Merched y Rhath a’r Rhyfel: Rhan 3

Roedd Capel Methodistaidd Wesleaidd Roath Road ar y gornel rhwng Heol y Plwca a Heol Casnewydd. Roedd yn adeilad mawr a adeiladwyd tua 1860, gyda lle i 1000 o bobl. Sefydlwyd Cylchgrawn Roath Road yn wreiddiol fel cylchgrawn Ysgol Sul Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road (DX320/3/2/i-iii). O fis Tachwedd 1914 fe’i cyhoeddwyd yn fisol o dan yr enw ‘Roath Road Roamer’ (RRR) i gynnig newyddion ar y rhyfel ac, yn benodol, ffawd y milwyr a oedd yn gysylltiedig ag Eglwys Wesleaidd Roath Road, yr Ysgol a’r Cynulliad a oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog (DAWES6). Fe’i dosbarthwyd ledled yr ardal, ac fe’i hanfonwyd dramor i roi newyddion o Gymru i filwyr, teuluoedd a ffrindiau ynghyd â gwybodaeth am eu cyfoedion yn y lluoedd. Yn benodol, roedd yn cynnwys ffotograffau a llythyrau gan filwyr a oedd yn gwasanaethu dramor.

O’r cychwyn cyntaf, y bwriad oedd i’r cylchgrawn sôn am gyfraniad merched y plwyf ac, yn benodol, y rheini ‘mewn iwnifform’. Yn eu crynswth, soniodd y cylchgronau am 19 o ferched o ardal y Rhath. Roedd llawer yn chwiorydd i filwyr, morwyr a pheilotiaid a oedd ar faes y gad. Ceir ffotograffau o 17 ohonynt yn y cylchgronau, a sawl llythyr. Cyfeiriwyd atynt yn y cylchgrawn fel ‘ein Merched Crwydrol’ a bydd y darluniau dros yr wythnosau nesaf yn cynnig cip ar sut y symudodd merched i mewn i rolau a swyddogaethau a arferai gael eu dominyddu gan ddynion yn sgîl y rhyfel.

Ar ddechrau’r rhyfel, y llwybr amlycaf i ferched a oedd am gyfrannu at yr ymdrech ryfel oedd gwirfoddoli gydag elusennau lleol a chyrff cenedlaethol fel y Groes Goch. Dyma wnaeth saith o’r merched y sonnir amdanynt yn y cylchgrawn. Fodd bynnag, ar ddiwedd y Rhyfel, oherwydd prinder milwyr yn dilyn consgripsiwn 1916, agorwyd drysau i ferched mewn sawl maes gwaith newydd. Erbyn 1918 roedd y Merched Crwydrol i’w canfod yng Nghorfflu Atodol Byddin y Merched, y Llu Awyr Brenhinol, Byddin y Tir a gwasanaethau lleol, gan gynnwys y rheilffyrdd a’r post. At hynny, o’u llythyrau, gwyddom fod llawer ohonynt wedi gwasanaethu dramor.

Byddin y Tir – Dorothy Brixton a Nellie Warner

Gwelwyd lluniau o ddwy o Grwydrwyr y Rhath, Nellie Warner a Dorothy Brixton, yng ngwisgoedd unigryw Byddin Tir y Merched.

Dorothy Brixton

Roedd y teulu Brixton yn deulu lleol o Treharris Street, y Rhath.  Roedd Dorothy’n helpu gyda’r Ysgol Sul yn Eglwys Roath Road ac roedd ganddi dri brawd a fu’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Cafodd James Brixton Fedal Filwrol ym 1917 am ei ddewrder tra’n gwasanaethu ar faes y gad ym mis Medi 1916. Cadarnhawyd yn ddiweddarach bod hyn am iddo gludo swyddog wedi’i anafu i ddiogelwch dan warchae trwm (Cyf.17, t.3 a Cyf.43, t.3-4). Rhoddwyd y wobr iddo mewn cyflwyniad cyhoeddus yng Nghaerdydd ar 26 Tachwedd 1917. Dyfarnwyd y Fedal Filwrol i’w brawd arall, Alfred, yn ddiweddarach y flwyddyn honno (Cyf.38, t.8 a Cyf.39, t.2). Does fawr o syndod, o gofio bod ei brodyr yn y lluoedd arfog, i Dorothy achub ar y cyfle i ymrestru â Byddin y Tir.

Roedd Byddin y Tir, a ffurfiwyd ym mis Mawrth 1917, yn ymateb uniongyrchol i’r angen am fwyd. Anfonwyd gweithwyr ychwanegol i ffermydd ledled Prydain. Gwirfoddolodd dros 20,000 o ferched am o leiaf 6 mis. Aseiniwyd y gwirfoddolwyr i un o dair adran – amaethyddiaeth, torri coed a phorthiant. Mae’n debygol y bu Nellie a Dorothy yn byw gartref ac yn gweithio yn yr adran amaethyddol. Os felly, byddent wedi cael blas ar holl dasgau’r fferm, o odro a gofalu am yr anifeiliaid i blannu a chynaeafu cnydau. Tybiwyd bod nyrsio yn gyfraniad naturiol i’r merched ei wneud at yr ymdrech ryfel, ond roedd gweld Merched y Tir yn eu llodrau, eu tiwnigau hir a’u hetiau ffelt yn bur anarferol.

Nellie Warner

Nid oes llawer o wybodaeth yn ‘The Roamer’ am Nellie Warner.  Fel llawer o ferched Caerdydd, mae’n debyg y byddai Dorothy a Nellie wedi bod yn gweithio bob dydd mewn ffermydd yng nghyffiniau’r ddinas. Nid oedd Byddin y Tir yn waith hawdd. Er bod y wisg yn uchel ei bri, roedd yn rhaid gweithio oriau hir a chyflawni gwaith caled am 18s yr wythnos.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s