwrdd Addysg a’r Swyddfa Ryfel yn nodi fframwaith y Corfflu Hyfforddiant Gwirfoddol. Nododd y rhifyn cyntaf:
‘The Army Council consider that all men of military age who can be spared should join the Regular Forces either as Officers or Privates and they hope that no one who is able and willing to join the Forces will be deterred from doing so by the arrangements now made for the recognition of Volunteer Training Corps. They realise however, that teachers in public schools are already performing public service and are prepared, if such teachers cannot be spared from their posts, without substantial detriment to that service to regard them as having a genuine reason within the meaning of Rule 1 for not now enlisting in the Regular or Territorial Army. Any teacher, however, who being of military age enrols himself in a Volunteer Training Corps, will be subject to the condition in Rule 1 that he could subsequently enlist if he is specially called upon by the War Office to do so’ (Ysgol Fechgyn Cyngor Parc Aberdâr, llyfr log, 11-15 Ion. 1915, EA23/6, tt.25-6).
Amlinellodd yr ail un delerau llym y bu’n rhaid i’r grwpiau lleol weithredu oddi danynt:
‘1) No arms, ammunition or clothing will be supplied from public sources nor will financial assistance be given. 2) There may be uniformity of dress among members of individual organisations provided no badge or rank are worn and provided that the dress is distinguishable from that of Regular and Territorial units. 3) Members of recognised organisations will be allowed to wear as a distinctive badge a red armlet of a breadth of three inches with the letter GR inscribed thereon. The badge will be worn on the left arm above the elbow. 4) The accepted military ranks and title will not be used or recognised and no uniform is to be worn except when necessary for training. 5) No form of attestation involving an oath is permitted. 6) It will be open to Army recruitment officers to visit the Corps at any time and to recruit any members found eligible for service with the Regular Army whose presence in the Corps is not accounted for by some good and sufficient reason’ (Ysgol Fechgyn Cyngor Parc Aberdâr, llyfr log, 11-15 Ion. 1915, EA23/6, tt.27-28).
Nid yw’r cofnodlyfrau’n datgelu beth ddigwyddodd i’r grŵp gwreiddiol o wirfoddolwyr o Aberdâr. Fodd bynnag, gwyddom o gyfrifon rheolaidd yn y papurau newydd lleol, erbyn Mehefin 1915, fod Aberdâr wedi sefydlu ei Chorfflu ei hun. Ffurfiwyd VTC Aberdâr ar ôl apêl ar i ddynion wirfoddoli yn Neuadd y Dref Aberdâr ar 24 Mai. Awgrymwyd cynnal dril nos Fercher yn y Neuadd Dril, Cwmbach Road, rhwng 7pm a 9pm. Ond, ‘if Wednesday night is considered inconvenient for drill purposes some other night may be arranged. All men over the military age limit are eligible to attend’ (Aberdare Leader, 5 Mehefin 1915).
Ar y llaw arall nid oedd ymuno â’r VTC yn gwbl apelgar. Fel y nodwyd yng nghylchlythyr mis Ionawr, ni chafodd gwirfoddolwyr iwnifform nag arfau. Yr unig arwyddlun a ddynodai aelodaeth â’r Corfflu oedd band braich coch gyda’r llythrennau GR arno. Hefyd, bu’n rhaid i bob gwirfoddolwr dalu ffi danysgrifio o 2 swllt 6 cheiniog y mis i dalu am gostau cyfarpar a hyfforddiant. Roedd tynnu coes mawr ar y gwirfoddolwyr, gan gynnwys dweud bod GR yn sefyll am ‘Grandpa’s Regiment‘.
Er y diffyg cefnogaeth ganolog, ymhen mis roedd VTC Aberdâr, a ddeuai’n Gwmni B yr 2il Fataliwn (Bataliwn Merthyr) yng Nghorfflu Hyfforddiant Gwirfoddol Morgannwg, wedi recriwtio dros 70 o ddynion. I ddechrau, aeth y gwirfoddolwyr i ddwy sesiwn hyfforddiant yr wythnos yn y Neuadd Deil ac yn iard Ysgol Ferched Sirol Aberdâr. Cyhoeddwyd yr amserlen hyfforddi bob wythnos yn yr Aberdare Leader ac ymhen blwyddyn roedd y VTC yn cwrdd bum noson yr wythnos.
Roedd Thomas Davies, Prifathro Ysgol Abernant, ac A T Jenkins, Pennaeth Ysgol Iau Cwmbach, yn ddau athro yn ardal Aberdâr a ymunodd â’r Corfflu. Mae cofnodlyfrau eu hysgolion yn cyfeirio at eu haelodaeth o’r VTC sawl gwaith. Er enghraifft, ym mis Rhagfyr 1916, nid oedd Thomas Davies yn yr ysgol:
‘… received permission to be absent tomorrow in order to be present at the Inspection by Viscount French at Cardiff. The Aberdare Corps, of which I am a member, will travel …on the 10.30 TVR train’ (Ysgol Fechgyn Abernant, llyfr log, 13 Rhag. 1916, EA11/4, t.119).
