Roedd Clara Deacon yn Fetron Cynorthwyol yn Ysbyty’r Frenhines Mari, Roehampton, a arloesodd ym maes trin ac adsefydlu milwyr a morwyr a gollodd freichiau neu goesau yn ystod y Rhyfel Mawr. Sefydlwyd Ysbyty Tywysog Cymru i ddarparu’r gwasanaeth hwn yng Nghymru.
Dechreuodd Clara ar ei dyletswyddau yn Fetron yng Nghaerdydd ar 8 Ionawr 1917. Talwyd £70 iddi y flwyddyn, gan gynnwys golch a llety, ac roedd yn rhaid iddi roi rhybudd o 3 mis petai’n gadael y swydd. Erbyn 9 Mai 1917, cytunwyd ei phenodi’n Benswyddog (swydd filwrol). Yn Rhagfyr 1917 cododd ei chyflog i £104, ac yn Rhagfyr 1918 cododd i £130.
Does dim amheuaeth fod y Pwyllgor yn meddwl ei bod yn hynod o werthfawr, i’r graddau y cytunwyd i greu fersiwn unigryw o fathodyn yr ysbyty er anrhydedd iddi yn Nhachwedd 1918. Fel arfer, cyflwynwyd bathodyn yr ysbyty mewn metel bas i staff a roddodd wasanaeth da, ond cytunwyd y byddai’r bathodyn hwn yn un aur ac enamel gyda diemwntau.
Argymhellwyd hefyd gydnabod ei hymroddiad, ei gallu a’i hegni mewn ffordd fwy ffurfiol. Ym Mawrth 1920, daeth Clara Deacon yn Aelod o Adran Sifil Urdd Ragoraf yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE).
Tynnwyd y ffotograff hwn o staff yr ysbyty yn y 1920au. Mae’n ymddangos ei fod y tu allan i 1 a 3 Richmond Crescent. Mae’n debyg bod y Penswyddog Deacon, yn y canol, yn gwisgo ei MBE.
Cafodd ei dal o hyd mewn dyledus barch a chododd ei chyflog i £136 yn Rhagfyr 1919. Ym 1923, cododd eto i £150 gyda thâl cydnabyddiaeth o £30. Ym 1929, cododd statws Clara i fod yn ‘Benswyddog a Metron’, a wellodd ei chyflog hyd yn oed ymhellach i £220, gyda chynnydd o £10 bob blwyddyn i £250, ynghyd â lwfans gwisg o £15 y flwyddyn.
Yn Awst 1933, penderfynodd Clara ymddeol. Ni lwyddodd unrhyw geisiadau i’w chael i dynnu’n ôl ei chais i ymddiswyddo, a dechreuodd ar ei hymddeoliad ym 1934. Noda cofnodion y Pwyllgor Gweithredol ar 8 Ionawr 1934 yr anrheg ymddeol a gyflwynwyd i’r Penswyddog a’r Metron Clara Deacon.
Mae cofnodion Ysbyty Tywysog Cymru, Caerdydd, ar gael yn Archifau Morgannwg.
Roy Dowell, Gwirfoddolydd yn Archifau Morgannwg