Roedd Capel Methodistaidd Wesleaidd Roath Road ar y gornel rhwng Heol y Plwca a Heol Casnewydd. Roedd yn adeilad mawr a adeiladwyd tua 1860, gyda lle i 1000 o bobl. Sefydlwyd Cylchgrawn Roath Road yn wreiddiol fel cylchgrawn Ysgol Sul Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road (DX320/3/2/i-iii). O fis Tachwedd 1914 fe’i cyhoeddwyd yn fisol o dan yr enw ‘Roath Road Roamer’ (RRR) i gynnig newyddion ar y rhyfel ac, yn benodol, ffawd y milwyr a oedd yn gysylltiedig ag Eglwys Wesleaidd Roath Road, yr Ysgol a’r Cynulliad a oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog (DAWES6). Fe’i dosbarthwyd ledled yr ardal, ac fe’i hanfonwyd dramor i roi newyddion o Gymru i filwyr, teuluoedd a ffrindiau ynghyd â gwybodaeth am eu cyfoedion yn y lluoedd. Yn benodol, roedd yn cynnwys ffotograffau a llythyrau gan filwyr a oedd yn gwasanaethu dramor.
O’r cychwyn cyntaf, y bwriad oedd i’r cylchgrawn sôn am gyfraniad merched y plwyf ac, yn benodol, y rheini ‘mewn iwnifform’. Yn eu crynswth, soniodd y cylchgronau am 19 o ferched o ardal y Rhath. Roedd llawer yn chwiorydd i filwyr, morwyr a pheilotiaid a oedd ar faes y gad. Ceir ffotograffau o 17 ohonynt yn y cylchgronau, a sawl llythyr. Cyfeiriwyd atynt yn y cylchgrawn fel ‘ein Merched Crwydrol’ a bydd y darluniau dros yr wythnosau nesaf yn cynnig cip ar sut y symudodd merched i mewn i rolau a swyddogaethau a arferai gael eu dominyddu gan ddynion yn sgîl y rhyfel.
Ar ddechrau’r rhyfel, y llwybr amlycaf i ferched a oedd am gyfrannu at yr ymdrech ryfel oedd gwirfoddoli gydag elusennau lleol a chyrff cenedlaethol fel y Groes Goch. Dyma wnaeth saith o’r merched y sonnir amdanynt yn y cylchgrawn. Fodd bynnag, ar ddiwedd y Rhyfel, oherwydd prinder milwyr yn dilyn consgripsiwn 1916, agorwyd drysau i ferched mewn sawl maes gwaith newydd. Erbyn 1918 roedd y Merched Crwydrol i’w canfod yng Nghorfflu Atodol Byddin y Merched, y Llu Awyr Brenhinol, Byddin y Tir a gwasanaethau lleol, gan gynnwys y rheilffyrdd a’r post. At hynny, o’u llythyrau, gwyddom fod llawer ohonynt wedi gwasanaethu dramor.
Llu Awyr Brenhinol y Merched – Annie Whyte
Un o’r ffotograffau mwyaf trawiadol yw’r un o Annie Whyte yng ngwisg Llu Awyr Brenhinol y Merched (WRAF).
Ffurfiwyd WRAF tua diwedd y rhyfel yng ngwanwyn 1918, ac ymrestrodd dros 30,000 o ferched. Trosglwyddodd llawer ohonynt o WAAC a’i gorff morol cyfatebol, Gwasanaeth Morwrol Brenhinol y Merched. Ffotograffwyd dwy o Grwydrwyr y Rhath, Annie Whyte a May Hancox, yng ngwisg WRAF. O’i Chofnod Rhyfel, gwyddom fod Annie Whyte yn 24 oed ac yn byw yn Llundain pan ymrestrodd, ond roedd yn dod o Mill Road, Trelái. Roedd ei thad a’i brawd yn rhybedwyr yn Noc Sych y Sianel ac, yn ystod y rhyfel, gwasanaethodd ei brawd John ar fwrdd HMS Suffolk. Ym mis Mawrth 1918, argraffodd ‘The Roamer’ lythyr gan John yn dweud ei fod wedi cludo copïau o’r cylchgrawn i:
‘Canada, Africa South and West, Spain Portugal and Mauritius, Ceylon, Jamaica, Bermudas, Adaman Islands and Straits Settlements. Can any Roamer beat it?’ (Cyf.41, t.4).
Ddeufis yn ddiweddarach, ychwanegodd Siapan a Rwsia at ei restr (Cyf.43, t.4), ac yn rhifyn olaf ‘The Roamer’ ym mis Medi/Hydref 1919, roedd yn Rwsia unwaith eto:
‘We are about 3,000 miles inland on a river that runs into the Volga…. I have all the Roamers up to date. I see my sister Annie’s photo in one of them. I suppose most of the Roamers are home now. I don’t know when I shall arrive’ (Cyf.57, t.6).
Yn yr un modd â llawer o ferched y rhyfel, cyfyngedig oedd gorwelion Annie. Ymunodd â WAAC i ddechrau, a throsglwyddodd i WRAF ym mis Ebrill 1918. Gweithiodd yn bennaf fel morwyn yn Ysgol Arfogaeth y Corfflu Hedfan Brenhinol yn Uxbridge, ac fe’i dyrchafwyd yn ddiweddarach i fod yn brif forwyn. Byddai profiad Annie wedi bod yn debyg i lawer o ferched eraill, gyda chyfleoedd gwaith yn gyfyngedig i waith clercaidd a gwaith tŷ. Fodd bynnag, yn araf deg, cynyddodd y cyfleoedd i ferched, gan gynnwys swyddi technegol, er mwyn rhyddhau mwy o ddynion i ryfela. Ym Mhrydain y gwasanaethodd Annie, oherwydd ni theithiodd WRAF dramor tan fis Mawrth 1919. Diddymwyd WRAF yn ail hanner 1919.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg