Yng nghanol mis Mai dechreuodd aelodau Cymdeithas Genedlaethol y Cymdeithasau Celfyddyd Addurnol a Chain (NADFAS) weithio ar ddau broject gwirfoddoli gwahanol yn Adran Gadwraeth Archifau Morgannwg. Cynhelir y projectau ar foreau Mawrth a phrynhawn dydd Iau, gyda phob sesiwn yn cynnwys grŵp o bump o wirfoddolwyr.
Mae pob grŵp yn gweithio ar broject gwahanol. Mae gwirfoddolwyr sesiwn dydd Mawrth yn gweithio ar lanhau ac ailbacedu rhai o fapiau a dosraniadau’r degwm a gedwir yn Archifau Morgannwg. Gwneir hyn gyda sbyngau glanhau sych a rwberi finyl, gan roi gofal a sylw i beidio dileu unrhyw nodiadau ar y mapiau, yn enwedig y rheiny a wnaed â phensel. Gall hwn fod yn waith budr iawn ar brydiau; yn yr achosion hyn mae effaith y gwaith ar y map yn amlwg.Ond weithiau gall ymddangos nad yw’r gwaith yn gwneud fawr o wahaniaeth i gyflwr cyffredinol y map.Mewn llawer o achosion mae hyn o ganlyniad i waith atgyweirio blaenorol yn dyddio o’r 1940au a 1950au ac mae cryn dipyn o’r baw bellach wedi dod yn rhan annatod o’r mapiau. Rydym yn ffodus iawn nad yw hyn yn digalonni ein gwirfoddolwyr o gwbl ac maent yn gwneud cynnydd da o ran glanhau mapiau’r degwm.
Mae’r ail broject yn cynnwys glanhau, ad-drefnu a rhestru rhestrau cytundebau criwiau llongau ar gyfer blynyddoedd cyfrifiad, yn dechrau gydag 1901. Yn gyntaf mae’n rhaid i’r gwirfoddolwyr lanhau pob cytundeb unigol gyda sbwng glanhau sych. Mae’r sbyngau, neu’r sbyngau mwg fel y’u gelwir, yn codi llawer o’r baw ac yn ei ddal y tu mewn iddynt. Unwaith y byddant wedi glanhau cytundebau’r criwiau cânt eu had-drefnu gan ddefnyddio rhifau swyddogol y llongau. Yna gallant ddechrau ar y broses o restru enwau’r holl bobl y mae eu henwau ar y cytundebau, ynghyd â’r wybodaeth amdanynt. Bydd y wybodaeth hon ar gael ar-lein yn y dyfodol.