Nid oedd prinder bwyd yn anghyfarwydd i Ysgol Fechgyn Blaenclydach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Wedi’r cyfan, roedden nhw wedi cael gwersi ar sut i ategu deiet y teulu drwy dyfu eu tatws eu hunain (ER3/2, t.117), a sut i fwyta llai o fwyd prin fel bara, siwgr a chig (ER3/2, t.120).
Roedd yr ysgol hyd yn oed wedi defnyddio Pamffledi Cynhyrchu Bwyd ar storio tatws i ymarfer darllen! (ER3/2, t.123)
Roedd y bechgyn hefyd yn ymwybodol iawn o sut roedd y prinder yn effeithio ar ysbyty lleol y Groes Goch, ac wedi casglu bwyd i ategu deiet y milwyr a oedd yn gleifion yno. Ar 22 Mawrth 1917 cofnododd y Pennaeth, John Lewis:
A collection of fruit and eggs was made by the scholars for the wounded soldiers at the local Red Cross Hospital. The collection consisted of 59 eggs, 143 oranges, 26 apples, 31 bananas, 1lb rice, nuts, chocolate and 2/7 in money. Ysgol Fechgyn Blaenclydach, llyf log (ER3/2 t.118)
Felly nid oedd taflenni a phamffledi i fynd â nhw adref at y rhieni yn brolio rhinweddau tatws a’r angen am economi fwyd, yn unrhyw beth newydd. Ond mae’n rhaid bod rhai’n teimlo braidd yn anghrediniol wrth ddarllen y tair taflen a roddwyd i’r bechgyn ar 21 Chwefror 1918:
Leaflets from the Food Economy Department distributed for school children throughout the school area. These leaflets were (1) Thirty Four Ways of cooking potatoes (2) Delicious Soups (3) All About Stews. Ysgol Fechgyn Blaenclydach, llyf log (ER3/2 t.128)
Wedi’u llunio gan Adran Economi Fwyd y Weinyddiaeth Bwyd, a sefydlwyd ym 1916, ystyriwyd y taflenni’n ganllaw ymarferol ar helpu rhieni i ymdopi â’r prinder bwyd cynyddol a ddeilliai o suddo llongau masnach y cynghreiriaid a’r prinder llafur tir. Mae copi o ‘Thirty Four Ways of Using Potatoes’ ar gael o hyd, a gellir ei weld ar-lein ar wefan Manchester Archive Plus www.manchesterarchiveplus.com (cyf: FE40). Debyg bod y cyngor ynddi, hyd yn oed yn ystod cyfnod o ryfel, wedi synnu rhai. Dechreua’r daflen wrth alw ar deuluoedd i wneud yn fawr o’r llwythi digynsail o datws:
This is the immediate duty of everyone – to learn how to make potato-foods to take the place of bread-foods and to use them now instead of bread and butter, toast, rolls and all cakes and puddings which require flour.
Gallai’r cyngor ar sut i baratoi tatws fod wedi bod yn ddigon annymunol i rai:
.. a potato should never be peeled before it is cooked. People who cut the peel from a potato before they cook it actually throw away 85 per cent of its flesh forming and vital elements.
Mae’n anodd hefyd i gredu byddai bechgyn Blaenclydach wedi eu ddarbwyllo gan y ddatganiad hyderus yma:
People who have once used potato bread, for instance, never wish to return to bread which is made solely from flour.
Roedd bechgyn Blaenclydach yn cael digon o ryseitiau difyr, o ‘Bwdin Tatws a Ffrwythau’’ ‘Pwdin Triog a Thatws’ a ‘Phwdin Cynulliad’, fel yr argymhellwyd yn y pamffled. Gallent hefyd fod wedi profi Bisgedi Tatws Siocled – o bosibl fel rhan o ddathliadau arferol Dydd Gŵyl Dewi’r ysgol yn ystod yr wythnos ar ôl i’r taflenni gyrraedd.
Chocolate Potato Biscuits
4oz potatoes (washed, cooked, peeled and sieved), 1oz flour, 4oz ground rice, half a teaspoon of cocoa, one and a half oz. fat, half an egg (dried can be used), a little vanilla essence, 1 tablespoon of treacle, half a teaspoon of baking powder.
Mix the flour and ground rice and rub in the fat. Add the potatoes and cocoa and stir the dry ingredients together; then put in the half egg and treacle and flavouring and beat thoroughly. Finally add the baking powder and mix well. Turn the mixture on to a floured board, roll out (half inch) and cut into rounds and bake in a hot oven for 15 to 20 minutes.
Nid yw cofnodlyfr Ysgol Fechgyn Blaenclydach yn nodi’r ymateb i’r ryseitiau gan y bechgyn na’u rhieni. Ynghyd â mentrau eraill fel y ‘Llyfr Coginio i Ennill y Rhyfel’, roedd y tri phamffled yn un rhan o ymgyrch barhaus i fynd i’r afael â phrinder bwyd. Ond os ydych am fesur eu hymateb, byddem yn fwy na pharod i roi manylion am unrhyw un o’r ryseitiau sydd uchod yn gyfnewid am adolygiad o’r bwyd! Yn yr un modd, os oes gennych gopi o ‘All About Soups’ (MF 38) a ‘Delicious Stews’ (MF 39) rhowch wybod i ni, fel y gallwn ychwanegu’r manylion at ein casgliad o fwyd cyfnod y rhyfel.
Mae cofnodlyfr Ysgol Fechgyn Blaenclydach yn un o gyfres o gofnodlyfrau ysgolion o ardal y Rhondda a gedwir yn Archifau Morgannwg. Os hoffech ragor o wybodaeth am fywyd yn yr ysgol ac yn y Rhondda ym 1914-18 gallwch ddarllen crynodebau o’r cofnodlyfrau ar-lein neu ddod i weld y rhai gwreiddiol yn Archifau Morgannwg.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg