Bydd darllenwyr cyson yn cofio efallai ein bod, fel rhan o ddathliadau ein pen-blwydd yn 75 oed, wedi cynnwys erthygl fer am lythyr o’n casgliad a ysgrifennwyd gan Thomas Harry, gŵr o Forgannwg a ymfudodd i Batagonia ym 1865.
Sefydlwyd y Wladfa ym Mhatagonia ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Aeth y Cymry cyntaf, 153 ohonyn nhw, ar fwrdd llong y Mimosa. Cyrhaeddon nhw yn Puerto Madryn ar 28 Gorffennaf 1865, cant a hanner o flynyddoedd yn union i heddiw. Roedd Thomas Harry yn eu plith.
Pan ysgrifennodd ei lythyr adref ym 1873, roedd yn ddyn sengl, yn byw ac yn ffermio ar Fferm Tan y Castell. Roedd gwneud bywoliaeth yn anodd ar wastadedd garw Patagonia. Gofynnom yn ein herthygl am wybodaeth gan unrhyw un a wyddai beth fu hanes Thomas Harry wedi hynny. A arhosodd yn ei wlad newydd, ynteu ddychwelyd adre i Gymru? Cawsom nifer o ymatebion, a dyma beth dysgon ni.
Cafodd Thomas Harry ei fagu yn Nhrelales, Pen-y-bont ar Ogwr, ond erbyn iddo gyrraedd 18 oed, roedd yn gweithio o dan ddaear ym Aberpennar ac yn byw gyda’i fodryb Mary Jones, chwaer ei fam, a’i thylwyth hi. Roedd eraill o drigolion Aberpennar ar fwrdd y Mimosa, gan gynnwys John ac Elizabeth Jones a’u merch Margaret. Roedd Mary Jones, modryb Thomas, hefyd ymhlith y fintai a ganed iddi fab, John, ar y daith.
Er ei fod yn ddyn dibriod pan ysgrifennodd Thomas Harry ei lythyr adre, yn nes ymlaen fe briododd Jane Jones, gweddw Eleazor Jones, ac fe gawson nhw dri o blant. Mewn disgrifiad o fedydd Anglicanaidd a berfformiwyd ym 1885, dysgwn am Luther, Arthur a Mary yn cael ei bedyddio gan y Parchedig Hugh Davies yn Nhrelew ar 26 Mawrth. Enw’r rhieni oedd Thomas Harri a Jane Jones o Dan y Castell. Dinistriwyd cartref y teulu yn llifogydd mawr Dyffryn Camwy ym 1899, ond cafodd ei ailadeiladu ar yr un seiliau a’i alw’n Granjo del Castillo er cof am yr enw gwreiddiol.
Mae rhyw 50,000 o Batagoniaid o dras Cymreig o hyd, a rhai ohonynt yn dal i allu siarad Cymraeg. Mae disgynyddion Thomas Harry yn eu plith. Mae disgynyddion y teulu Harry hefyd yn dal i fyw yng Nghymru.
Gellir gweld ffotograff o’r rhai a fudodd ar fwrdd y Mimosa, wedi ei dynnu 25 mlynedd wedi iddynt gyrraedd Patagonia, yng Nghasgliad y Werin Cymru: http://www.peoplescollection.wales/items/14135. Mae Thomas Harry ar ei draed, y pumed o’r chwith.
Diolch i Rita Tait am lawer o’r wybodaeth sy’n sail i’r adroddiad hwn. Roedd Elizabeth Harry, ei hen hen fam-gu ar ochr ei mam, yn dod o Dregolwyn ac yn gyfnither i Thomas Harry.