Fe’m hatgoffwyd yr wythnos ddiwethaf pa mor bwysig yw cael amodau storio sy’n cydymffurfio â safonau Prydeinig a rhyngwladol. Gwnaed cais am focs o ddogfennau yn yr ystafell ymchwil gan ein Huwch Archifydd, ac wrth ei gyflwyno darganfuwyd bod llwydni byw ar y dogfennau. Ar y pwynt hwn fe’m galwyd i gadarnhau’r darganfyddiad. Mae llwydni’n ffynnu mewn amodau storio gwael lle mae lleithder cymharol uchel a thymheredd uchel neu isel, ac yn bwydo ar y proteinau yn y memrwn, glud, seliwlos a seis sydd mewn papur.
Roedd y bocs o ddogfennau’n cael ei gadw mewn storfa allanol heb unrhyw systemau i fonitro a rheoli’r amgylchedd. Roedd mannau tamp ac amrywiadau tymheredd sylweddol, a’r cwbl yn bygwth lles hir dymor deunydd archif. Amodau storio gwael oedd y prif ysgogiad dros adleoli’r gwasanaeth archif yn 2010. Roedd angen y storfeydd allanol ers y 1960au oherwydd bod yr hen adeilad yn orlawn, ac ychydig iawn ohonynt oedd yn addas i’r diben. Y newyddion da yw ar ôl cael ei symud i amodau storio sefydlog mae tyfiant llwydni’n arafu ac yn y diwedd yn marw, proses a all gymryd tua 5 mlynedd neu fwy. Rydym yn ein pumed flwyddyn yn yr adeilad newydd gyda’r holl gasgliad ar y safle ac mewn cyflwr ardderchog.
Er mwyn gwneud yn siŵr, roedd rhaid archwilio eitemau a chasgliadau eraill a gedwid yn yr un storfa allanol â’r bocs hwn. Gyda chymorth Amanda (un o’r gwirfoddolwyr cadwraeth) a Mary (sydd gyda ni ar brofiad gwaith) fe wnes i ddechrau ar helfa llwydni. Hyd yma rydym wedi darganfod olion llwydni mewn 30 bocs. Pan ddarganfyddir llwydni mewn bocs, caiff ei symud i ardal ar wahân lle gall y llwydni sychu allan cyn dechrau ar y gwaith glanhau. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio teclynnau arbenigol a gwisgo dillad amddiffynnol gan fod y llwydni nid yn unig yn frwnt, ond hefyd yn gallu bod yn beryglus i iechyd.
Gall llwydni fod yn y dogfennau cyn iddynt ddod atom ac mae gennym nawr system (a lle) i wirio pob rhodd a’u glanhau a’u pecynnu cyn eu rhoi ar y silff yn yr ystafelloedd diogel. Roedd y darganfyddiad diweddar yn ein hatgoffa o’r hen ddyddiau drwg ac yn ysgogiad i barhau â’r gweithdrefnau newydd. Ar hyn o bryd mae staff yn gwirio pob bocs yn y casgliad i gadarnhau eu lleoliad a’u cynnwys. Mae anghenion cadwraethol yn cael eu nodi ac mae adnabod llwydni’n flaenoriaeth.
Mae defnyddwyr a staff yn rhoi sylwadau rheolaidd ar ba mor fuddiol yw bod mewn cyfleuster pwrpasol. Mae’n beth da ein bod ni’n cael ein hatgoffa bod mwy o angen symud y dogfennau na’n symud ni!