Dyddiadur Rhyfel Mervyn Crawshay

1 Medi 1914

Roeddwn wedi gosod fy holl drugareddau allan, gan gynnwys fy nghôt law ac ati, ac roddem ar fin bwyta brecwast pan ddaeth sarsiant i ddweud bod un o batrolau’r 11eg Hwsariaid wedi gweld llu mawr o’r gelyn yn agos. Rhoddais orchymyn i’r dynion wisgo amdanynt, ac roeddem yn aros ger ein ceffylau yn aros am orchymyn gan Ansell i fynd ar gefn ein ceffylau. Roedd yn y pentref yn cael brecwast.

Yn syth wedyn dechreuodd cawod drom o ffrwydron a bwledi syrthio ar y gwersyll. Aethom oddi yno ar garlam gan golli dynion, ceffylau ac offer. Adfyddinwyd y sgwadron mewn pant gyda Sgwadron B. Roeddem yn disgwyl mynd ar gyrch, felly taflais fy holl offer diangen ymaith, heb ei weld eto.

Ymosodwyd ar ystlys y gelyn mewn niwl trwchus i fyny bryn serth, gyda’r holl gyfrwyau yn llithro yn ôl.

Daeth sgwadron B oddi ar eu ceffylau, tra bod sgwadron A wedi mynd tuag at fferm.

Yn sydyn, dim ond 80 llath i ffwrdd, gwelais linell danio drwy’r niwl.

Adfyddinwyd y tu ôl i das wair, gyda dau farchoglu. Ymosododd Sarsiant Largford ar eu ceffylau blaen, gan ladd 16 o farchfilwyr a nifer o filwyr traed.

Roeddwn am ymosod ddwywaith gyda’r marchoglu, nid oedd Ansell yn caniatáu i mi wneud hynny, yna galwodd arnaf i ddod allan ar gefn fy ngheffyl i gael golwg ar y sefyllfa.

Nid oeddem wedi mynd mwy na hyd 3 march i mewn i gawod o fwledi pan gafodd ei daro, roeddwn yn gallu gweld yn glir. Trodd ei geffyl o amgylch y gornel, a syrthiodd yntau mewn coedwig fechan. Nid oedd amser gennyf i’w helpu, gadawyd 2 ddyn ar ôl, gydag un yn parhau i danio.

Gyrrwyd y gelyn ar ffo, lladdwyd un swyddog a naw o ddynion yn agos at ei gilydd, gan ladd eraill ymhellach i ffwrdd hefyd.  Ymosodwyd ar eu llu cynorthwyol am 10am. Daeth y gorchymyn i ymgilio wrth i’r ffrwydron ddechrau glanio gerllaw.  Collodd Head nifer o ddynion wrth ymgilio, gan gynnwys y llanc Hill.

Aethom i lawr i’r pentref i weld pwy a laddwyd, rhoi trefn ar y ceffylau clwyfedig ac ati.

Yna ymlaen i Néry, roedd fy holl eiddo wedi’i ysbeilio ac roedd y lle’n annibendod llwyr. Llwyddodd Magnelfa L i achub y gynnau, er lladdwyd llawer o’r dynion.

Roedd ceffylau’n gorwedd mewn rhesi, ac roedd dynion, offer ac ati wedi’u malurio.

Cipiwyd 10 o gynnau’r Almaenwyr, yn bennaf drwy danio gynnau peiriannol.

Yn raddol symudom yn ôl i bentref.

Dydd Mercher 2 Medi 1914

Ymdeithiwyd gyda’r wawr drwy Goedwig Ermenonville, gan fynd yn betrus iawn drwy’r llystyfiant trwchus.

Roedd hi’n amlwg bod yr Almaenwyr wedi mynd drwy’r goedwig ar garlam, roedd ceffylau, cotiau ac ati blith draphlith.

Rhoddwyd dŵr i’r ceffylau mewn pant, yna aeth y sgwadron i felin wynt i gynorthwyo’r 11eg Hwsariaid yn erbyn dau farchoglu o Wlaniaid, ond ni fu brwydr yno.

