Dyddiadur Rhyfel Mervyn Crawshay

22-09-1914 compressed

Dydd Mawrth 22 Medi 1914

Glaw fel arfer, ond ambell ysbaid heulog. Euthum gyda Peckham i Fismes mewn cert i geisio cael gwin.

Cefais un botel gan hen weithiwr yn y pendraw. Cafwyd cig a bara ffres hefyd.  Roedd y lle’n llawn milwyr Ffrengig, cerbydau ac ati.

Gwelais swyddogion amrywiol ar y ffordd i’r rheng flaen i lenwi bylchau.

Roedd sôn bod yr Almaenwyr yn ildio tir, cipiwyd rhai ffosydd lle roeddent yn llewygu, mae’n debyg eu bod wedi symud ymlaen yn rhy gyflym.

Ymosodwyd ar ddwy gatrawd o orllewin Swydd Efrog a Dyfnaint dan faner wen, eu brwydr gyntaf, gan ddioddef colledion trwm. Daeth yr Almaenwyr ymlaen gyda’u reifflau i fyny, â’u gynnau peiriannol wedi’u cuddio. Cysgais yn y prynhawn.

23-09-1914 compressed

23 Medi 1914

Deffrais am 6.30 gan deimlo’n egnïol ac yn heini unwaith eto yn hytrach nag yn droetrwm a llygatgoch.

Heulwen llachar o’r diwedd a sŵn gynnau ymhellach i ffwrdd. Aeth Robbie a minnau ar ein ceffylau i Fismes. Wedi mwynhau gorffwys.

Mae clefyd enterig ar yr Almaenwyr. Byddwn yn cymryd rhagofalon yn erbyn hynny. Rwy’n ystyried cael fy mrechu, man y man gwneud.

Dros ginio daeth gorchymyn i fod yn barod i ymdeithio am 3am o bosibl.

Gwelais awyren yn ffrwydro gyda’r nos, a chlywais sut yr ymosodwyd ar gatrodau newydd Swydd Efrog a Dyfnaint dan faner wen.

Symudodd yr Almaenwyr ymlaen fesul rheng, gyda’u reifflau uwch eu pennau a chyda’u gynnau peiriannol wedi’u cuddio.

Daeth Broel â bwled ‘Dum Dum’ i mewn, cymerwyd 600 ohonynt o gar modur cadfridog Almaenaidd.

24-09-1914 compressed

24 Medi 1914

Dal yma yn eistedd yn yr heulwen ar ôl brecwast yn teimlo’n iach ac wedi dadflino am unwaith.

Mae rhuo’r gynnau yn parhau o hyd.

Dyrchafwyd Winnie i fod yn gyrnol, a dyna’r unig newyddion.

Rwy’n mwynhau bywyd tawel, cryn dipyn o drafod o ran p’un a fyddaf yn cael fy mrechu, penderfynais aros tan fod achosion o enterig yn digwydd.

25-09-1914 compressed

25 Medi 1914

Ein diwrnod allan. Reveille am 1.

Yn ffodus dychwelodd Tiger yn ddiogel gan arwain y ffordd, neu fel arall mae’n debyg y buaswn wedi mynd tuag at rengoedd yr Almaenwyr yn y tywyllwch.

Siwrnai droellog drwy Villiers-Moulins i Paissy, gan osgoi ffrwydron, er i ni fynd drwy ardal a oedd wedi’i chael hi’n wael liw dydd.

Cedwais mewn cysylltiad â’r Tyrcos a chuddiais y sgwadron cyfan mewn ogofau, gan gynnwys myfi fy hun.

Bombardio trwm iawn, ond roeddem yn ddiogel o drwch blewyn.

Daeth darn o shrapnel drwy’r ffenestr gan lanio ar ein bwrdd brecwast.

Paratowyd ein cinio gan yr ysgolfeistres, dynes ymroddedig iawn.

Roedd hwn yn bentref prydferth iawn ers talwm yn y cyfnod cyn y rhyfel.

Euthum allan yn y nos gan osgoi’r ffrwydron, cyrhaeddodd pawb yn ddiogel ac yn hwyr.

26-09-1914 compressed

26 Medi 1914

Roeddwn wedi meddwl y byddem yn cael gorffwys.

Nid felly y bu, daeth gorchymyn i fynd ar ein ceffylau ar ôl brecwast.

Wedyn yn tindroi drwy’r dydd gyda’m holl offer wedi’i bacio.

Roedd yr Almaenwyr wedi cynnal ymosodiad mawr ar Troyon yn y nos, ond ataliwyd yr ymosodiad.

Roedd y gynnau mawr yn tanio o hyd.

Cyrhaeddodd Boxer, gan gymryd rheolaeth ar y sgwadron.

27-09-1914 compressed

27 Medi 1914

Roeddwn wedi meddwl y byddem yn cael gorffwys, nid felly y bu.

I Soupir unwaith eto ar ôl brecwast, gan fynd heibio i ‘gornel y blwch glo’ yn ddiogel.

Mae’n debyg nad yw’r si bod yr Almaenwyr yn ymgilio yn wir.

Glaniodd ffrwydron gerllaw, ond dim ond un oedd yn agos i ni.

Gwelais Winston Churchill mewn car modur.

Bu’n rhaid i mi rhoi’r gorau i ysgrifennu pan laniodd ffrwydryn, a daeth gorchymyn i fynd i’r llety.

Wrth i ni symud i ffwrdd, daw ffrwydron ar unwaith wrth i’r gatrawd flaen fynd i’r tir agored.

Darganfuwyd dau o deleffonau’r gelyn yn Chavonne heddiw, ac mae mwy ohonynt yn ôl y dyn a ddaliwyd, sef ysbïwr o Alsás. Caiff yntau ei saethu.

Nid oes llety ar gael i ni yn St. Maud.

Mynd i fferm ar fryn ger rhai gynwyr, yn aros am fwyd.

Roedd y swyddogion yn cysgu yn y llofft, syrthiais o’r llawr cyntaf yn y tywyllwch, drwy lwc ymbalfalais ar hyd y wal, gan lanio ar bren yn hytrach na cherrig.

Cefais glais gwael ar fy nghlun yn unig, ond mae’n brifo cryn dipyn.

Cefais wely gan y gynwyr. Dyma ffordd wael i gael fy anafu, ond rwy’n ffodus nad wyf wedi cael anaf gwaeth.

28-09-1914 compressed

28 Medi 1914

Taith arall mewn ambiwlans, 7 milltir ar fy nghefn, ar ôl 13 mlynedd.

Taith boenus dros ffordd arw y tu ôl i’r gatrawd i Blangy unwaith eto.

Rwy’n cael fy ngadael yn yr ystafell fwyta ar elor, gan gael gwely yn y pendraw. Rwyf yn gwbl ddiymadferth.

Roeddem wedi disgwyl symud ymlaen ddoe, ond nid felly y bu.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s