Yr Awstraliaid o Gaerdydd

Mae diwrnod ANZAC ar 25 Ebrill yn cofio aberth y milwyr o Awstralia a Seland Newydd a laddwyd mewn ymgyrchoedd milwrol. Fe’i nodwyd gyntaf ar 25 Ebrill 1916, flwyddyn yn union ar ôl i filwyr o Awstralia a Seland Newydd lanio ar benrhyn Gallipoli fel rhan o ymgyrch y Cynghreiriaid i agor y Dardanelles i’w llyngesau. Yn ystod y cyfnod hwn, brwydrodd y milwyr o Awstralia a Seland Newydd yn ddewr. Anafwyd 26,000 o Awstraliaid, gydag 8,000 yn cael eu lladd ar faes y gad neu’n marw o anafiadau neu glefydau. Trodd Gallipoli’n symbol o ddewrder ac arwriaeth milwyr ANZAC. Fodd bynnag, roedd hefyd yn atgof erchyll o’r holl ddynion a menywod a gafodd eu lladd a’u hanafu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymladdodd llawer o ddynion o Gymru gyda’r Llynges Frenhinol a Byddin Prydain yn ystod yr ymgyrch 8 mis yn Gallipoli. Cofnodwyd arwriaeth y rheini a laniodd ym Mhenrhyn Helles ym mis Ebrill 1915 ac ym Mae Sulva ym mis Awst o’r un flwyddyn yn y wasg ar y pryd, ac mae eu dewrder wedi’i nodi’n glir mewn adroddiadau dilynol ar ymgyrch Gallipoli. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod cymaint am y Cymry a ymladdodd ac a fu farw gyda Byddin Awstralia yn Gallipoli ac, yn ddiweddarach, Ffrainc. Mae cofnodion Archifau Morgannwg yn cynnig cipolwg ar hanesion gwŷr ifanc o Gaerdydd a wirfoddolodd i wasanaethu ym Myddin Awstralia ar ôl ymfudo yno cyn y rhyfel. Roedd ‘The Roath Road Roamer’, a gyhoeddwyd o 1914 i 1919 gan Eglwys Wesleaidd Ffordd y Rhath yn olrhain, drwy lythyrau a ffotograffau, wasanaeth milwrol 460 o ddynion a 19 o fenywod o Gaerdydd. Fe’i cyhoeddwyd yn fisol, ac fe’i dosbarthwyd yn lleol a thramor. Roedd ‘The Roamer’ yn nodi ac yn dilyn ffawd nifer o ddynion ifanc o Gaerdydd a ymunodd â Byddin Awstralia.  Yn eu mysg roedd Wilfred Shute, William Lydiard, Charles Richards a John Albert Guy o Gaerdydd a fu’n ymladd yn Ffrainc. Hefyd, mae ‘The Roamer’ yn adrodd hanes dau ŵr ifanc, William Poyner a Fred Salmoni, a ymladdodd ac a fu farw gyda Byddin Awstralia yn Gallipoli.

Roedd Fred Salmoni yn fab i William a Mary Salmoni o Elm Street, Caerdydd. Er eu bod o Wells yn wreiddiol, roedd y teulu wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers cryn amser.  Roedd William Salmoni yn beintiwr ac addurnwr hunangyflogedig ond roedd ei ddau fab yn gweithio mewn pwll glo lleol – yr hynaf fel clerc a Fred fel “cynorthwyydd y ffitiwr”. Ganed William Poyner yn Kidderminster a bu’n byw yno am y rhan fwyaf o’i oes. Er bod y rhan fwyaf o’i deulu’n gweithio fel gwehyddion yn y diwydiant carpedi, symudodd William i Gaerdydd ym 1911 ac fe’i cyflogwyd, fel porthor fwy na thebyg, yng ngorsaf reilffordd Caerdydd. Tra yng Nghaerdydd bu’n mynychu Eglwys Ffordd y Rhath a chyfeiriodd ‘The Roamer’ ato fel ‘un ohonom ni’. O ddarllen ‘The Roamer’, gwyddwn iddo dderbyn copïau o’r cylchgrawn pan oedd gyda Byddin Awstralia yn yr Aifft. Ym mis Mawrth 1915, roedd ‘The Roamer’ yn cynnwys ffotograff o William yn erbyn map o Awstralia, gyda’r dyfyniad:

