Roedd Capel Methodistaidd Wesleaidd Roath Road ar y gornel rhwng Heol y Plwca a Heol Casnewydd. Roedd yn adeilad mawr a adeiladwyd tua 1860, gyda lle i 1000 o bobl. Sefydlwyd Cylchgrawn Roath Road yn wreiddiol fel cylchgrawn Ysgol Sul Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road (DX320/3/2/i-iii). O fis Tachwedd 1914 fe’i cyhoeddwyd yn fisol o dan yr enw ‘Roath Road Roamer’ (RRR) i gynnig newyddion ar y rhyfel ac, yn benodol, ffawd y milwyr a oedd yn gysylltiedig ag Eglwys Wesleaidd Roath Road, yr Ysgol a’r Cynulliad a oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog (DAWES6). Fe’i dosbarthwyd ledled yr ardal, ac fe’i hanfonwyd dramor i roi newyddion o Gymru i filwyr, teuluoedd a ffrindiau ynghyd â gwybodaeth am eu cyfoedion yn y lluoedd. Yn benodol, roedd yn cynnwys ffotograffau a llythyrau gan filwyr a oedd yn gwasanaethu dramor.
O’r cychwyn cyntaf, y bwriad oedd i’r cylchgrawn sôn am gyfraniad merched y plwyf ac, yn benodol, y rheini ‘mewn iwnifform’. Yn eu crynswth, soniodd y cylchgronau am 19 o ferched o ardal y Rhath. Roedd llawer yn chwiorydd i filwyr, morwyr a pheilotiaid a oedd ar faes y gad. Ceir ffotograffau o 17 ohonynt yn y cylchgronau, a sawl llythyr. Cyfeiriwyd atynt yn y cylchgrawn fel ‘ein Merched Crwydrol’ a bydd y darluniau dros yr wythnosau nesaf yn cynnig cip ar sut y symudodd merched i mewn i rolau a swyddogaethau a arferai gael eu dominyddu gan ddynion yn sgîl y rhyfel.
Ar ddechrau’r rhyfel, y llwybr amlycaf i ferched a oedd am gyfrannu at yr ymdrech ryfel oedd gwirfoddoli gydag elusennau lleol a chyrff cenedlaethol fel y Groes Goch. Dyma wnaeth saith o’r merched y sonnir amdanynt yn y cylchgrawn. Fodd bynnag, ar ddiwedd y Rhyfel, oherwydd prinder milwyr yn dilyn consgripsiwn 1916, agorwyd drysau i ferched mewn sawl maes gwaith newydd. Erbyn 1918 roedd y Merched Crwydrol i’w canfod yng Nghorfflu Atodol Byddin y Merched, y Llu Awyr Brenhinol, Byddin y Tir a gwasanaethau lleol, gan gynnwys y rheilffyrdd a’r post. At hynny, o’u llythyrau, gwyddom fod llawer ohonynt wedi gwasanaethu dramor.
Gwasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd – Lizzie Veal ac Annie Sanders, a’r Geid Edith Carbis
Mae dau o’r ffotograffau mwyaf diddorol yn dangos Lizzie Veal ac Annie Sanders yn gwisgo iwnifformau Rheilffordd Fawr y Gorllewin a’r Gwasanaeth Post, yn y drefn honno. Erbyn diwedd y rhyfel, byddai golygfeydd o’r fath wedi bod yn gyffredin yng Nghaerdydd wrth i ferched gamu i rolau a oedd yn nodweddiadol o ddynion.
Ni allwn fod yn siŵr, ond mae’n bosib mai Elizabeth Jane Veal o Adamsdown yw’r ddynes hon. Os felly, roedd cysylltiad teuluol â’r rheilffyrdd oherwydd roedd ei brawd, George, yn adeiladwr wagenni trenau. Er bod merched wedi’u cyflogi gan Reilffordd Fawr y Gorllewin cyn 1914, cynyddodd y niferoedd yn gyflym o 1914 i lenwi’r bylchau a adawyd gan y dynion a aeth i ryfel. Gwelwyd y llun o Lizzie Veal yn ‘The Roamer’ ym mis Ebrill 1919 (Cyf.54, t.2). Ar y pryd, byddai wedi bod yn un o dros 1000 o ferched a gyflogwyd gan y Rheilffordd fel porthorion a chasglwyr tocynnau.
Yn anffodus, nid oes llawer o wybodaeth yn ‘The Roamer’ am Annie Sanders (Cyf.51, t.5). Mae’n bosib mai Annie Sanders o Treharris Street ydoedd. Os felly, roedd gŵr Annie, George, yn deiliwr a byddai wedi bod yn 29 oed ar ddechrau’r rhyfel. Cafodd ei ffotograffio, gyda sach o lythyrau, yn gwisgo sgert frethyn las a chôt a het las y gwasanaeth post, a gyflwynwyd i ferched ym 1914.
Yn olaf, talwn deyrnged i’r ferch gyntaf a ieuengaf i gael ei chynnwys yn ‘The Roamer’, Edith Carbis.
Ymddangosodd ffotograff Edith yn rhifyn Ionawr 1915, gyda’r sylwadau canlynol:
‘We do not want the RRR to develop into merely a Men’s Magazine and hope to vary our pictures at any rate, so far as the kindness of our friends will permit. This month it is our pleasure to present this photo of Miss Edith Carbis, who is a member of the 1st Roath, Cardiff, Patrol of Girl Guides. She is one of our scholars of course, although unfortunately the Patrol is not connected with Roath Road. Guide Carbis has been on ‘active service’ since the War began and has been in daily attendance on the Lady Mayoress at the City Hall. The remainder of her day’s routine has been devoted to making clothes for the Belgians’ (Cyf.3, t.7).
Ac eithrio cyfeiriadau at y Nyrs Alice Williams ar ddiwedd 1915, ni ddechreuodd ‘The Roamer’ sôn yn rheolaidd am ferched y Rhath tan fis Mawrth 1918. Roedd wedi cymryd cryn amser i gymdeithas dderbyn y gallai merched gamu i mewn i rolau’r dynion. Er mai byrhoedlog oedd y cyfleoedd newydd hyn i lawer, ni ellid gwadu bod yr agwedd at waith a rolau gwrywaidd a benywaidd wedi newid am byth o ganlyniad i brofiad cyfnod y rhyfel.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg