Dyddiadur Rhyfel Mervyn Crawshay

13 Hydref 1914

Roeddem wrth ein bodd o orffen ein dyletswyddau fel Marchlu Adrannol.

Buom yn canlyn y frigâd ar ymdaith gyflym a braidd yn llafurus, ond roedd ein cyflenwadau y tu ôl i reng ymladd y Ffrancod. Aethom yn weddol agos ati, gan gynnwys sieliau.

Cawsom champagne wrth ymyl y ffordd. Roedd brwydr yn mynd rhagddi, rydym yn farchlu wrth gefn ar yr ystlys, roedd Adran y milwyr traed yn ymfyddino wrth i ni gyrraedd.

Cipiwyd Mont Noir, gyda 1000 o Almaenwyr a 200 o’n milwyr ni wedi’u lladd neu eu hanafu.

Cawsom lety ar fferm ger Rochonville a chyfle i sychu ar ôl y glaw trwm y buom yn eistedd ynddo. Cysgodd Tiger a minnau y tu ôl i’r linell danio, gyda’r gelyn gerllaw.

Cawsom welyau, a bu merch y tŷ yn esbonio’r sefyllfa leol i ni. Er lladdwyd ac anafwyd rhai o filwyr y Frigâd, roedd hi’n ddiwrnod gwell na ddoe ar y cyfan.

14 Hydref 1914

Arllwys y glaw, ymlaen â ni. Newyddion drwg yn y papurau, ymddengys fod gwarchae mawr ar fin digwydd.

Clywais fod 6000 o fôr-filwyr yn Antwerp, a 2000 yn yr Iseldiroedd.

Aeth sgwadron A ymlaen i’r Frigâd.

Ein cyrch oedd cipio Dranouches o feddiant yr Wlaniaid. Drwy lwc aethant ar ffo wrth i ni ymosod ar y pentref o’r tu blaen.

Nid yw’r Ffleminiaid yma’n siarad fawr ddim Ffrangeg, mae hi’n wlad wahanol.

15 Hydref 1914

Codais yn gynnar ar ôl noson dda iawn mewn tŷ gwag. Diwrnod o orffwys a gafwyd yn y pendraw, er nad oeddem yn gwybod hynny i ddechrau.

Cyfarfûm â dau fôr-filwr a esboniodd y sefyllfa o ran y llynges. Roedd cadwyn o ffrwydron a llongau tanfor ar draws y Sianel.

Collwyd 2000 o fôr-filwyr yn Antwerp, bu’n rhaid mynd i’r Iseldiroedd.

Bydd gynnau peiriant newydd yr awyrennau yn mynd yn ôl i Plymouth. Mae’n debyg y bydd y rhyfel yn para drwy’r gaeaf, ond nid oes sicrwydd o hynny.

Yn ôl y broffwydoliaeth, dylai’r Kaiser farw heddiw.

16 Hydref 1914

Brigâd wrth gefn. Rydym yn gadael am 7.

Rwyf gydag esielon A, ni fydd ar flaen y gad yfory os byddwn yn brwydro.

Mynd i Leuve Eglise mewn niwl trwchus. Pacio ein trugareddau ac yn aros am newyddion mewn bwthyn bychan. Mae’r tŷ drws nesaf ar gau, dienyddiwyd y perchennog ac un o’i weithwyr gan yr Almaenwyr ddydd Sul diwethaf drwy eu saethu yn erbyn y wal.

Daeth newyddion fod dau gorfflu o fyddin yr Almaen yn dynesu o Bruges ac ar hyd yr arfordir. Rydym wedi symud ymlaen mor bell â sydd angen, neu’n bellach o bosibl.

17 Hydref 1914

Cychwyn am 6 ar flaen y gad, gyda gorchmynion i gipio glan yr afon y tro hwn, er mwyn cyrraedd coedwig fawr. Symudiad rhyfeddol yng nghanol y goedwig, yna’n eistedd i lawr gyda gynnau’n tanio ym mhob man.

Gorchmynnwyd symud y gynnau peiriant i flaen y gad, fi oedd yn bennaf gyfrifol gan fod Cousal yn sâl. Roedd hynny’n ddigrif i mi, er y saethwyd atom heb i ni gael saethu yn ôl.

Safle newydd mewn tas wair. Dinistriwyd un o’n gynnau, roedd yr 11eg mewn safle ofnadwy ger rheilffordd y tu ôl i wrych gyferbyn â’r milwyr traed yn y ffosydd, a fu’n ymladd yn y nos.

Lladdwyd Lumly, anafwyd amryw filwyr eraill. Roedd ein gynwyr yn brysur, lladdwyd ac anafwyd rhai ohonynt.

Gwelais un o’n hawyrennau’n gweithio’n dda, gyda goleuadau ac ati.

Tybiais ein bod yn wynebu amser caled yn erbyn yr Almaenwyr.

Yn ystod y nos cawsom ein hachub, Duw a ŵyr sut, wrth i lawer o filwyr traed gyrraedd, ac yn ôl â ni drwy’r tywyllwch, gydag ergydion olaf yn ein dilyn, i Drasoutre.

18 Hydref 1914

Aeth y Frigâd wrth gefn allan gyda’r wawr, gyda’r gynnau peiriant yn tanio o hyd.

Aethom i goedwig fawr ac eistedd yno drwy’r dydd. Prin iawn o ymladd a fu, ond roedd hi’n ddiwrnod ofnadwy gyda’r gynnau 60 pwys yn agos gerllaw.

Glaniodd ambell ffrwydryn, ond nid yn agos. Ymdaith lafurus ar ôl iddi dywyllu i fferm ger Romeraines. Cawsom champagne yno a guddiwyd o’r Almaenwyr.

19 Hydref 1914

Noson gyfforddus iawn ar fatras mewn llety newydd.

Gadawsom am 3 gyda gorchymyn i ymdeithio drwy’r nos i St Yves a chyrraedd gyda’r wawr a rhoi adroddiad i Brif Swyddog 4ydd Gwarchodlu’r Dragwniaid.

Llwyddais i ffeindio fy ffordd yno. Roedd ffermydd yn llosgi drwy’r rhan fwyaf o’r dydd, a ffrwydron yn glanio, ond ni ddaethant atom ni.

Cefais fraw wrth gyrraedd gan fod ymosodiad yn edrych yn debygol, ond nid felly y bu.

Nid yw’r sefyllfa’n edrych yn addawol iawn yn ôl y sôn, fel y tybiais.

Rwy’n disgwyl y byddwn yn palu ffosydd yma.

Roedd gynnau 5ed Gwarchodlu’r Dragwniaid gyda Holland yn meddiannu’r hen reng flaen, sy’n safle gwael na ellir ei ddal yn fy marn i.

Cysgais yn y dafarn, roedd ffrwydron yn glanio o’n cwmpas ac yn y goedwig, ond ni ddaethant atom ni. Euthum o amgylch y safleoedd gyda’r nos ar gefn beic.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s