‘Private William Poyner emigrated to Australia from Mr H G Howell’s class two or three year ago. It is a great pleasure to us to know, that he is now in Egypt on his way to the Front to fight for the old Country, with the 1st Australian Division’.  Roath Road Roamer, Cyf.5, t.8.

William Poyner

Ymfudodd William Poyner i Orllewin Awstralia ym 1912 ac yn yr un flwyddyn hwyliodd Fred Salmoni i Brisbane yn Queensland. Fel llawer o ddynion ifanc yr oes, mae’n siŵr iddynt gael eu denu gan y cyfleoedd a’r anturiaethau a gynigiwyd gan wlad a oedd yn tyfu’n gyflym ac, yn benodol, y cyfle am gyflogaeth mewn mwyngloddiau neu ar ffermydd yng ngorllewin a gogledd Awstralia. Fodd bynnag, o fewn dwy flynedd o’u cyrhaeddiad cyhoeddwyd rhyfel ac, er nad oedd gorfodaeth filwrol (neu gonsgripsiwn) wedi’i chyflwyno yn Awstralia, gwirfoddolodd rhyw 400,000 o Awstraliaid ifanc ar gyfer y lluoedd arfog – tua thraean o’r boblogaeth rhwng 18 a 40 oed. Roedd Fred Salmoni a William Poyner ymysg y rheini a ruthrodd i ymrestru pan gyhoeddwyd rhyfel. Ym mis Awst 1914, roedd y ddau yn sengl ac yn 21 oed. Roedd William yn gweithio ar y rheilffyrdd ac yn byw ym Midland, cyffordd reilffordd allweddol ar gyrion Perth. Roedd Fred yn llafurwr ac yn gweithio yn Brisbane. Cymaint oedd y prysurdeb i ymuno â Byddin Awstralia bu’n bosibl mynnu safonau llym ac, fel dynion ifanc ffit ac iach, byddai’r ddau wedi gweddu i’r dim. Yn benodol, byddai profiad milwrol blaenorol William gyda 7fed Bataliwn Caerwrangon wedi bod o fantais hefyd. Ymrestrodd Fred yn Brisbane gyda 15fed Bataliwn 4ydd Brigâd Troedfilwyr Awstralia. Ymrestrodd William Poyner yn Blackboy Hill, gwersyll hyfforddi wrth odre’r Darling Range y tu allan i Perth, a sefydlwyd fel safle milwrol 11eg Bataliwn 3ydd Brigâd Troedfilwyr Awstralia.  Yn dilyn hyfforddiant sylfaenol, gadawsant Fremantle ar fwrdd llong i Alexandria ar 2 Tachwedd 1915. Roedd y milwyr mewn hwyliau da ac wedi llwyddo i smyglo 4 cangarŵ a chocatŵ ar y llong fel mascotiaid ar gyfer y daith i Alexandria. Ar ôl 5 wythnos ar y môr, gan gynnwys sgarmes gydag Emden, llong ryfel Almaenaidd, a ddrylliodd ar ôl cael ei bomio gan un o’u gosgorddluoedd, glaniasant yn yr Aifft a sefydlu gwersyll ger Cairo. Mae’r cofnod swyddogol o’u cyfnod yn yr Aifft yn cynnwys ffotograff o’r 11eg Bataliwn – a oedd yn cynnwys 1000 o filwyr – o flaen pyramid. Fodd bynnag, er iddynt baratoi’n ddyfal yng ngwres llethol yr anialwch gyda’r dydd, mae’r straeon am anturiaethau’r Awstraliaid gyda’r nos yn Cairo yn enwog, ac yn cynnwys adroddiadau o banig ymysg y brodorion pan welsant y cangarŵod am y tro cyntaf.