Roedd Sgwadron A yn amddiffyn cefn y llu.  Cysgais mewn gardd plasty ar gaeadau pren gwyrdd, cafwyd blancedi a brandi o’r fferm fawr, a ffowls hefyd.

Dydd Iau 3 Medi 1914

Symudwyd yn ôl tua’r de gyda’r wawr. Ymdaith hir mewn tywydd poeth, gyda Sgwadron A yn amddiffyn ystlys y Frigâd.

Rhoddwyd dŵr i’r ceffylau mewn camlas ger coedwig am yna ymlaen tuag at Baris. Rwy’n dechrau meddwl mai celwydd yw’r holl sôn am ymgilio strategol.

Cefais gwrw wrth fynd drwy pentref.

Marchogais geffyl Ansell, Napper Tandy, ceffyl garw ac anghyfforddus ydyw.

Cyrhaeddais drwy gae mawr halogedig yng ngolau’r haul. Roedd yr Adran gyfan yno. Roedd si ar led ein bod am daflu popeth o’r wagenni a symud ar unwaith. Nid oedd hynny’n wir, ac ymdrochais yn llif cyflym afon Savonne gyda Winnie.

Bwytasom ein pryd o fwyd catrodol ein hunain, oll gyda’n gilydd yn y tywyllwch, gan ddefnyddio ein bysedd i rwygo’r bwyd.

Mae’r holl weision traed ac ati ar goll.

Dydd Gwener 4 Medi 1914

Diwrnod o orffwys o’r diwedd, ond mae’r gwersyll yn drewi ac yn llawn clêr. Mae fy llety i ger aradr. Rwy’n ceisio anfon telegram at V, ond nid yw hynny’n bosibl.

Ymdrochais yn afon Marne ar ôl cael cwsg fach.

Dydd Sadwrn 5 Medi 1914

Ymdeithiwyd heibio i Chennevieres, Boissy St Ledger, a Perigny i Moissy Cramage.

Gosodwyd llinellau am 2pm, dwy awr yn ddiweddarach aethom gyda gweddill y Frigâd drwy Verneuil i Aub Pierre lle nad oedd unrhyw ddŵr ar gael. Ymdaith hir o 40 milltir, diflannodd yr holl filwyr traed. Aros mewn plasty am ychydig oriau. Tywydd poeth.

Aethom i Luigny, sef y man pellaf i’r de a therfyn eithaf yr ymgiliad.

Nawr rydym yn dechrau symud ymlaen.

Dydd Sul 6 Medi 1914

Ymdeithiwyd am 6.30am i’r gogledd-ddwyrain gyda’r nod o ymosod.

Roedd yr Almaenwyr wedi mynd heibio i Baris ac i’r de-ddwyrain i ymosod ar ystlys chwith byddin Ffrainc, ac rydym yn mynd tua’r gogledd-ddwyrain i ymosod ar ystlys dde yr Almaenwyr.

 Ar ôl gorffwys, symud ymlaen un filltir, ac yna aros eto am nifer o oriau. Mynd i’n llety am 7pm, rhywfaint o ddryswch, y Frigâd 1af yn y pentref a Brigâd arall yn mynd i lety arall yn bellach ymlaen.

Dydd Llun 7 Medi 1914

Gadael y llety am 5.30am.

Cyhoeddodd Syr John French orchymyn yn nodi bod Byddin Prydain wedi bod yn cael amser caled, ond ei bod nawr am gydweithredu â Byddin Ffrainc.

Roedd y gelyn yn ymgilio, dan bwysau dwy Frigâd o farchfilwyr. Roedd dŵr mewn tyllau yn y ddaear.

Daeth aelod o’r 9fed Gwaywyr gyda gwayw doredig yn sôn am gyrch 2 farchoglu yn erbyn 1 ½ sgwadron o Wlaniaid a sut y bu iddo drywanu 3 ohonynt. Soniodd hefyd am danio llwyddiannus y 18fed Hwsariaid.

Aethom heibio i Almaenwyr clwyfedig, carcharorion rhyfel ac ambell gelain yn y strydoedd. Roedd Choisy’n llanast llwyr, wedi’i hysbeilio gan yr Almaenwyr.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s