Cofnodion Busnes Nwy Aberdâr, a adwaenid gynt fel yr Aberdâr and Aberaman Consumers Gas Company, oedd y 75ain derbyniad ym 1965.
Sefydlwyd y cwmnïau nwy cyntaf yn ne Cymru yn ystod y cyfnod rhwng 1820 a 1830. Oherwydd llwyddiant y cwmnïau hyn o ran darparu nwy ar gyfer goleuo yn Abertawe a Chaerdydd yn 1821, ac yna yng Nghasnewydd yn 1825, sefydlwyd rhagor o fusnesau mewn rhanbarthau megis Merthyr Tudful, 1836; Pontypridd, 1850; Dowlais, 1856; a Phen-y-bont ar Ogwr, 1869.
Erbyn canol y 19eg Ganrif, roedd cwyno cyffredinol am weithgareddau llawer o’r busnesau. Arweiniodd hyn at basio Deddfau Seneddol i reoleiddio’r diwydiant. Roedd y rhain yn cynnwys Deddfau Adrannau Nwy 1847 a 1871 a Deddf Gwerthiant Nwy 1859.
Yn ystod ail hanner y 19eg Ganrif, bu nifer o ddatblygiadau yn y diwydiant a daeth nifer o gwmnïau ynghyd i greu cwmnïau daliannol dan berchenogaeth awdurdodau lleol. Roedd nifer o fusnesau bach yng Nghwm Rhymni er enghraifft:Cwmni Golau Nwy a Dŵr Caerffili Cyf, 1869; Cwmni Nwy a Dŵr Hengoed Cyf, 1877; Cwmni Nwy a Dŵr Bargoed Cyf, 1877, a Chwmni Nwy a Dŵr Cymoedd Rhymni ac Aber Cyf , 1878. Daeth y cwmnïau hyn i gyd at ei gilydd dan Ddeddf Seneddol Arbennig ym 1898 i greu Cwmni Nwy a Dŵr Cymoedd Rhymni ac Aber.
Rhwng y 1880au a blynyddoedd ffyniannus y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd galw cynyddol am nwy, a cheisiwyd sawl gwaith ehangu a gwella’r ffatrïoedd cynhyrchu lleol. Ond effeithiodd y Dirwasgiad yn fawr ar ddiwydiant nwy Cymru, ac aeth llawer o gwmnïau i’r wal. Aeth y broses o gyfuno busnesau yn ei blaen. Gwladolwyd y diwydiant nwy ym 1949, a chrëwyd Bwrdd Nwy Cymru – y diwydiant cyhoeddus cyntaf oedd yn weithredol ar hyd a lled Cymru gyfan.
Etifeddwyd cofnodion y cyrff blaenorol i gyd gan Fwrdd Nwy Cymru. Dim ond un o’r cwmnïau hynny oedd Busnes Nwy Aberdâr. Mae gennym hefyd gofnodion y cwmnïau canlynol: Busnes Nwy y Barri; Busnes Nwy Pen-y-bont ar Ogwr; Cwmni Nwy Caerdydd; Cwmni Nwy y Bontfaen; Busnes Nwy Dowlais; Busnes Nwy Garw ac Ogwr; Busnes Nwy Llantrisant; Busnes Nwy Maesteg a Glyncorrwg; Busnes Nwy Merthyr Tudful; Busnes Nwy Porthcawl; Busnes Nwy Pontypridd; Busnes Nwy y Rhondda, a Nwy Rhymni ac Aber.
O gyfnod 1966 tan 1949 y daw cofnodion Busnes Nwy Aberdâr. Maen nhw’n cynnwys Deddfau Seneddol, cynlluniau, cofnodion, adroddiadau, llyfrau cyfrifon, llyfrau cyflog, cofrestri rhanddeiliaid, gohebiaeth, cytundebau a chontractau.