Disgwylid mai Lloegr fyddai pen y daith nesaf, gyda’r cyfle i’r rheini a aned ym Mhrydain (bron i draean o’r 11eg Bataliwn) weld eu ffrindiau a’u teuluoedd. Felly byddai Fred a William wedi cael eu synnu o ddarganfod eu bod yn gadael yr Aifft am Lemnos, un o ynysoedd Gwlad Groeg, i baratoi i ymosod ar y Dardanelles. Roedd yr ymgais i ddefnyddio gynau llyngesau Prydain a Ffrainc i lethu amddiffynfa Twrci wedi methu, a phenderfynwyd glanio mewn dau fan ar y penrhyn. Roedd Fred a William ymysg y cyntaf i lanio yng Nghildraeth ANZAC ar 25 Ebrill. Er gwaethaf pob disgwyl, gwnaethant gipio’r blaenlaniad a threiddio rywfaint i mewn i’r tir cyn cael eu hatal gan y Tyrciaid. Fodd bynnag, gwnaed cynnydd ar draul bywyd. Bu farw Fred Salmoni ar ail ddiwrnod y glaniadau ar 26 Ebrill yn y man a elwir heddiw’n “Gwm Shrapnel”.  Nodwyd bod William Poyner wedi’i ladd ar faes y gad ar 2 Mai. Ni chafodd ei gorff ei gludo o’r gyflafan, ond mae ei farwolaeth erbyn hyn wedi’i chofnodi ym Mynwent Ryfel y Gymanwlad yn Lone Pine. Cyflëwyd ffyrnigrwydd yr ymladd a nifer helaeth y rheini a gafodd eu lladd a’u hanafu gan y cyfrifiad o Fataliwn William Poyner ar 5 Mai tra eu bod dan warchae eithafol o hyd.  Allan o’r 1000 o ddynion a laniodd ar 25 Ebrill, roedd 435 wedi’u lladd, wedi’u hanafu neu ar goll.

Nododd ‘The Roamer’:

Poyner and Salmoni

‘Two of our brave fellows have fallen. By a strange coincidence both left Cardiff, three or four years ago for Australia, both joined Australian contingents when war broke out and hastened back at the call of the Motherland. Both were sent to the Dardanelles and both have fallen on the field of battle. Private Will Poyner of Mr H G Howell’s class and Lance Corporal Fred S Salmoni an old member of the 14th Cardiff Company of the Boys’ Brigade. May God comfort those who mourn their loss today. The last time we heard from our old friend Will Poyner was on the 2nd June when he asked us to forward the Roamer containing his photo to his mother who lives in Kidderminster. She had it the next day. He wrote how pleased he was with the photo that he was ‘going on very well and in the best of health, so that’s everything’. And today he is in the presence of the King’.  Roath Road Roamer, Cyf.10, t.8.

Mae’n debyg i’r llythyr a ddaeth i law ‘The Roamer’ ar 2 Mehefin gael ei ysgrifennu tra bod William Poyner ar ei ffordd i Gallipoli. Roedd ei eitemau personol, a anfonwyd at ei fam yn Kidderminster, yn cynnwys cardiau, blwch matsis, hances boced a charreg. Fodd bynnag, er iddo adael flynyddoedd ynghynt, roedd wedi llwyddo i gadw mewn cysylltiad â’i ffrindiau yng Nghaerdydd. Yn ei ewyllys, o’r swm o £40 a ofynnodd i’w fam ei rannu, rhoddwyd £30 i Mabel Major o Broadway, y Rhath. Ni nododd ‘The Roamer’ unrhyw gliwiau o ran ei gysylltiadau â’r teulu Major. Mae’n ddigon posib fod William wedi lletya gyda’r teulu tra ei fod yn gweithio yng Nghaerdydd, neu gallai fod wedi cwrdd â Mabel drwy Eglwys Ffordd y Rhath. Os gall unrhyw un helpu i ychwanegu at y stori hon, byddai’n wych clywed gennych.

