6 Hydref 1914
Brysur yn siopa, ffitio ar ôl Néry, cael triniaeth ar fy nannedd.Te yn Café de la Paix, cinio mawr yn Maxims gyda swyddogion amrywiol, Entente Cordiale a choesau brogaod
7 Hydref 1914
Allan yn gynnar i siopa, yn barod i symud am 11.
Dim siw na miw o gar na neges gan Foster, dyn yr ASC. Clywed bod y Gatrawd yn symud, a ddim yn gwybod sut y byddwn yn ailymuno â hwy.
Cinio ganol dydd yn Abbé. Er mawr syndod, ymddangosodd ef am 2pm. Rhaid i ni fynd at yr heddlu i gael pàs ac yna o amgylch Paris i gael petrol.
Taith wyllt yn y car drwy Subies ac ati, ac yn cyrraedd Rocroy.
Roedd dyn caredig iawn yno o’r enw Dickie, bydd e’n ein hanfon ni ymlaen yfory.
Llety cyfforddus
8 Hydref 1914
Aeth y car y tu ôl i reng flaen y frwydr am filltiroedd, gan ddod ar draws sgarmes ac ymwthiad yn y rheng yn Lassigny, ac yna allan â ni eto.
Te yn Compiegne, roedd y gynwyr yn esgyn i drên. Croesi’r afon ac yn cwrdd â’r Frigâd ger Courmelle yn y pendraw.
Cawsant eu tynnu i mewn i ymwthiad yn rheng flaen y Ffrancod. Roeddent oriau’n hwyr ar eu hymdaith, ond ni fuont yn brwydro.
Euthum ymlaen yn y car gydag Osborne, roedd pawb wedi’u synnu o’m gweld i yn ôl mor fuan ac mor iach.
9 Hydref 1914
Llwydrew caled, mae dannedd pawb yn clecian. Ni wn sut y bydd hi yng Ngwlad Belg.
Cafwyd heulwen llachar wedyn, buom yn ymdeithio drwy’r dydd, gan orffwys am 1 awr yn Oube Villiers. Clywsom y gynnau’n bell i ffwrdd i gyfeiriad Arras. Rydym mewn rhan siriol o’r wlad nas effeithiwyd arni gan yr Almaenwyr.
Euthum o amgylch y pentref yn sefydlu rhagfinteioedd, trefnu llety ac ati.
Rwyf mewn hen adain iasol o’r tŷ, gosodais fy nghês ar y gwely.
10 Hydref 1914
Ymlaen â ni, bore oer a diwrnod braf. Ymdaith hir i lawr i ddyffryn tawel a diarffordd, a llety yn fferm gwraig marchfilwr.
Roedd tanio ffyrnig gerllaw, mae ein milwyr troed yn y cyffiniau. Gwelodd Patteson ei frawd.
Daeth y newyddion yn Cormelles fod Herbert Gilmour wedi’i ladd.
11 Hydref 1914
Fe’n galwyd am 4. Ymdaith oer ar ystlys dde’r fyddin, rydym yn gweithredu fel marchlu adrannol, er mawr anniddigrwydd i ni.
Fe’m hanfonwyd i Verguisinal i ddod o hyd i’r Ffrancod, ni ddeuthum o hyd iddynt, ond roedd llinell danio o’n blaen, ac ambell aelod o’r Peirianwyr Brenhinol yn palu ffosydd.
Bûm yn tindroi ar domen lo yn gwylio, am newid.
Ymddangosodd y milwyr traed yn ddiweddarach, ac ar ôl ymbalfalu yn y gwyll, deuthum o hyd i’r gatrawd.
Yn y pendraw rydym yn mynd i chateau mewn cae, sy’n llawn Ffrancod sy’n gorfod gadael yn y nos.
Collais fy ngwely a bu’n rhaid i mi gysgu yn yr ystafell ymolchi.
12 Hydref 1914
Bant â ni mewn niwl trwchus drwy Bethune, i le o’r enw Vieille Chapelle.
Mae’r Ffrancod wedi dal eu tir yno, mae’n amlwg bod y marchfilwyr a’r milwyr traed wedi cael amser gwael.
Euthum ar draws y ffrwd ddiadlam, fel petai, sef y bont a osodwyd fesul darn, gan gyrraedd y groesffordd yn fuan. Bron ar unwaith daethpwyd â Patteson yn ôl i mi yn gelain, roedd ei farwolaeth yn wers dactegol.
Buom yn ymladd ochr yn ochr â’r milwyr traed Ffrengig, sef y chasseurs à pied. Daeth ein milwyr traed ni i’r rheng flaen, a daliwyd gafael ar ddinas y meirwon drwy’r dydd. Cawsom ein bomio’n drwm yn ôl y disgwyl, a chyda’r nos gadawsom y pentref megis Pantomeim Drury Lane, gyda’r muriau’n cwympo a meindwr yr eglwys yn cwympo ar fedd Patteson druan.
Bu’n rhaid i ni adael nifer o filwyr clwyfedig.
Cyrraedd llety ger Bethune o’r diwedd.
Roedd fy rhaw palu ffosydd yn ddefnyddiol iawn i greu lle o dan foncyffion, mae’n debyg iddi ein hachub ni.