Mae dyddiadur y Capten Mervyn Crawshay yn gorffen yn ddisymwth ar ganol brawddeg ar 29 Hydref 1914. Fe’i lladdwyd wrth ymladd y gelyn rai diwrnodau’n ddiweddarach ar 31 Hydref 1914.
Mae’r Capten Mervyn Crawshay wedi ei goffáu ar Borth Menin. Darganfuwyd ei weddillion ym 1970, ynghyd â gweddillion milwr arall, mewn twll a grëwyd gan ffrwydryn mewn safle anghysbell ger Messines. Nid oedd yn bosibl adnabod gweddillion y ddau filwr am flynyddoedd lawer. Ailgladdwyd y gweddillion ym Mynwent Cement House, Langemark, ym mis Awst 1970.
Cafodd corff Mervyn Crawshay ei adnabod 22 mlynedd yn ddiweddarach, ym 1992, wrth i aelod o Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad wneud gwaith ymchwil i gael gwybod pwy oedd y milwr anhysbys. Codwyd carreg fedd newydd iddo ym 1993.
Gallwch ddarllen y cofnod am y Capten Mervyn Crawshay ar wefan Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yma:
http://www.cwgc.org/find-war-dead/casualty/4009555/CRAWSHAY,%20MERVYN
Gallwch weld dyddiadur y Capten Mervyn Crawshay o gyfnod y Rhyfel Byd cyntaf yn Archifau Morgannwg (www.archifaumorgannwg.gov.uk). Mae rhagor o ddogfennau am ei wasanaeth milwrol ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin, Llundain (www.nam.ac.uk) ac yn Amgueddfa Gwarchodlu’r Dragwniaid Brenhinol yn Efrog (www.rdgmuseum.org.uk).