Fodd bynnag, cyflwynodd ‘The Roamer’ ragor o fanylion am yr ymladd yn Gallipoli drwy lythyrau gan drigolion Caerdydd a ymladdodd gyda’r Llynges Frenhinol a chatrodau Prydain yn ystod yr ymgyrch. Roedd profiad Arthur James, dociwr o Gaerdydd a ymladdodd gyda Bataliwn Hawke y Frigâd Lyngesol Frenhinol 1af, yn nodweddiadol:

‘I have had a terrible time. All my chums killed and wounded …. Nearly three months of fighting has knocked me up’.  Roath Road Roamer, Cyf.10, t.6.

Yn yr un modd, ysgrifennodd Archie McKinnon o’r Peirianwyr Brenhinol at ‘The Roamer’ am yr amodau yn Gallipoli:

‘…when our lads are relieved from the trenches they only have dugouts to rest in. No billets of any sort are available and the whole of the land we occupy is subjected to shell fire’.  Roath Road Roamer, Cyf.12, t.6.

Ysgrifennodd John Hunt o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin:

‘Collecting the wounded in a rough country like this is not exactly a picnic. All our transport is drawn by mules, they stand the hot climate better than horses. Very little Ambulance transport is done owing to the hills and that there are no roads. This means a lot of stretcher work for bearers’.  Roath Road Roamer, Cyf.14, t.5.

Er gwaetha ffyrnigrwydd yr ymladd, roedd cryn barch yn bodoli at y Tyrciaid – am eu sgiliau ymladd a’u dynoliaeth. Ysgrifennodd Will Dance o 2il Ambiwlans Maes Cymru, CMBF:

‘We have been under fire about 19 days now….The Turks do not wilfully fire on the Red Cross and I can honestly tell you that… they are out and out gentlemen… We are expecting the War in the Dardanelles to finish anytime now they are whacked to the world, so it is only a matter of time’.  Roath Road Roamer, Cyf.12, t.6.

Afraid oedd optimistiaeth Will Dance, canys ar ddiwedd 1915 ymgiliodd y cynghreiriaid. Cefnwyd ar y cynlluniau i agor y Dardanelles i lyngesau’r Cynghreiriaid, ac ystyriwyd yr ymgyrch, er gwaethaf arwriaeth y milwyr, yn fethiant drudfawr. Mae’n ddigon posibl y dylwn roi’r gair olaf i un o’r Awstraliaid di-ri a gyrhaeddodd yng Nghaerdydd i gael triniaeth i’w hanafiadau yn 3edd Ysbyty’r Gorllewin, Gerddi Howard, Caerdydd.  Roedd llawer, gan gynnwys Harry Sketcher-Baker, wedi ymladd yn Gallipoli ym 1915. Mewn llyfr llofnodion a gadwyd gan Emily Connell, Prif Weinyddes Nyrsio yn yr Ysbyty (a gedwir yn Archifau Morgannwg), ysgrifennodd gerdd a fyddai wedi bod yn adnabyddus iawn i’r milwyr, ac yn arbennig yr Awstraliaid a aeth i ryfel am y tro cyntaf yn Gallipoli ym 1915:

DX744-1-18

‘The lad stood on the troop ship And gazed across the sea And wondered what his home would be Ruled under Germany. Now everything went lovely While out upon the sea Till we were brought to anchor Out off Gallipoli’. Llyfr llofnodion Nyrs Emily Connell, t.24

Parhaodd ‘The Roath Road Roamer’ i gofnodi profiadau llawer o Awstraliaid eraill o’r Rhath yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a ymladdodd yn Ffrainc gyda Byddin Awstralia. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am brofiadau gwŷr a merched y Rhath, Caerdydd, a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, mae gan Archifau Morgannwg gopïau o’r 57 o rifynnau o ‘The Roath Road Roamer’ a gyhoeddwyd rhwng mis Tachwedd 1914 a mis Hydref 1919 (DAWES6).

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s