Profiad A T Jenkins oedd efallai’r mwyaf arferol o fywyd yn y VTC gyda’r Prifathro’n ‘…cyrraedd yr ysgol am 10.15 ar ôl dychwelyd ar drên y bore’ o ‘ddyletswydd gardio yng Nghaerdydd’ (Ysgol Gymysg Iau Cwmbach, llyfr log, 1-2 Hyd. 1918, EA19/6. t.2, 1-2).
Yn yr un modd, nododd Thomas Davies ym mis Mehefin 1917, ‘I was absent from school this morning being on duty at Cardiff last night in company with other men of the 2nd Battn, Vol Regt, viz ‘Guard Duty’ at Roath Dock’ (Ysgol Fechgyn Abernant, llyfr log, 18 Meh. 1917, EA11/4, t.130).
Erbyn diwedd 1916 byddai VTC Aberdâr wedi bod yn wahanol iawn i’r grŵp a ffurfiwyd ym Mehefin 1915. Cofnodwyd yn yr Aberdare Leader ar 25 Rhagfyr 1915: ‘…six dozen rifles had been ordered for the use of the Corps, and also that the uniforms were expected shortly’. Mae’n bosibl y byddai’r iwnifform wreiddiol wedi bod yn rhai gwyrdd lovat, o ystyriwyd penderfyniad y Swyddfa Ryfel i sicrhau bod modd gwahaniaethu’r VTC rhag y milwyr arferol. Fodd bynnag, gwyddom o’r Aberdare Leader, erbyn diwedd 1917, fod y Cwmni wedi cael set newydd o iwnifformau caci, ac y cafodd y reiffl safonol Brydeinig i filwyr, y 303 Lee Enfield. Hefyd, fel y cofnododd Thomas Davies, nid oedd yr hyfforddiant yn gyfyngedig i ddril gyda’r nos a sesiynau ymarfer â reiffl:
‘I was absent from school duties yesterday – Sept 24th – being in training in the Military Camp at Porthcawl since 22nd inst. I did not receive intimation of same till late Friday evening’ (Ysgol Fechgyn Abernant, llyfr log, 25 Medi 1917, EA11/4, t.134).
Roedd y newidiadau fwy na thebyg yn deillio o’r penderfyniad a wnaed gan y Swyddfa Ryfel yn Awst 1916 i redeg y VTC a’i ymgorffori â’r lluoedd arfog fel y ‘Llu Gwirfoddol’.
Ar yr un adeg, apeliodd Iarll Plymouth yn y Western Mail am £10,000 i brynu cyfarpar i Gatrawd Wirfoddol Morgannwg. I ddechrau, rhagwelwyd y byddai’r VTC yn bennaf i’r rhai dros oedran ymrestru yn y lluoedd arfog. Ond byddai proffil oedran Cwmni Aberdâr wedi newid yn sylweddol erbyn diwedd 1916 pan gyflwynwyd ymrestru gorfodol. Cafodd dynion iau, wedi’u heithrio rhag gwasanaeth milwrol, eu cyfeirio’n aml gan Dribiwnlysoedd Milwrol lleol i ymuno â’r VTC naill ai am gyfnod y rhyfel neu nes y caent eu galw i wasanaethu. Erbyn diwedd 1918 cyfeiriwyd un o bob tri aelod i’r VTC gan y Tribiwnlysoedd.
Nid oes amheuaeth fod VTC Aberdâr wedi gwneud gwaith hanfodol yn ystod y rhyfel, gan gynnwys lleddfu ar y pwysau oedd ar y lluoedd arferol a’r heddlu drwy ddarparu gardiau mewn lleoliadau allweddol. Ond ni chymeradwyodd bawb weithgareddau’r VTC bob tro. Ym mis Hydref 1915, condemniwyd yr arfer o gynnal paredau ar y Sul gan Gyngor Eglwys Rydd Gymreig Hirwaun, pan anfonwyd llythyrau i aelodau anghydffurfiol o’r VTC yn gofyn iddynt beidio â mynd i ddigwyddiadau o’r fath. (Aberdare Leader, 9 Hyd. 1915). Yn ddiweddarach yn y rhyfel, cafodd yr awgrym y gallai fod gan y VTC rôl i’w chyflawni wrth hyfforddi corfflu cadetiaid i gynnal driliau milwrol i fechgyn dros 12 oed ei wrthwynebu gan Gyngor Masnach a Llafur Aberdâr, a gyflwynodd lythyr yn amlinellu ei wrthwynebiad llwyr i unrhyw ymdrech i filwriaethu addysg. (Aberdare Leader, 20 Ebr. 1918).
Tua diwedd 1917, cyhoeddodd yr Aberdare Leader gyfres o erthyglau gan rywun a ddefnyddiodd y ffugenw ‘303’. Roedd yn aelod o Gwmni Aberdâr a oedd am aros yn ddienw. Dan y pennawd ‘Nodiadau i Wirfoddolwyr’ rhoddodd flas ar fywyd yn y VTC, gan gynnwys yr elyniaeth frwd rhwng cwmnïau lleol:
‘I hear that Hirwaun is bold enough to say that they have a team of 8 willing to compete against any 8 Aberdare or Mountain Ash can turn out against them and they are willing to put up a nice stake. What says the old ‘uns of ‘Berdare and the Mount? Anything doing?’ (Aberdare Leader, 3 Tach. 1917).
