Dyddiadur Rhyfel Mervyn Crawshay

27 Hydref 1914

Mae Sgwadron A yn y ffosydd cynorthwyol. Rwy’n mynd o amgylch y safleoedd cyn y wawr, yn dod o hyd i Spurrier, yn gweld Blackburn ac yn dychwelyd wrth i’r tanio ddechrau, er nad oes fawr ohono.

Yn y ffosydd yn y glaw am ran o’r amser, ac yn cael ein rhyddhau gan y Connaughts gyda’r nos. Y dryswch arferol.

28 Hydref 1914

Noson gyffyrddus iawn a chyfle i dynnu fy esgidiau, yn y tŷ lle gwelais y signalau. Ar ôl brecwast cawsom gyfle i fynd yn ôl i weld ein ceffylau, eu trin, eu golchi a’u marchogaeth.Yn carlamu o amgylch maes wedi’i amgylchynu gan goed, yn cadw llygad barcud am awyrennau. Peth felly yw ein bywyd ar hyn o bryd.

Yn symud fy Sgwadron i fferm fach gerllaw gan fod y lle hwn yn orlawn ac yn fôr o fwd.

Yna yn ôl i’n hen safle ger y felin wynt, gan weld tanio at awyrennau amrywiol.

Nid yw’r newyddion yn galonogol iawn heddiw, mae ymladd ffyrnig iawn ar ein chwith ac rydym yn dal ein tir, yn dychwelyd yn dawel i Messines ac yn gyfrifol am y llinell allanol, a ddaliwyd gan sgwadron C, gan ryddhau’r Connaughts.

Noson oer iawn gyda llwydrew.

Rwyf ar ochr chwith y llinell gyda mintai 11.

Yn mynd allan i wynebu’r ymosodiad ddwywaith, ond dim ond ambell i ergyd.

Nid yw ein gorchmynion wedi newid, sef i ddal ein tir tan y diwedd, felly mae’n syml.

29 Hydref 1914

Mae brwydr fawr yn digwydd i’n chwith. Dim ond y canonau y gellir eu clywed i ddechrau, ond erbyn 12 gellir clywed reifflau a gynnau peiriant. Ymddengys fod y frwydr yn dod tuag atom. Rwy’n gorwedd yn y ffos oer yn darllen y papurau, yn meddwl am ddyddiau gwell. Mae dyn yn wynebu ei dranc bob awr o’r dydd a’r nos. Daw sôn efallai na fyddwn yn cael ein rhyddhau heno.

Diwrnod gaeafol ydyw, ac mae fy nhraed yn oer.

Mae gwahaniaeth mawr rhwng disgwyliadau marchfilwr o ryfel â’r sefyllfa wirioneddol.

Rwy’n cael fy rhyddhau gan Reifflwyr Wild gyda’r nos ar ôl llawer o ffwdan, roedd y milwyr yn cynnwys Pathaniaid a Siciaid.

Roedd mynd i mewn ac allan o’r ffosydd yn dipyn o ffars yn y glaw a’r tywyllwch, gallai wedi bod yn wahanol, gyda pheswch Currans er enghraifft.

Mae’r Affridiaid yn mynd i hela Almaenwyr yn y goedwig.

Rwy’n cael llety cyfforddus i gysgu ynddo, a llythyr gan Vide, a newyddion da am Haigh

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s