‘Look out for the Battalion Parade at Cardiff shortly and attend the next drills of special arms drill so as to maintain B Company’s stand as the Cock Company of Battalion Two’ (Aberdare Leader, 3 Tach. 1917).
‘Who is going to buy the first pair of War Office boots 23s 9d and only to be worn on duty. And on the instalment plan too. My word!’ (Aberdare Leader, 10 Tach. 1917).
‘The sneer is sometimes heard that our volunteers are ‘fair weather soldiers’. That is utterly uninformed as amply authenticated by various reports issued by the CAVR…’ (Aberdare Leader, 10 Tach. 1917).
‘Night duty on guard is not the pleasantest of work, but when a guard is able to get back home in time for bed and secure the marks for drill it becomes a real pleasure’ (Aberdare Leader, 24 Tach. 1917).
‘The new equipment is arriving and some of the men ‘don’t half fancy themselves’, not half… Not a few approached the irreproachable Instructor to be excused class so that they could get home quickly to show their wives the ‘get up’. I wonder if they all said ‘wives’ (Aberdare Leader, 1 Rhag. 1917).
‘Congratulations to our new Captain and may he be a good Cox to the Company. They want a bit of steering at present’ (Aberdare Leader, 1 Rhag. 1917).
Hoffai weithiau wawdio swyddogion ac NCOau VTC Aberdâr. Mewn un rhifyn rhoddodd yr her hon iddynt: ‘No Sergeant, you have not solved the identity of 303 yet. Try again’ (Aberdare Leader, 24 Tach. 1917). Y rhifyn nesaf oedd y tro diwethaf i ‘Nodiadau i Wirfoddolwyr’ ymddangos yn y Leader. Mae’n bosibl iddo gael ei adnabod, neu, yn ddigon doeth, y penderfynodd ei bod yn amser ymdawelu.
Ni chawn fyth wybod p’un ai a oedd 303 yn un o’r gwirfoddolwyr a ddaeth o blith athrawon ysgolion Aberdâr. Ond gwyddom fod sawl gwirfoddolwr yn awyddus i ddefnyddio ei sgiliau milwrol yn yr ysgol, er mai cymysg oedd canlyniadau hynny:
‘Tues am. Hd Teacher took 25 boys, St IV, to the baths and on the way through the park tested them in drill – marching, changing step, turning, wheeling. Hardly satisfactory as some of the boys continually wrong in the turning and some do not exercise any thought, they simply do what others do whether right or wrong – a few cannot change step’ (Ysgol Fechgyn Cyngor Parc Aberdâr, llyfr log, 3-7 Gorff. 1916, EA23/6, tt.195-96).
Roedd y Corfflu Hyfforddiant Gwirfoddol yn un o sawl ffordd y cefnogai athrawon y rhyfel. Er enghraifft, gofynnwyd i athrawon yn aml helpu gyda chodi arian, ymrestru yn swyddfeydd recriwtio’r fyddin ac, yn ddiweddarach, i helpu â threfniadau dogni bwyd. Hefyd, ynghyd â nifer o rai eraill, gofynnwyd iddynt wirfoddoli i weithio dros wyliau’r haf, gan gynnwys ar y ffermydd i wneud yn iawn am y diffyg gweision fferm. Ond, i lawer un, roedd ei amser yn y VTC yn un o adegau mwyaf cofiadwy ei fywyd. Er gwaetha’r gwawdio a’r tynnu coes, roedd balchder mawr yng nghyflawniadau’r cwmnïau lleol a’u rôl wrth ennill y rhyfel. Amcangyfrifir bod tua 300,000 o ddynion wedi gwasanaethu yn y Corfflu Hyfforddiant Gwirfoddol yn ystod y Rhyfel Mawr. Daethpwyd â’r Corfflu i ben ar ôl llofnodi’r Cadoediad ym 1918 ac fe’i diddymwyd yn swyddogol ym mis Ionawr 1920.
Cymerwyd y deunydd uchod o gofnodlyfrau’r ysgolion yn ardal Aberdâr. Mae straeon tebyg yng nghofnodion ysgolion ledled Morgannwg o 1914 i 1918. Os hoffech ddysgu mwy am effaith y rhyfel ar fywyd ysgol eich ardal chi a ledled Morgannwg gallwch ddarllen crynodebau o’r cofnodlyfrau i bob ardal awdurdod lleol ar wefan Archifau Morgannwg yn www.archifaumorgannwg.gov.uk Gallwch hefyd ddarllen nifer o’r papurau newydd a gynhyrchwyd yng Nghymru ym 1914-18 gan gynnwys deunydd o’r Aberdare Leader a ddyfynnwyd uchod yn http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/. Crëwyd y wefan gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru i gynnig adnodd ar-lein am ddim i ddarllen papurau newydd a gynhyrchwyd yng Nghymru.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg